Adran 29 – Hysbysiadau cosbau penodedig
68.Mae’r adran hon yn caniatáu i bersonau sy’n gweithredu ar ran awdurdodau trwyddedu, drwy hysbysiad, gynnig i bersonau, yr amheuir eu bod yn cyflawni trosedd o dan y Rhan hon, gyfle i ryddhau eu hunain o unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig. Ni chaniateir i’r cynnig gael ei wneud ond drwy hysbysiad a rhaid i’r person sy’n gwneud y cynnig fod wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod trwyddedu i wneud hynny. Ni chaniateir i hysbysiadau cosb benodedig gael eu cynnig i bersonau yr amheuir eu bod wedi cyflawni troseddau o dan adran 13(3) neu adran 38(4).
69.Pan fo hysbysiad mewn cysylltiad â throsedd wedi ei roi i berson, ni chaniateir i achos ar gyfer collfarn gael ei ddwyn cyn bod cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad wedi dod i ben. Os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod, ni chaniateir i’r person hwnnw gael ei gollfarnu am y drosedd. Nodir y broses ar gyfer rhoi hysbysiad yn adran 48.
70.Rhaid i hysbysiad nodi nifer o faterion. Rhaid iddo ddarparu gwybodaeth resymol am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd. Rhaid iddo hefyd ddatgan y cyfnod na fydd achos yn cael ei ddwyn ynddo, swm y gosb benodedig a’r person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu.
71.£150 yw’r gosb benodedig o dan yr adran hon oni bai bod y drosedd yn un sy’n dwyn yn ei sgil ddirwy nad yw wedi ei chyfyngu i’r raddfa safonol ar gyfer dirwyon, ac yn yr achos hwnnw mae’n £250. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i amrywio’r symiau hyn drwy orchymyn.
72.Caniateir i’r taliad gael ei wneud drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb mewn arian parod neu fel arall, neu drwy ddull arall, y bydd yn rhaid iddo fod yn dderbyniol i’r awdurdod trwyddedu. Os yw’n cael ei bostio, caiff y taliad ei drin fel petai wedi ei wneud pan fyddai’r llythyr wedi ei ddosbarthu yn y post yn ôl y drefn arferol. Ni chaniateir i dderbyniadau o hysbysiadau cosb benodedig gael eu defnyddio gan awdurdod trwyddedu ond ar gyfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi Rhan 1 o’r Ddeddf.
73.Diffinnir yr “awdurdod trwyddedu” ar gyfer yr adran hon yn is-adran (10)(a) i (d). Caiff awdurdod tai lleol nad yw’n awdurdod trwyddedu ar gyfer ei ardal arfer y swyddogaethau o dan yr adran hon yn ei ardal mewn perthynas â throsedd o dan adran 10(a); ond mae angen i’r awdurdod tai lleol gael cydsyniad yr awdurdod trwyddedu perthnasol ymlaen llaw i wneud hynny.