Adran 2 – Ystyr y prif dermau
3.Mae’r adran hon yn nodi ystyr y prif dermau a ddefnyddir yn Rhan 1 o’r Ddeddf ac yn ei gwneud yn glir pa fath o denantiaethau sydd i’w cwmpasu gan y diffiniad o “tenantiaeth ddomestig”. Mae’r adran yn egluro ymhellach mai dim ond i “eiddo ar rent ” sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru y mae darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys.
4.Mae adran 2 hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu ffurfiau eraill ar denantiaeth sydd i’w cynnwys yn y diffiniad o “tenantiaeth ddomestig” ac a fyddai felly yn dod yn ddarostyngedig i’r drefn cofrestru a thrwyddedu o dan Ran 1.