20Sefydlu: pwerau ymyrrydLL+C
(1)Mae Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol) yn cael effaith mewn perthynas â dyletswyddau a osodir a phwerau a roddir yn rhinwedd adran 17 fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod lleol yn cynnwys—
(a)corff llywodraethu (o fewn yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) sefydliad addysg bellach, a
(b)corff priodol ac eithrio corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol arbennig nas cynhelir felly neu awdurdod lleol.
(2)At ddibenion is-adran (1), mae cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 yn orfodadwy drwy waharddeb (yn hytrach na gorchymyn gorfodol) ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
(3)Nid yw’r adran hon yn rhagfarnu Rhan 2 o Ddeddf 2013 fel y mae’n gymwys i—
(a)cyrff llywodraethu—
(i)ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru,
(ii)ysgolion arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly, a
(b)awdurdodau lleol yng Nghymru,
mewn cysylltiad ag unrhyw ddyletswyddau a osodir arnynt neu unrhyw bwerau a roddir iddynt yn rhinwedd adran 17.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2A. 20 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(j)