Deddf Addysg (Cymru) 2014

19Apelau yn erbyn penderfyniadau sefydluLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad y corff priodol o dan adran 17(2)(d) apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

(2)Mae unrhyw benderfyniad a wneir ar apêl o’r fath yn derfynol (ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag apelau o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 19 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(k)

I3A. 19 mewn grym ar 1.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/29, ergl. 3(i)