Search Legislation

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, RHAN 11 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 28 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

  • s. 162(4)(ga) inserted by 2022 asc 1 Sch. 4 para. 30(2)(b)
  • s. 163(4A) inserted by 2014 c. 23 s. 75(10) (Effect inserting (4) not applied at s. 163 as it appears to relate to s. 194 in view of the title of the section as cited i.e. "ordinary residence". In s. 194 another (4), identically worded, is inserted on the same date by S.I. 2016/413, regs. 2(1), 316(a))

RHAN 11LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

AmrywiolLL+C

184Ymchwil a darparu gwybodaethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

(a)â’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon,

(b)â’r swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12),

(c)â swyddogaethau’r Byrddau Iechyd Lleol o dan y Ddeddf hon, neu

(d)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

(a)ag unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), neu

(b)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

(3)Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

(a)â’r modd y mae’r awdurdod yn cyflawni unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), a

(b)â’r personau y mae’r awdurdod wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

(a)â’r modd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, a

(b)â’r personau y mae wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i bartner arweiniol Bwrdd Diogelu ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad â’r modd y mae’r Bwrdd hwnnw yn cyflawni ei swyddogaethau.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gwirfoddol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad ag oedolion sydd wedi eu lletya gan y sefydliad neu ar ei ran.

(8)Rhaid cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (4), (5), (6) neu (7) drwy ddarparu’r wybodaeth ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adeg sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(9)Caiff yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu o dan is-adran (4) gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â phlant unigol ac sy’n golygu bod modd adnabod plant unigol, ond dim ond os oes angen yr wybodaeth honno er mwyn llywio—

(a)y broses o adolygu a datblygu polisi ac arfer sy’n ymwneud â llesiant plant, neu

(b)y broses o wneud ymchwil sy’n ymwneud â llesiant plant.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob blwyddyn osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru grynodeb o’r wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adrannau (4), (5), (6) a (7), ond rhaid i’r crynodeb beidio â chynnwys gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod plentyn unigol neu sy’n caniatáu i blentyn unigol gael ei adnabod.

(11)Yn yr adran hon—

  • ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134, ac

  • ystyr “partner arweiniol Bwrdd Diogelu” (“the lead partner of a Safeguarding Board”) yw’r partner Bwrdd Diogelu a bennir fel y partner arweiniol mewn rheoliadau o dan adran 134.

(12)Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1), (2) a (4) yw—

(a)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon;

(b)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol fel partner iechyd meddwl lleol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 184 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 184 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

185Oedolion mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etcLL+C

(1)Wrth ei chymhwyso i oedolyn a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at gael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid yn yr ardal honno.

(2)Wrth ei chymhwyso i oedolyn sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at breswylio mewn mangre a gymeradwywyd yn yr ardal honno.

(3)Wrth ei chymhwyso i oedolyn sy’n preswylio mewn unrhyw fangre arall yng Nghymru am fod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar yr oedolyn fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at breswylio mewn mangre yn yr ardal honno am y rheswm hwnnw.

(4)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (5) yn gymwys yn achos oedolyn—

(a)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(5)Y darpariaethau yw—

(a)adran 110 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 3);

(b)adran 112 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4);

(c)adran 114 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5);

(d)adran 115 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6).

(6)Nid yw adran 127 (gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion) yn gymwys yn achos oedolyn a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid.

(7)Gweler hefyd adran 187 am addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn perthynas â’r canlynol—

(a)oedolion a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, a

(b)oedolion sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 185 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 185 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

186Plant mewn llety cadw ieuenctid, carchar neu lety mechnïaeth etcLL+C

(1)Yn is-adran (2), ystyr “plentyn perthnasol” yw plentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar,

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(c)yn preswylio mewn unrhyw fangre arall am fod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y plentyn fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol.

(2)Pan fo plentyn perthnasol, yn union cyn iddo gael ei gollfarnu o drosedd—

(a)ag anghenion am ofal a chymorth sy’n cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan Ran 4,

(b)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn rhinwedd cael llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod, neu

(c)yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol, ond na fo’n dod o fewn paragraff (a) neu (b),

mae’r plentyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw tra bo’n blentyn perthnasol (ac nid yw i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn ardal unrhyw awdurdod lleol arall neu fel pe bai o fewn yr ardal honno).

(3)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 79 (darparu llety i blant mewn gofal);

(b)adran 80 (cynnal plant sy’n derbyn gofal);

(c)adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal);

(d)adran 82 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety);

(e)adran 109 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2);

(f)adran 114 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5);

(g)adran 115 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6);

(h)paragraff 1 o Atodlen 1 (atebolrwydd am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal).

(5)Nid yw adran 119 (defnyddio llety i gyfyngu ar ryddid) yn gymwys—

(a)mewn perthynas â phlentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(i)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, na

(b)mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.

(6)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn—

(a)sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(i)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, a

(b)yr oedd llety’n cael ei ddarparu iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf Plant 1989 yn union cyn iddo gael ei gollfarnu.

(7)Y darpariaethau yw—

(a)adran 21 (dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth);

(b)adran 37 (dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn);

(c)adran 38 (pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn).

(8)Gweler hefyd adran 187 am addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn perthynas â’r canlynol—

(a)plant a gedwir yn gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, a

(b)plant sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 186 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

187Personau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etcLL+C

(1)Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’r person—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd, yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 50 neu 51 (taliadau uniongyrchol) ei gwneud yn ofynnol na chaniatáu i daliadau gael eu gwneud tuag at y gost o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth os yw’r person hwnnw, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(3)Ni chaniateir i’r pŵer o dan adran 57 (achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol) gael ei arfer yn achos person sydd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

ac eithrio at y diben o wneud darpariaeth mewn cysylltiad â llety i’r person wrth iddo gael ei ryddhau o’r carchar neu o’r llety cadw ieuenctid (gan gynnwys ei ryddhau dros dro), neu wrth i’r person beidio â phreswylio mwyach yn y fangre a gymeradwywyd.

(4)Nid yw adran 58 (gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi) yn gymwys yn achos person—

(a)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 187 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 187 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

188Dehongli adrannau 185 i 187LL+C

(1)Yn adrannau 185 i 187—

  • mae i “carchar” yr ystyr a roddir i “prison” yn Neddf Carchardai 1952 (gweler adran 53(1) o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) yw—

    (a)

    [F1gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016);]

    (b)

    canolfan hyfforddi ddiogel;

    (ba)

    [F2coleg diogel;]

    (c)

    sefydliad troseddwyr ifanc;

    (d)

    llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant;

    (e)

    llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro [F3drwy reoliadau o dan adran 248(1)(f) o'r Cod Dedfrydu] (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi);

  • mae i “mangre a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved premises” gan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007;

  • mae i “mechnïaeth mewn achos troseddol” yr ystyr a roddir i “bail in criminal proceedings” gan adran 1 o Ddeddf Mechnïaeth 1976.

(2)At ddibenion adrannau 185 i 187—

(a)mae person sy’n absennol dros dro o garchar neu lety cadw ieuenctid i’w drin fel pe bai’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid am gyfnod yr absenoldeb;

(b)mae person sy’n absennol dros dro o fangre a gymeradwywyd i’w drin fel pe bai’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd am gyfnod yr absenoldeb;

(c)mae person sy’n absennol dros dro o fangre arall y mae’n ofynnol i’r person breswylio ynddi fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol i’w drin fel pe bai’n preswylio yn y fangre am gyfnod yr absenoldeb.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn a. 188(1) wedi eu hamnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 304(2) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 188 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I10A. 188 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

189Methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleolLL+C

[F4(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.]

(2)Rhaid i awdurdod lleol am ba hyd bynnag ag y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol (ac i’r graddau nad yw eisoes yn ofynnol iddo wneud hynny) ddiwallu—

(a)yr anghenion hynny sydd gan oedolyn am ofal a chymorth, a

(b)yr anghenion hynny sydd gan ofalwr perthnasol am gymorth,

a oedd, yn union cyn i’r [F5darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y darparwr gwasanaeth] (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 190).

(3)Mae’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) ni waeth—

(a)p’un a yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ei ardal ai peidio;

(b)p’un a yw’r awdurdod wedi cynnal asesiad o anghenion neu asesiad ariannol ai peidio;

(c)p’un a fyddai dyletswydd fel arall ar yr awdurdod i ddiwallu’r anghenion hynny o dan y Ddeddf hon ai peidio.

(4)Caniateir i awdurdod lleol osod ffi am ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) (ac eithrio i’r graddau y mae’r anghenion hynny yn cael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth neu gyngor).

(5)Caniateir i ffi o dan is-adran (4)—

(a)cael ei gosod dim ond mewn cysylltiad ag anghenion nad oeddent, yn union cyn i’r [F6darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig], yn cael eu diwallu—

(i)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40, neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, neu

(ii)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52;

(b)cynnwys dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny.

(6)Mae adrannau 60 i 67, 70, 71 a 73 yn gymwys i osod ffi o dan is-adran (4) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i osod ffi o dan adran 59, ac yn unol â hynny mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr is-adran honno yn ddarostyngedig—

(a)i’r ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes darpariaeth), a

(b)i ddyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 ac 67 (os ydynt yn gymwys).

(7)Os nad yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo ddiwallu anghenion o dan is-adran (2)—

(a)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol arall wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40 neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(b)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau y talwyd eu cost yn llwyr neu’n rhannol gan awdurdod lleol arall drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(c)caniateir i’r awdurdod adennill oddi wrth yr awdurdod lleol arall a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) y gost y mae’n ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny sydd gan yr oedolyn neu’r anghenion hynny sydd gan y gofalwr perthnasol y cyfeirir atynt yn y paragraff o dan sylw.

(8)Mae unrhyw anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso’r adran hon i’w ddyfarnu o dan adran 195 fel pe bai’n anghydfod o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) o’r adran honno.

(9)Yn yr adran hon a (lle y bo’n berthnasol) yn adran 190 a 191—

  • [F7“mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”]

  • ystyr “gofalwr perthnasol” (“relevant carer”) yw gofalwr—

    (a)

    sy’n oedolyn, a

    (b)

    sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal i oedolyn arall;

  • [F8“mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”]

  • F9...

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

    (a)

    mewn achos sy’n ymwneud ag anghenion oedolyn am ofal a chymorth, yr oedolyn hwnnw;

    (b)

    mewn achos sy’n ymwneud ag anghenion gofalwr perthnasol am gymorth, yr oedolyn y mae angen gofal arno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I12A. 189 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

190Methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros droLL+C

(1)Nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion a oedd, yn union cyn i’r [F10darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig], yn cael eu diwallu—

(a)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014;

(b)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn yr Alban wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 12 neu 13A o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 25 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003;

(c)o dan drefniadau a wnaed gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14)) neu adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002;

(d)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed—

F11(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F12(ia)by virtue of sections 31 to 33 of the Care Act 2014,]

(ii)o ganlyniad i’r dewis a wnaed gan yr oedolyn yn unol ag adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013, neu

(iii)yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002.

(2)Wrth ddisgwyl i Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014 gychwyn, mae is-adran (1)(a) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

(a)o dan drefniadau a wnaed neu drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarparwyd gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan—

(i)Rhan 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948,

(ii)adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968,

(iii)adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,

(iv)Atodlen 20 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, neu

(v)adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000;.

(3)Wrth ddisgwyl i adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013 gychwyn, mae is-adran (1)(d)(ii) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

(ii)o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, neu.

191Methiant darparwr: materion atodolLL+C

(1)Daw awdurdod lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 189(2) cyn gynted ag y daw’n ymwybodol o’r methiant busnes.

(2)Mae adran 34 (sut i ddiwallu anghenion) ac adrannau 46 i 49 (diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadau) yn gymwys i ddiwallu anghenion o dan adran 189 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45.

(3)Caiff reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y personau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu cynnwys mewn cysylltiad â diwallu anghenion o dan adran 189(2).

(4)Pan fo person y mae ei anghenion yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan adran 189(2) ac y mae gofal parhaus y GIG hefyd yn cael ei ddarparu iddo o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol nad yw unrhyw ran o’i ardal yn ardal yr awdurdod lleol, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i’w drin fel partner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adrannau 162 a 164.

(5)Yn is-adran (4) ystyr “gofal parhaus y GIG” yw gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir yn rhinwedd adrannau 3(1)(e) a 12 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben o gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 189(2), caiff ofyn i’r [F13darparwr gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â busnes y darparwr gwasanaeth] fel y bernir yn briodol ganddo, i ddarparu gwybodaeth iddo.

(7)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth at ddibenion adran 189 a’r adran hon ynglŷn â’r dehongliad o gyfeiriadau at fethiant busnes neu at fethu â gwneud rhywbeth oherwydd methiant busnes; a caiff y rheoliadau, yn benodol, bennu’r amgylchiadau hynny lle y mae person i’w drin fel rhywun sy’n methu â [F14darparu gwasanaeth rheoleiddiedig] oherwydd methiant busnes.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 191 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I16A. 191 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

192Diwygio Deddf Cymorth Gwladol 1948LL+C

Yn adran 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (treuliau swyddogion cyngor sy’n gweithredu fel derbynyddion), ar ôl “Act” mewnosoder “, other than one in Wales,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 192 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I18A. 192 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

AtodolLL+C

193Adennill costau rhwng awdurdodau lleolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i berson sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall (“awdurdod B”), a

(b)pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu naill ai—

(i)i ddiwallu anghenion brys er mwyn diogelu llesiant y person, neu

(ii)gyda chydsyniad awdurdod B.

(2)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu neu drefnu’r gofal a’r cymorth.

(3)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan adran 76(1) i blentyn a oedd (yn union cyn iddo ddechrau gofalu am y plentyn) yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F15neu awdurdod lleol yn Lloegr], caiff adennill oddi wrth yr awdurdod arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn darparu llety o dan adran 77(1) neu (2)(a) neu (b) i blentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall [F16neu awdurdod lleol yn Lloegr] (“awdurdod B”) ac nad yw’n cynnal y plentyn mewn—

(a)cartref cymunedol a ddarparwyd gan awdurdod A,

(b)cartref cymunedol a reolir, neu

(c)ysbyty sydd wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu unrhyw ysbyty arall a roddwyd ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, [F17GIG Lloegr] neu [F18fwrdd gofal integredig] .

(5)Caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth ddarparu’r llety a chynnal y plentyn.

(6)Ac eithrio lle y bo [F19“is-adran (7) neu (8)] yn gymwys, pan fo awdurdod lleol yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) [F20, neu o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau),] mewn perthynas â pherson nad yw’n preswylio fel arfer yn ei ardal, caiff adennill unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo mewn cysylltiad â’r person hwnnw oddi wrth yr awdurdod lleol [F21neu awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(7)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 164(1) neu (2) gan awdurdod lleol arall (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson ac awdurdod B yw’r awdurdod lleol cyfrifol o fewn ystyr adran 104 ar gyfer y person hwnnw, caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

[F22(8)Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau) gan awdurdod lleol yn Lloegr (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson—

(a)ac awdurdod B yw ei awdurdod cyfrifol (o fewn ystyr Rhan 3 o’r Ddeddf honno) at ddibenion adran 23B neu 23C o’r Ddeddf honno, neu

(b)y mae awdurdod B yn ei gynghori neu’n ymgyfeillio ag ef neu y mae’n rhoi cynhorthwy iddo yn rhinwedd adran 24(5)(a) o’r Ddeddf honno,

caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 o’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â’r person hwnnw.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 193 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I20A. 193 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

194Preswylfa arferolLL+C

(1)Pan fo gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth nad oes modd eu diwallu ond os yw’n byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau a bod yr oedolyn yn byw mewn llety yng Nghymru o fath a bennir felly, mae’r oedolyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

(a)yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir felly, yn yr ardal lle’r oedd yr oedolyn yn bresennol bryd hynny.

(2)Pan fo oedolyn, cyn iddo ddechrau byw yn ei lety presennol, yn byw mewn llety o fath a bennir felly (p’un a yw’r llety o’r un fath â’r llety presennol ai peidio), mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y cyfnod y dechreuodd yr oedolyn fyw mewn llety o fath a bennir felly yn gyfeiriad at ddechrau’r cyfnod y mae’r oedolyn wedi bod yn byw mewn llety o un neu fwy o’r mathau a bennir am gyfnodau olynol.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i ddyfarnu at ddibenion is-adran (1) a oes gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth na ellir eu diwallu ond os yw’r oedolyn yn byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau.

(4)Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan ddeddfiad iechyd i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

(a)yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, neu

(b)os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, yn yr ardal lle’r oedd y person yn bresennol bryd hynny.

[F23(4A)Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y mae’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw o dan yr adran honno wedi ei gosod arno.]

(5)Yn is-adran (4) ystyr “deddfiad iechyd” yw—

(a)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(b)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(c)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

(d)Gorchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14));

(e)Deddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009.

(6)Wrth ddyfarnu preswylfa arferol plentyn at ddibenion y Ddeddf hon, mae preswylfa’r plentyn yn y mannau a ganlyn i’w ddiystyru—

(a)ysgol neu sefydliad arall;

(b)man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn goruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989;

(c)man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn adsefydlu ieuenctid [F24ym Mhennod 1 o Ran 9 o'r Cod Dedfrydu];

(d)llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr;

(e)man a bennir mewn rheoliadau.

(7)Gweler hefyd adrannau 185(1) i (3) a 186(2) am ddarpariaeth o ran preswylfa arferol personau sydd mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc.

[F25(8)Am ddarpariaeth ynghylch lleoliadau trawsffiniol i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gweler Atodlen 1 i Ddeddf Gofal 2014.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I22A. 194 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

195Anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorthLL+C

(1)Mae anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf hon, neu anghydfod rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn o dan adran 56 ynghylch cymhwyso’r adran honno mewn perthynas â pherson, i’w ddyfarnu arno gan—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru at y ddiben hwnnw (“person penodedig”).

[F26(1A)Pan fo anghydfod yn un y mae adran 30(2C) o Ddeddf Plant 1989 yn gymwys iddo (cwestiynau ynghylch pa un a yw plentyn yn preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr), yna nid yw is-adran (1) yn gymwys.]

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch datrys anghydfodau o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (1); caiff y rheoliadau wneud, er enghraifft—

(a)darpariaeth i sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu i berson tra bo anghydfod heb ei ddatrys;

(b)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol mewn anghydfod gymryd camau penodedig cyn cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

(c)darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

(d)darpariaeth ynghylch adolygu dyfarniad a wneir o dan is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I24A. 195 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F27195A.Troseddau a gyflawnir gan gyrff neu bartneriaethauLL+C

(1)Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Ddeddf hon, a phrofir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall yn y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

mae’r person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2)At ddibenion yr adran hon, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau yw aelod o’r corff corfforaethol.

(3)Mae achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni o dan y Ddeddf hon gan gorff anghorfforedig i gael ei ddwyn yn enw’r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un neu rai o’i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorfforaeth.

(4)Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig pan y’i collfernir o drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu allan o gronfeydd y corff hwnnw.

(5)Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd o dan y Ddeddf hon, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn cael effaith fel pe bai corfforaeth wedi ei chyhuddo.

(6)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o’r corff neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o’r fath neu unrhyw aelod o’r fath, mae’r person hwnnw yn ogystal â’r corff yn euog o drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(7)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan bartneriaeth neu bartneriaeth yn yr Alban wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.]

CyffredinolLL+C

196Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o achosion, ardaloedd gwahanol neu at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu’n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu ddim ond mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol o achos;

(c)i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchymyn y caniateir i lys neu ynad heddwch ei wneud.

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt.

(6)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau neu’r gorchmynion canlynol (p’un ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd â darpariaeth arall) gael ei wneud onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 3(6), 16(3), 18(3), 32, 37(1), 40(1), 42(1), 119, 127(9), 135(4), [F28149B(5), 149C(1),] 166, 167(3), 168 neu 181;

(b)gorchymyn o dan adran 140 neu 143(2);

(c)rheoliadau o dan adran 198 sy’n diwygio neu ddiddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu mewn un o Fesurau neu Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

[F29(ca)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 83(2B);]

[F30(d)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 144A(2)(b);]

(gweler adrannau 33 a 141 am ofynion pellach mewn perthynas â gwneud rheoliadau o dan adran 32 a gorchmynion o dan adran 140).

(7)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan yr Arglwydd Ganghellor o dan adran 101 yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan y naill neu’r llall o ddau Dŷ’r Senedd.

197Dehongli cyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwydLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “anabl” (“disabled”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “ardal Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board area”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • mae i “asesiad ariannol” (“financial assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 63;

  • ystyr “asesiad o anghenion” (“needs assessment”) yw asesiad o dan Ran 3;

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

    (a)

    cyngor sir yn Lloegr,

    (b)

    cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr lle nad oes cyngor sir,

    (c)

    cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

    (d)

    Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

  • ystyr “awdurdod lleol yn yr Alban” (“local authority in Scotland”) yw cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994;

  • mae “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • ystyr “Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Commissioning Board”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • [F31“ystyr “bwrdd gofal integredig” (“integrated care board”) yw corff a sefydlir o dan adran 14Z25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;]

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “camdriniaeth” a “cam-drin” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys camdriniaeth sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall), ac mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys y canlynol—

    (a)

    bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;

    (b)

    bod person yn cael ei dwyllo;

    (c)

    bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;

    (d)

    bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

  • mae “carchar” (“prison”) wedi ei ddiffinio—

    (a)

    at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1),

    (b)

    at ddibenion adran 134, gan adran 134(11), ac

    (c)

    at ddibenion adran 162, gan adran 162(11);

  • mae i “cartref cymunedol” (“community home”) a “cartref cymunedol a reolir” (“controlled community home”) yr ystyron a roddir i “community home” a “controlled community home” gan adran 53 o Ddeddf Plant 1989;

  • [F32o ran “cartref gofal” (“care home”)—

    (a)

    mae iddo yr un ystyr â “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr; a

    (b)

    ei ystyr yw man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion;]

  • [F33ystyr “cartref plant” (“children’s home”) yw—

    (a)

    cartref plant yn Lloegr o fewn ystyr Deddf Safonau Gofal 2000 y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag ef; a

    (b)

    [F34man yng Nghymru y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn cysylltiad ag ef i ddarparu—

    (i)

    gwasanaeth cartref gofal (o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno) yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, neu

    (ii)

    gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno);]]

  • ystyr “cartref plant preifat” (“private children’s home”) yw cartref plant nad yw’n—

    (a)

    cartref cymunedol, na

    (b)

    cartref gwirfoddol (o fewn yr ystyr a roddir i “voluntary home” gan adran 60 o Ddeddf Plant 1989);

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” (“parental responsibility”) yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw—

    (a)

    ac eithrio yn adrannau 140(2)(b), 172(7) a 198(2)(b), darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu rai o’r canlynol (pa bryd bynnag y byddant wedi eu deddfu neu eu gwneud)—

    (i)

    Deddf Seneddol;

    (ii)

    Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (iii)

    Deddf Senedd yr Alban;

    (iv)

    deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn ystyr “Northern Ireland legislation” yn Neddf Dehongli 1978);

    (v)

    is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiad sy’n dod o fewn is-baragraffau (i) i (iv);

    (b)

    yn adrannau 140(2)(b), 172(7) a 198(2)(b), darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu rai o’r canlynol (pa bryd bynnag y byddant wedi eu deddfu neu eu gwneud)—

    (i)

    Deddf Seneddol;

    (ii)

    Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (iii)

    is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiad sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu (ii);

  • ystyr “esgeulustod” (“neglect”) yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person neu, yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn);

  • mae “ffi safonol” (“standard charge”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 5 gan adran 63(3);

  • mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) yr ystyr a roddir gan adran 4;

  • mae i “gofalwr” (“carer”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • [F35“ystyr “GIG Lloegr” (“NHS England”) yw’r corff a sefydlir o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;]

  • F36...

  • mae i “gwarcheidwad arbennig” (“special guardian”) a “gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig” (“special guardianship order”) yr ystyr a roddir i “special guardian” a “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989;

  • mae “gwasanaethau” (“services”) yn cynnwys cyfleusterau;

  • mae i “llesiant” (“well-being”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • mae “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • mae “magwraeth” (“upbringing”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys gofal dros y plentyn ond nid cynhaliaeth y plentyn;

  • mae “mangre a gymeradwywyd” (“approved premises”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • mae “mechnïaeth mewn achos troseddol” (“bail in criminal proceedings”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • ystyr “meini prawf cymhwystra” (“eligibility criteria”) yw meini prawf a osodir o dan adran 32;

  • ystyr “niwed” (“harm”), mewn perthynas â phlentyn, yw camdriniaeth neu nam ar—

    (a)

    iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu

    (b)

    datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol,

    a phan fo’r cwestiwn a yw’r niwed yn sylweddol yn troi ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, mae iechyd neu ddatblygiad y plentyn i’w gymharu â’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol gan blentyn tebyg;

  • mae i “oedolyn” (“adult”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • ystyr “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” (“specified”) ac ymadroddion cytras, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw penodedig mewn rheoliadau;

  • ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â phlentyn, yw llys-riant, tad-cu/taid, mam-gu/nain, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);

  • mae i “plentyn” (“child”) [F37, ac eithrio yn adran 83(2C),] yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”), ac eithrio mewn perthynas ag adran 101, yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • [F38ystyr “rhiant maeth awdurdod lleol” (“local authority foster parent”) yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd—

    (a)

    adrannau 87 a 93;

    (b)

    paragraff 12F o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol);]

  • ystyr “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff (ac eithrio corff cyhoeddus neu [F39awdurdod lleol]) nad yw ei weithgareddau’n cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;

  • mae i “swyddog achosion teuluol Cymru” (“Welsh family proceedings officer”) yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” gan adran 35 o Ddeddf Plant 2004;

  • ystyr “swyddogaeth” (“function”) yw pŵer neu ddyletswydd;

  • mae i “swyddogaethau addysg” (“education functions”) yr ystyr a roddir i “education functions” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “terfyn ariannol” (“financial limit”) yr ystyr a roddir gan adran 66(5);

  • mae “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac unrhyw berson arall y mae’r plentyn wedi bod yn byw gydag ef;

  • ystyr “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yw tîm a sefydlir o dan adran 39 o Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” (“NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care trust”) yw ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991 (O.S. 1991/194 (N.I. 1));

  • mae i “Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG” (“NHS Foundation Trust”) yr ystyr a roddir i “NHS Foundation Trust” gan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae i “ysbyty” (“hospital”) yr ystyr a roddir i “hospital” gan adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • mae i “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”)—

    (a)

    o ran Cymru, yr ystyr a roddir i “independent hospital” gan adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a

    (b)

    o ran Lloegr, yr ystyr a roddir i “hospital” fel y’i diffinnir gan adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 nad yw’n ysbyty gwasanaeth iechyd fel y diffinnir “health service hospital” gan yr adran honno.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr ystyr a roddir gan adran 74;

[F40(b)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yr ystyr a roddir i gyfeiriad yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989 at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr;]

(c)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn yr Alban yr un ystyr â chyfeiriad ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 at blentyn sy’n derbyn gofal (“looked after”) gan awdurdod lleol (gweler adran 17(6) o’r Ddeddf honno);

(d)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr un ystyr â chyfeiriad yng Ngorchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (O.S. 1995/755 (N.I. 2)) at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod (gweler erthygl 25 o’r Gorchymyn hwnnw).

(3)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn sydd o dan ei ofal yn rhinwedd gorchymyn gofal (o fewn yr ystyr a roddir i “care order” gan Neddf Plant 1989).

(4)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn gyfeiriad at lety a ddarperir felly wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod hwnnw neu unrhyw awdurdod lleol arall sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(5)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at y ffaith bod gan, neu nad oes gan, berson alluedd mewn perthynas â mater i’w ddehongli fel cyfeiriad at y ffaith bod gan, neu nad oes gan, berson alluedd o fewn ystyr “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn perthynas â’r mater hwnnw.

(6)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at gael awdurdodiad o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn gyfeiriad at gael awdurdodiad fel—

(a)rhoddai atwrneiaeth arhosol a grëwyd o dan y Ddeddf honno, neu

(b)dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o’r Ddeddf honno.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod Cyngor Ynysoedd Scilly i’w drin fel awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion y Ddeddf hon, neu at ddibenion darpariaethau penodol y Ddeddf hon, gydag unrhyw addasiadau a bennir.

Diwygiadau Testunol

F33Geiriau yn a. 197(1) wedi eu hamnewid (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 36(b); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag ergl. 6)

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 197 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

198Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etcLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill)—

(a)darparu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n dod i rym cyn bod unrhyw ddarpariaeth arall wedi dod i rym yn cael effaith, hyd nes y bydd y ddarpariaeth arall honno wedi dod i rym, gydag addasiadau penodedig;

(b)diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon) a basiwyd neu a wnaed ar neu cyn y dyddiad y caiff y Ddeddf hon ei phasio.

(3)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n cyfyngu’r pŵer yn rhinwedd adran 196(2) i gynnwys darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn gorchymyn o dan adran 199(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 198 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

199CychwynLL+C

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

  • Rhan 1;

  • adran 196;

  • adran 197;

  • adran 198;

  • yr adran hon;

  • adran 200.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(3)Caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (2) bennu gwahanol ddiwrnodau at wahanol ddibenion.

(4)Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (2) gychwyn y ddarpariaeth yn is-adrannau (1) a (2) o adran 32 cyn bod rheoliadau a wneir o dan is-adrannau (3) a (4) o’r adran honno wedi dod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 199 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

200Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 200 mewn grym ar 2.5.2014, gweler a. 199(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources