Adran 128 – Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy’n wynebu risg
370.Mae adran 128 yn ei gwneud yn ofynnol i ‘bartner perthnasol’ awdurdod lleol (fel y’i diffinnir yn adran 162) hysbysu’r awdurdod lleol os yw’n amau bod person yn ei ardal yn oedolyn sy’n wynebu risg (neu os yw’r person yn ardal awdurdod lleol arall, bod yr awdurdod lleol hwnnw yn hysbysu’r awdurdod lleol arall). Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdod lleol hysbysu awdurdod lleol arall (yng Nghymru neu yn Lloegr) os yw oedolyn y mae’n amau ei fod yn wynebu risg yn byw yn ardal yr awdurdod arall hwnnw neu’n symud iddi.