Adran 47 – Eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd
173.Mae adran 47 yn nodi cyfyngiadau ar bwerau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau iechyd.
174.Y man cychwyn (is-adran (1)) yw na chaniateir i awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth drwy ddarparu gwasanaethau gofal iechyd y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiad iechyd (a ddiffinnir yn is-adran (10)). Mae’r gwaharddiad hwn yn gymwys hefyd mewn perthynas â phwerau awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ataliol o dan adran 15.
175.Fodd bynnag, nid yw’r gwaharddiad hwn yn gymwys ynglŷn â darparu gwasanaethau gofal iechyd sy’n gysylltiedig â rhywbeth arall y mae’r awdurdod lleol yn ei wneud i ddiwallu anghenion person o dan adrannau 35 i 45 neu â’r ddarpariaeth o wasanaethau eraill o dan adran 15 neu sy’n ategol at hynny. Caiff awdurdodau lleol o dan amgylchiadau penodol ganiatáu i staff sydd â hyfforddiant, cymorth a goruchwyliaeth briodol ymgymryd â thasgau penodedig sy’n gysylltiedig ag iechyd wrth ddarparu gofal cymdeithasol. Enghraifft o hyn yw’r ddarpariaeth o gymorth i roi meddyginiaeth benodol.
176.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o ran p’un a oes gan awdurdodau lleol bwerau i ddarparu mathau penodol o wasanaethau neu gyfleusterau ai peidio ac o ran p’un a yw’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd yn “gysylltiedig neu’n ategol”.
177.Hyd yn oed pan fo gan awdurdod lleol y pŵer i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd, fe’i gwaherddir o hyd rhag diwallu anghenion neu ddarparu gwasanaethau ataliol drwy ddarparu neu drefnu’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig. Diffinnir “gofal nyrsio” yn is-adran (10).
178.Mae is-adran (6) yn egluro nad yw’r gwaharddiad ar awdurdod lleol rhag darparu gofal nyrsio yn atal yr awdurdod rhag trefnu i ddarparu llety mewn cartref nyrsio, ar yr amod bod y corff GIG perthnasol (a bennir mewn rheoliadau) wedi cydsynio i hynny, neu fod yr achos yn un brys ac y ceir cydsyniad cyn gynted â phosibl ar ôl i’r trefniadau gael eu gwneud. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd yr elfen o ofal nyrsio yn cael ei chyllido gan y GIG yn unol â threfniadau ar gyfer gofal nyrsio sy’n cael ei gyllido gan y GIG.
179.Mae is-adran (8) yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud sy’n ei gwneud yn ofynnol i drefniadau gael eu sefydlu mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng awdurdodau lleol a chyrff GIG.
180.Caiff rheoliadau o dan is-adran (8) hefyd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd rhan yn y broses ar gyfer asesu anghenion gofal iechyd person a phenderfynu sut i ddiwallu’r anghenion hynny. Gellid gwneud rheoliadau o dan yr is‑adran hon, er enghraifft, i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd rhan yn y gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu cymhwystra am Ofal Iechyd Parhaus.
181.Mae is-adran (9) yn egluro nad yw’r adran hon yn gwahardd awdurdodau lleol rhag gwneud unrhyw beth y mae ganddynt, yn awdurdodau lleol, y pŵer i’w wneud o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hyn yn cynnwys, yn benodol, ymrwymo i drefniadau partneriaeth gyda chyrff GIG o dan adran 33 o Ddeddf 2006.