Adran 46 – Eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo
172.Mae adran 46 yn gymwys mewn perthynas ag oedolion sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo o fewn ystyr adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn o’r fath sydd wedi codi dim ond oherwydd bod yr oedolyn yn ddiymgeledd neu oherwydd effeithiau corfforol, disgwyliedig neu wirioneddol, bod yn ddiymgeledd. Mae’n disodli eithriadau presennol a nodir, er enghraifft, yn adrannau 21(1A) ac (1B) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac adran 45(4A) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968.