Adran 21 – Dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth
50.Mae adran 21 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas ag asesu anghenion plentyn i’r ddarpariaeth a wneir gan adran 19 mewn perthynas ag asesu anghenion oedolyn. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol asesu a oes ar blentyn anghenion am ofal a chymorth yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn ac os oes, beth yw’r anghenion hynny. Ysgogir y ddyletswydd pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar blentyn anghenion am ofal a chymorth. Rhagdybir bod angen gofal a chymorth ar blentyn anabl yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn. Mae hyn yn golygu y bydd awdurdod lleol, yn y rhan fwyaf o achosion, o dan rwymedigaeth i asesu anghenion plentyn anabl.
51.Mae’r ddyletswydd i wneud yr asesiad yn gymwys ni waeth beth fo lefel angen y plentyn am ofal a chymorth. Mae’r ddyletswydd i asesu hefyd yn gymwys ni waeth beth fo adnoddau ariannol unrhyw oedolyn y gellid gosod ffi arno am ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth.
52.Mae ystyriaethau penodol yn gymwys i asesu plant. Rhaid i’r asesiad ystyried anghenion datblygiadol y plentyn, a cheisio canfod y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu sicrhau, gan ystyried oedran a dealltwriaeth y plentyn wrth wneud hynny. Rhaid iddo hefyd geisio canfod y canlyniadau y mae’r rheini a chanddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn dymuno i’r plentyn eu sicrhau, i’r graddau y mae hyn yn briodol gan roi sylw i’r angen i hyrwyddo llesiant y plentyn, a chanfod y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a bennir mewn rheoliadau yn dymuno i’r plentyn eu sicrhau. Gallai’r canlyniadau hynny gynnwys canlyniadau sy’n ymwneud â datblygiad corfforol, cymdeithasol neu ymddygiadol ac, i blant hŷn, ganlyniadau sy’n ymwneud â sgiliau hunanofal neu fynediad i addysg a hyfforddiant.
53.Rhaid asesu i ba raddau y gallai’r ddarpariaeth o ofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, neu’r ddarpariaeth o wybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu anghenion y mae’r asesiad yn eu canfod. Er enghraifft, gallai fod modd i rai anghenion plentyn gael eu diwallu drwy fynediad i wasanaethau megis clybiau ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf neu Dechrau’n Deg, wrth ei gwneud yn ofynnol ar yr un pryd gael cynllun gofal a chymorth a reolir er mwyn diwallu anghenion eraill sy’n cael eu canfod drwy’r fframwaith asesu.
54.Mae is-adran (4)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r asesiad ystyried, yn ychwanegol, i ba raddau y gallai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau a ddymunir neu fel arall ddiwallu anghenion y plentyn. Gallai’r materion hynny, er enghraifft, gynnwys addysg neu ddarpariaeth tai.
55.Wrth gynnal yr asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys y plentyn ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
56.Rhaid i’r asesiad ei hun fod yn un cymesur. Caiff rheoliadau o dan adran 30 osod gofynion pellach mewn perthynas â’r asesiad.
57.Nid yw’r ddyletswydd i wneud asesiad o dan yr adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon. Gwneir darpariaeth ar wahân yn Rhan 6 ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru.