Adran 19 – Dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth
38.Mae adran 19 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu a oes ar oedolyn anghenion am ofal a chymorth ac os oes, beth yw’r anghenion hynny. Ysgogir y ddyletswydd pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar oedolyn anghenion o’r fath.
39.Mae is-adran (3) yn egluro bod y ddyletswydd i wneud asesiad yn gymwys ni waeth beth fo lefel yr angen am ofal a chymorth a lefel adnoddau ariannol yr oedolyn.
40.Rhaid i’r asesiad ganolbwyntio ar y canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu sicrhau yn ei fywyd beunyddiol: er enghraifft, i allu byw gartref a bwydo’i hun. Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y gallai’r ddarpariaeth o ofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, neu’r ddarpariaeth o wybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, helpu’r oedolyn i sicrhau’r canlyniadau hynny. Gallai fod yn bosibl, er enghraifft, helpu’r oedolyn i sicrhau’r canlyniadau hynny drwy roi cymorth i’r oedolyn i gael gafael ar ystod o wasanaethau yn ardal y person megis offer cymunedol, trafnidiaeth gymunedol a gwasanaethau ymgyfeillio gan wirfoddolwyr, yn ogystal â thrwy ddarparu gofal a chymorth mwy ffurfiol.
41.Mae is-adran (4)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried a allai materion eraill helpu’r oedolyn i sicrhau’r canlyniadau y mae am eu sicrhau, ac i ba raddau. Gallai’r materion hyn gynnwys galluoedd yr oedolyn ei hun, a galluoedd pobl eraill, i sicrhau’r canlyniadau hynny eu hunain, neu gael gwared â’r rhwystrau i sicrhau’r canlyniadau hynny.
42.Rhaid i’r asesiad ei hun fod yn un cymesur a rhaid iddo gynnwys yr oedolyn, a phan fo’n ddichonadwy, ofalwr yr oedolyn. Caiff rheoliadau o dan adran 30 osod gofynion pellach mewn perthynas â’r asesiad.