Adran 8 – Diddymiadau canlyniadol
22.Mae’r adran hon yn pennu’r darpariaethau perthnasol, a gynhwysir yn y tair Deddf leol, a fydd yn peidio â chael effaith oherwydd na fydd eu hangen pan ddaw’r Ddeddf hon i rym. Mae’r diddymiadau hyn fel a ganlyn:
adran 29 o Ddeddf Cyngor Dinas Caerdydd 1984 (p. xv);
yn adran 15(8) o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987 (p.vii), y geiriau “horses (including ponies, mules, jennets),”; ac
yn adran 35(7) o ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 (c.viii), y gair “horses”.