Search Legislation

Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Trosolwg

2.Mae’r adran hon yn crynhoi’r hyn y mae’r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau lleol ei wneud pan fo ceffylau mewn mannau cyhoeddus heb awdurdod cyfreithlon, neu ar dir arall heb ganiatâd meddiannydd y tir.

Adran 2 – Pŵer awdurdod lleol i ymafael mewn ceffylau

3.Mae pŵer gan awdurdod lleol i ymafael mewn ceffyl a chadw ceffyl sydd ar unrhyw briffordd, neu mewn unrhyw fan cyhoeddus arall y mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol amdano. Mae gan yr awdurdod lleol y pŵer hwn hefyd os yw ceffyl ar dir arall yn ardal yr awdurdod lleol heb ganiatâd meddiannydd y tir hwnnw, ar yr amod bod y meddiannydd yn caniatáu i’r awdurdod lleol ymafael yn y ceffyl a’i gadw. Cyn y caiff yr awdurdod lleol ddefnyddio’r pwerau hyn, rhaid bod ganddo sail resymol i gredu bod y ceffyl ar y tir heb awdurdod cyfreithlon.

Adran 3 – Hysbysiadau ynghylch ymafael etc.

4.Gwneir yn ofynnol bod awdurdod lleol, o fewn 24 awr ar ôl ymafael mewn ceffyl o dan adran 2, yn gosod hysbysiad ysgrifenedig yn y man yr ymafaelwyd yn y ceffyl, neu gerllaw’r man hwnnw, yn datgan y dyddiad a’r amser yr ymafaelwyd ynddo ac yn rhoi manylion sut y gellir cysylltu â’r awdurdod lleol. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd, o fewn 24 awr ar ôl ymafael mewn ceffyl, roi hysbysiad ysgrifenedig i gwnstabl (er mwyn rhoi gwybod i’r heddlu lleol am y modd y gweithredodd) ac i unrhyw berson sy’n ymddangos ei fod yn berchennog y ceffyl neu’n gweithredu ar ran perchennog y ceffyl.

5.Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ganfod pwy yw perchennog y ceffyl cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ymafael yn y ceffyl. Os yw’r awdurdod lleol, o fewn 7 niwrnod ar ôl ymafael mewn ceffyl o dan adran 2, yn darganfod mai person na roddwyd hysbysiad ysgrifenedig iddo o dan y Ddeddf yw perchennog y ceffyl, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn 24 awr, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw. Os dyroddir hysbysiad yn yr amgylchiadau hyn (h.y. hysbysiad a roddir o dan adran 3(4)), mae’r cyfnod o 7 niwrnod yn cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad hwnnw.

6.Rhaid dyddio hysbysiadau o dan adrannau 3(3) a 3(4) a rhaid iddynt gynnwys disgrifiad o’r ceffyl a’r dyddiad, yr amser a’r man yr ymafaelwyd ynddo, ynghyd â manylion sut y gellir cysylltu â’r awdurdod lleol.

7.Rhaid i hysbysiad i berson y credir ei fod yn berchennog ceffyl, neu’n gweithredu ar ran y perchennog, ddatgan hefyd pam y mae’r awdurdod lleol yn credu bod y person hwnnw naill ai’n berchennog y ceffyl neu’n gweithredu ar ran y perchennog. Rhaid i’r hysbysiad ddatgan effaith gweithredu adran 5 (gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw), gan gynnwys y dyddiad y bydd y pwerau o dan adran 5 (3) yn dod ar gael i werthu’r ceffyl neu ei waredu fel arall (gan gynnwys trefnu i’w ddifa). Rhaid i hysbysiad a ddyroddir i gwnstabl ddatgan hefyd i bwy arall y dyroddwyd hysbysiad.

Adran 4 – Costau ymafael etc.

8.Y perchennog sy’n atebol i dalu i’r awdurdod lleol unrhyw gostau a dynnir yn rhesymol wrth ymafael yn y ceffyl a’i gadw ac wrth ei fwydo a’i gynnal tra bo’n cael ei gadw. Nid yw’n ofynnol o dan y Ddeddf i awdurdod lleol ddychwelyd y ceffyl hyd nes y bydd y costau a dynnwyd yn y modd hwnnw wedi eu talu. Mae’r gyfraith gyffredinol yn gwneud yn ofynnol gofalu am y ceffyl tra bo’r ceffyl o dan reolaeth yr awdurdod lleol.

9.Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r perchennog o’r swm y mae’r perchennog yn atebol i’w dalu, ym marn yr awdurdod lleol, ynghyd ag esboniad sut y pennwyd y swm hwnnw.

10.Rhaid i’r hysbysiad hwnnw roi gwybod i’r perchennog hefyd fod hawl ganddo i gyfeirio unrhyw anghydfod ynghylch costau a hawlir gan yr awdurdod lleol at Weinidogion Cymru, a rhoi gwybod i’r perchennog sut i arfer yr hawl honno.

Adran 5– Gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw

11.Mae adran 5 yn rhoi pwerau i’r awdurdod lleol werthu’r ceffyl, neu ei waredu fel arall, gan gynnwys gwneud trefniadau i’w ddifa. Rhaid cyflawni’r difa yn y modd mwyaf trugarog a di-boen sy’n bosibl. Mae’r adran hon yn gymwys yn ddarostyngedig i adran 7 (datrys anghydfodau am symiau taladwy).

12.Bydd darpariaethau’r adran hon yn gymwys os nad oes neb, ar ôl y cyfnod o 7 niwrnod sy’n cychwyn naill ai gyda’r dyddiad y gosodir hysbysiad o dan adran 3(1) neu y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (4), wedi hysbysu’r awdurdod lleol naill ai mai ef yw perchennog y ceffyl neu ei fod yn gweithredu ar ran y perchennog. Bydd adran 5 yn gymwys hefyd, yn ddarostyngedig i adran 7, os yw’r perchennog wedi cysylltu â’r awdurdod lleol ond naill ai heb gydymffurfio ag adran 4(1) neu wedi cael hysbysiad o dan adran 4(3) ynglŷn â’i atebolrwydd am gostau a heb dalu’r costau hynny ymhen 7 niwrnod at ôl cael yr hysbysiad hwnnw.

13.Caiff yr awdurdod lleol adennill hefyd unrhyw gostau a dynnir ganddo mewn perthynas ag unrhyw drefniadau ar gyfer gwaredu neu ddifa’r ceffyl o dan yr adran hon. Mae’r adran hon hefyd yn darparu, pan nad oes unrhyw enillion yn codi o waredu'r ceffyl, y caiff yr awdurdod lleol geisio adennill ei gostau wrth waredu'r ceffyl oddi ar y perchennog. Os oes enillion yn deillio o waredu'r ceffyl, ond y costau a dynnir gan yr awdurdod lleol yn fwy na swm yr enillion hynny, mae’r perchennog yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm y gwahaniaeth rhwng yr enillion hynny a'r costau hynny.

14.Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r perchennog sy’n datgan y swm sy’n daladwy, ym marn yr awdurdod lleol, gan y perchennog mewn cysylltiad â gwaredu’r ceffyl, ynghyd ag esboniad sut y pennwyd y swm hwnnw.

15.Yn yr hysbysiad hwnnw hefyd, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r perchennog fod hawl ganddo i gyfeirio unrhyw anghydfod ynghylch y costau a hawlir gan yr awdurdod lleol at Weinidogion Cymru, a sut i arfer yr hawl honno.

16.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn talu i berchennog y ceffyl swm unrhyw enillion sy’n codi o’r gwaredu dros ben swm y costau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â’r gwaredu; ond ni fydd yw’n ofynnol bod yr awdurdod lleol yn gwneud ad-daliad i unrhyw berson arall os yw eisoes wedi gwneud taliad i berson y credai’r awdurdod lleol yn rhesymol mai hwnnw oedd perchennog y ceffyl.

Adran 6 – Cofnod o’r ceffylau yr ymdriniwyd â hwy

17.Mae’n ofynnol o dan yr adran hon bod yr awdurdod lleol yn cadw cofrestr o’r holl geffylau yr ymafaelwyd ynddynt o dan adran 2 o’r Ddeddf, a bod y gofrestr honno’n cynnwys disgrifiad byr o’r ceffyl, datganiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r man yr ymafaelwyd ynddo, datganiad ynghylch pryd y cafodd ei gadw, a manylion y camau a gymerwyd i ddarganfod pwy yw ei berchennog. Yn ychwanegol, os gwaredwyd y ceffyl, y manylion â’r modd y’i gwaredwyd o dan adran 5. Rhaid i’r gofrestr fod yn agored i’r cyhoedd ei gweld (naill ai’n bersonol neu ar y rhyngrwyd) ar bob adeg resymol.

Adran 7 – Datrys anghydfodau am symiau taladwy

18.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo perchennog ceffyl yn herio’r swm y mae’r awdurdod lleol yn honni bod y perchennog yn atebol i’w dalu i’r awdurdod lleol o dan adran 4(1) neu 5(4); neu’r swm sy’n daladwy gan yr awdurdod lleol i berchennog y ceffyl o dan adran 5(5).

19.Caiff perchennog y ceffyl, o fewn 7 niwrnod ar ôl cael hysbysiad o dan adran 4(3) neu 5(7), gyfeirio’r anghydfod i’w ddatrys gan Weinidogion Cymru. Rhaid i’r perchennog, yn yr hysbysiad hwnnw i Weinidogion Cymru, roi datganiad o’r rhesymau dros herio’r swm a hawlir neu’r swm sy’n daladwy iddo, yn ôl fel y digwydd. Rhaid i Weinidogion Cymru anfon unrhyw hysbysiad o’r fath ymlaen at yr awdurdod lleol perthnasol, a chânt wneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn darparu iddynt unrhyw wybodaeth a all, yn eu barn hwy, eu cynorthwyo i ddatrys yr anghydfod. Caiff yr awdurdod lleol perthnasol hefyd gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o fewn 7 niwrnod ar ôl cael gan Weinidogion Cymru yr hysbysiad o’r atgyfeiriad gan y perchennog.

20.Rhaid i Weinidogion Cymru ddatrys yr anghydfod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o dan yr holl amgylchiadau.

21.Pan fo’r anghydfod yn ymwneud ag adran 4(1), ni chaiff yr awdurdod waredu’r ceffyl cyn bo’r anghydfod wedi ei ddatrys.

Adran 8 – Diddymiadau canlyniadol

22.Mae’r adran hon yn pennu’r darpariaethau perthnasol, a gynhwysir yn y tair Deddf leol, a fydd yn peidio â chael effaith oherwydd na fydd eu hangen pan ddaw’r Ddeddf hon i rym. Mae’r diddymiadau hyn fel a ganlyn:

(b)

yn adran 15(8) o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987 (p.vii), y geiriau “horses (including ponies, mules, jennets),”; ac

(c)

yn adran 35(7) o ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 (c.viii), y gair “horses”.

Adran 9 – Dehongli

23.Mae’r adran hon yn pennu’r diffiniadau o “awdurdod lleol” a “ceffyl” yn y Ddeddf hon.

Adran 10 – Cychwyn ac enw byr

24.Mae’r adran hon yn cadarnhau pa bryd y daw’r Ddeddf i rym ac yn pennu mai enw’r Ddeddf yw ‘Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014’.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources