Search Legislation

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 2

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ATODLEN 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(cyflwynwyd gan adran 16(2))

ATODLEN 2LL+CY berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC

This schedule has no associated Explanatory Notes

RHAN 1LL+CCOD YMARFER

Paratoi a chymeradwyo etcLL+C

1(1)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol baratoi cod ymarfer ar y cyd sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.

(2)Wrth wneud hynny, rhaid iddynt geisio adlewyrchu’r egwyddor a nodir yn adran 8(1) a (2).

(3)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol adolygu’r cod ar y cyd yn rheolaidd a’i ddiwygio fel y bo’n briodol.

(4)Rhaid i’r cod (gan gynnwys unrhyw ddiwygiad) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)At y diben hwn, rhaid i gadeirydd SAC a’r Archwilydd Cyffredinol osod y cod (neu’r diwygiad) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(6)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol ill dau gydymffurfio â chod sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(7)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol drefnu i god a gymeradwywyd gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(i)

CynnwysLL+C

2(1)Rhaid i’r cod gynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch sut y mae SAC i fonitro swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(1);

(b)darpariaeth ynghylch sut y mae cyngor i gael ei roi gan SAC i’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(2) (gan gynnwys natur y cyngor sydd i’w roi);

(c)darpariaeth ynghylch safonau ar gyfer llywodraethu corfforaethol.

(2)Caniateir i’r cod gynnwys darpariaeth ynghylch unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(ii)

RHAN 2LL+CADRODDIADAU A DOGFENNAU

AdroddiadauLL+C

3(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad blynyddol, ar y cyd, ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—

(a)y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;

(b)y graddau y cyflawnwyd y blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.

(3)O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC lunio hefyd, ar y cyd, adroddiad ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC (“adroddiad interim”).

(4)Rhaid i adroddiad interim gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—

(a)y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;

(b)y graddau y gwnaed cynnydd tuag at gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.

(5)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC baratoi adroddiad interim ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn ariannol.

(6)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC ar y cyd—

(a)gosod yr adroddiad blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol;

(b)gosod adroddiadau interim gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyddiadau i’w pennu o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Dogfennau a gwybodaethLL+C

4(1)Caniateir darparu unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae’n ofynnol i berson ei darparu i’r Archwilydd Cyffredinol, neu y caniateir ei darparu iddo, i SAC (naill ai gan y person hwnnw neu gan yr Archwilydd Cyffredinol).

(2)At ddibenion adran 3(2) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (neu unrhyw reoliadau sy’n disodli’r rheoliadau hynny), mae unrhyw ddogfen neu wybodaeth sy’n cael ei dal gan SAC fel y crybwyllir yn adran 21(2)(d) o’r Ddeddf hon i’w thrin fel petai’r ddogfen neu’r wybodaeth yn cael ei dal gan SAC ar ei rhan ei hun.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

RHAN 3LL+CPERSON ARALL, DROS DRO, YN ARFER SWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

5LL+CCaiff SAC, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, ddynodi person i arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol dros dro yn lle’r Archwilydd Cyffredinol (“dynodiad dros dro”).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I10Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

6LL+CNi chaniateir gwneud dynodiad dros dro ond o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)bod swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn wag,

(b)nad yw’r Archwilydd Cyffredinol yn fodlon cyflawni swyddogaethau’r swydd,

(c)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod yr Archwilydd Cyffredinol yn methu â chyflawni swyddogaethau’r swydd, neu

(d)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod seiliau i ddiswyddo’r Archwilydd Cyffredinol oherwydd camymddygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I12Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

7LL+CMae swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)swyddogaethau fel prif weithredwr SAC (gweler adran 16);

(b)os yn berthnasol, swyddogaethau fel swyddog cyfrifyddu SAC (gweler paragraff 33(1) o Ran 8 o Atodlen 1);

(c)y pŵer i ddirprwyo o dan adran 18.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I14Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

8LL+CRhaid i berson sydd wedi ei ddynodi i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol fod yn gyflogai i SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I16Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

9LL+CBydd person sydd wedi ei ddynodi i arfer y swyddogaethau hynny yn parhau’n gyflogedig gan SAC ar yr un telerau.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I18Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

10LL+COnd bydd y person hwnnw yn cael ei ddynodi i arfer swyddogaethau ar y telerau ychwanegol hynny (gan gynnwys telerau talu cydnabyddiaeth) y cytunir arnynt gan SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I20Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

11LL+CCaiff telerau talu cydnabyddiaeth—

(a)darparu ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person wrth arfer y swyddogaethau, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I22Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

12LL+COnd ni chaiff y telerau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog ychwanegol neu bensiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I24Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

13LL+CRhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r person fel y darperir ar ei gyfer gan unrhyw delerau ychwanegol o ran talu cydnabyddiaeth y cytunir arnynt, neu o dan y telerau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I26Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

14LL+CO ran hyd dynodiad dros dro mewn perthynas ag amgylchiad y cyfeirir ato ym mharagraff 6—

(a)ni chaiff fod yn fwy na 6 mis, ond

(b)caniateir i SAC ei estyn unwaith mewn perthynas â’r amgylchiad hwnnw, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, am hyd at 6 mis arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I28Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources