- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
4(1)Mae aelodau anweithredol i’w penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)Rhaid i benodiadau a wneir o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud ar gasgliadau cystadleuaeth deg ac agored.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(iv)
5(1)Mae cadeirydd ar SAC i’w benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o blith yr aelodau anweithredol.
(2)Ond cyn penodi’r cadeirydd rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.
(3)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn penodiad o dan y paragraff hwn yn unol â’r weithdrefn sy’n ofynnol ar gyfer y penodiad gwreiddiol.
(4)Mae estyniad i’r penodiad yn cyfrif fel penodiad ar wahân at ddibenion paragraffau 6 i 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I4Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(v)
6(1)Rhaid i benodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fod am gyfnod o hyd at 4 blynedd a dim mwy na hynny.
(2)Ni chaniateir penodi person o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fwy na dwywaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(vi)
7(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas â’r person sy’n gadeirydd SAC (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 9).
(2)Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.
(3)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’u talu ohoni.
(4)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas ag unrhyw aelod anweithredol arall.
(5)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (4) yn cael eu talu gan SAC.
(6)Caniateir i drefniadau talu cydnabyddiaeth o dan y paragraff hwn—
(a)darparu ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid, ond nid ar gyfer pensiwn, a
(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.
(7)Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I8Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(vii)
8(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon (yn ddarostyngedig i baragraff 9).
(2)Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—
(a)y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol)—
(i)y caiff aelod anweithredol eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;
(ii)y caiff cadeirydd SAC eu dal tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd, a
(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad)—
(i)y caiff aelod anweithredol fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;
(ii)y caiff cadeirydd SAC fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd.
(3)Ond dim ond tra bod person yn aelod anweithredol, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I10Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(viii)
9(1)Cyn gwneud unrhyw drefniadau o dan baragraff 7 neu benderfyniad o dan baragraff 8, rhaid ymgynghori â pherson priodol sydd â goruchwyliaeth dros benodiadau cyhoeddus.
(2)Mae’r ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1) yn ychwanegol at yr ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan baragraff 7(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I12Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(ix)
10(1)Caiff y person sy’n gadeirydd ar SAC ymddiswyddo o’i swydd fel cadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.
(2)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.
(3)Daw penodiad y person sy’n ymddiswyddo i ben, yn unol ag is-baragraffau (1) neu (2), pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I14Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(x)
11(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—
(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,
(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,
(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,
(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,
(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu
(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.
(2)Os yw’r aelod anweithredol y daw a’i benodiad i ben o dan is-baragraff (1) yn gadeirydd ar SAC, mae penodiad y person hwnnw fel cadeirydd hefyd yn dod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I16Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(x)
12(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol fel cadeirydd SAC i ben.
(2)Ond cyn dod â phenodiad i ben rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.
(3)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â’r penodiad i ben os yw’r person sy’n gadeirydd ar SAC—
(a)wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu
(b)fel arall yn anfodlon cyflawni swyddogaethau bod yn gadeirydd SAC.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I18Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(x)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: