Atodlen 4 – Màn Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol
107.Mae'r Atodlen hon yn nodi'r diddymiadau a'r addasiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn rhoi effaith i'r Ddeddf. Mae’r rhain yn sicrhau (er enghraifft) bod cyfeiriadau at y SAC newydd, fel y bo'n briodol, mewn deddfwriaeth lle'r oedd y cyfeiriadau blaenorol at ACC yn unig.
108.Gwneir diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i'r canlynol –
Deddf Blwydd-daliadau 1972;
Deddf Cyllid 1989;
Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992;
Deddf Addysg 1997;
Deddf Llywodraeth Cymru 1998;
Deddf Llywodraeth Leol 1999;
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004;
Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
Deddf Cwmnïau 2006;
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009;
Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009; a
Deddf Cydraddoldeb 2010.