RHAN 1CYFLWYNIAD
Dehongli
1Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cytundeb trosglwyddo” (“transfer agreement”) mewn perthynas ag ysgol yw cytundeb—
(a)a wnaed rhwng yr awdurdod lleol ac ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig neu gorff llywodraethu’r ysgol, a
(b)sy’n darparu bod tir yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac yn cael ei freinio ynddo ar y dyddiad gweithredu (p’un a fu cydnabyddiaeth drwy daliad ai peidio gan yr awdurdod);
“y dyddiad gweithredu” (“the implementation date”) yw’r dyddiad y cynigir y bydd y newid categori yn digwydd;
mae i “grwp” yr ystyr a roddir i (“group”) gan adran 21(4)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “tir wedi ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly funded land”) yw tir a gafodd ei gaffael—
(a)oddi wrth awdurdod lleol o dan drosglwyddiad o dan adran 201(1)(a) o Ddeddf Addysg 1996,
(b)yn gyfan gwbl drwy gyfrwng grant cynnal, grant diben arbennig neu grant cyfalaf (o fewn ystyr Pennod 6 o Ran 3 o Ddeddf Addysg 1996),
(c)yn gyfan gwbl drwy gyfrwng grant a wnaed o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 4 o Atodlen 32 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998,
(d)yn gyfan gwbl drwy gyfrwng gwariant a wnaed at ddibenion yr ysgol ac a gafodd ei drin gan yr awdurdod lleol fel gwariant o natur cyfalaf,
(e)o dan drosglwyddiad o dan reoliadau a wnaed o dan baragraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998,
(f)yn gyfan gwbl drwy gyfrwng cymorth ariannol a roddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002,
(g)o dan drosglwyddiad o dan yr Atodlen hon, neu
(h)yn gyfan gwbl drwy enillion wrth waredu unrhyw dir a gafodd ei gaffael fel a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g).
Gweithredu
2Ar y dyddiad gweithredu mae’r ysgol i newid categori yn unol â’r cynigion.