Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

RHAN 3GORCHMYNION ESEMPTIO TROSIANNOL AT DDIBENION DEDDF CYDRADDOLDEB 2010

Ysgolion un rhyw

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion i wneud newid rheoleiddiedig a ddisgrifir ym mharagraff 3(1)(a) o Atodlen 2 (ysgol i beidio â bod yn un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig).

(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan wneir cynigion o’r fath o dan adran 42 neu 44 ac, yn unol ag adran 48(4), pan fo’r cynigydd yn anfon copi o’r cynigion wedi eu cyhoeddi at Weinidogion Cymru.

(3)Mae anfon y cynigion wedi eu cyhoeddi i Weinidogion Cymru i’w drin fel cais gan y cynigydd am orchymyn esemptio trosiannol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a chaniateir i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o’r fath yn unol â hynny.

(4)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “gorchymyn esemptio trosiannol” yr ystyr a roddir i (“transitional exemption order”) ym mharagraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

  • mae “gwneud” (“make”), mewn perthynas â gorchymyn esemptio trosiannol yn cynnwys amrywio neu ddirymu.