Adran 98 – Dehongli’n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio
114.Mae adran 98 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Ddeddf a hefyd mae'n cynnwys mynegai o dermau sydd wedi eu diffinio at ddiben rhai darpariaethau yn y Ddeddf. Mae is-adran (1) yn darparu bod y Ddeddf i'w darllen fel petai’n un â Deddf Addysg 1996. Mae hyn yn golygu bod y darpariaethau cyffredinol a'r diffiniadau cyffredinol yn y Ddeddf honno yn gymwys hefyd i'r Ddeddf hon. Er enghraifft, mae'r diffiniad o “education functions” awdurdod lleol yn Neddf Addysg 1996 yn cyfeirio at y swyddogaethau a nodir yn Atodlen 36A i'r Ddeddf honno. Mae'r term “swyddogaethau addysg” pan y'i defnyddir yn y Ddeddf hon, yn golygu'r un peth ag “education functions” yn Neddf 1996. Os oes gwahaniaeth mewn ystyr rhwng term a ddefnyddir yn y Ddeddf hon a therm yn Neddf Addysg 1996, mae'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf hon yn gymwys iddo.