Search Legislation

Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Y weithdrefn ar gyfer is-ddeddfau

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, Croes Bennawd: Y weithdrefn ar gyfer is-ddeddfau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Y weithdrefn ar gyfer is-ddeddfauLL+C

6Is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.

(2)Cyn iddo wneud is-ddeddf, rhaid i awdurdod –

(a)cyhoeddi datganiad ysgrifenedig cychwynnol ar wefan yr awdurdod sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gallai gwneud is-ddeddf fynd i’r afael ag ef;

(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo hynny’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n cael eu heffeithio ganddo.

(3)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.

(4)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –

(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;

(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;

(c)ei benderfyniad;

(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(5)O leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i wneud yr is-ddeddf –

(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;

(b)ar wefan yr awdurdod.

(6)Am o leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid i’r awdurdod sicrhau –

(a)bod drafft o’r is-ddeddf yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod;

(b)bod copi o’r drafft yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod;

(c)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;

(d)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf.

(7)Rhaid i’r awdurdod roi copi o’r is-ddeddf ar ffurf ddrafft i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(8)Ni chaiff awdurdod wneud is-ddeddf yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad yn is-adran (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2A. 6 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3)

7Is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ar wahân i’r rhai a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –

(a)gofyniad i gyflwyno is-ddeddfau ar gyfer cael cadarnhad;

(b)cyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud yr is-ddeddf;

(c)cyhoeddi’r is-ddeddf;

(d)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.

(3)Cyn iddo wneud is-ddeddf y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i awdurdod –

(a)cyhoeddi ar wefan yr awdurdod ddatganiad ysgrifenedig cychwynnol sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gellir mynd i’r afael ag ef drwy wneud is-ddeddf;

(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n gael ei effeithio ganddo.

(4)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.

(5)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –

(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;

(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;

(c)ei benderfyniad;

(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(6)Rhaid i is-ddeddfau a wnaed gan yr awdurdod deddfu gael eu cyflwyno i’r awdurdod cadarnhau ac nid ydynt yn cael effaith oni chânt a nes y cânt eu cadarnhau gan yr awdurdod cadarnhau.

(7)O leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid cyhoeddi hysbysiad o fwriad yr awdurdod deddfu i wneud hynny –

(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;

(b)ar wefan yr awdurdod.

(8)Am o leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno’r is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid i’r awdurdod deddfu sicrhau –

(a)bod yr is-ddeddf yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod;

(b)bod copi o’r is-ddeddf yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod (ac, yn achos is-ddeddf a wnaed gan [F1Gorff Adnoddau Naturiol Cymru] o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mewn man yn ardal pob cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal);

(c)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf;

(d)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.

(9)Rhaid i’r awdurdod deddfu roi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(10)Caiff yr awdurdod cadarnhau gadarnhau, neu wrthod cadarnhau, unrhyw is-ddeddf a gyflwynir iddo o dan yr adran hon.

(11)At ddibenion y Ddeddf hon, yr awdurdod cadarnhau yw –

(a)y person a bennir yn y deddfiad y gwneir yr is-ddeddfau odano fel y person sydd i gadarnhau’r is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir unrhyw berson, Gweinidogion Cymru.

(12)Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan is-adran (11)(b) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I4A. 7 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(g) (ynghyd ag ergl. 3)

8Materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –

(a)llofnodi’r is-ddeddf neu roi sêl arni;

(b)cyhoeddi’r is-ddeddf;

(c)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.

(3)Rhaid i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu gael eu gwneud o dan sêl gyffredin yr awdurdod, neu, yn achos is-ddeddfau a wneir gan gyngor cymuned nad oes sêl ganddo, wedi’i lofnodi gan ddau aelod o’r cyngor.

(4)Mae is-ddeddfau yn dod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir gan yr awdurdod deddfu, neu, os oes angen eu cadarnhau, y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cadarnhau. Os na phennir dyddiad, maent yn dod yn effeithiol ar ddiwedd un mis ar ôl y dyddiad y’u gwnaed (neu’r dyddiad y’u cadarnhawyd, fel y bo’n gymwys).

(5)Rhaid i’r awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddf –

(a)cyhoeddi’r is-ddeddf pan wnaed hi ar wefan yr awdurdod, neu os oes angen iddi gael ei chadarnhau, pan gafodd ei chadarnhau;

(b)adneuo copi o’r is-ddeddf mewn man yn ardal yr awdurdod;

(c)sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;

(d)rhoi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(6)Rhaid i swyddog priodol cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys iddi.

(7)Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod Parc Cenedlaethol, rhaid i swyddog priodol yr awdurdod anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –

(a)cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol;

(b)cyngor pob cymuned y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol.

(8)Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan [F2Gorff Adnoddau Naturiol Cymru] o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, rhaid [F3i’r Corff] sicrhau ei fod yn anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –

(a)cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal;

(b)cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal.

(9)Rhaid i swyddog priodol y cyngor cymuned –

(a)trefnu bod copi o’r is-ddeddf a anfonwyd at y swyddog yn cael ei adneuo gyda dogfennau cyhoeddus y gymuned;

(b)sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.

(10)Yn is-adrannau (6) i (9) y “swyddog priodol” yw’r swyddog a awdurdodwyd yn briodol at y diben hwnnw gan y corff hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I6A. 8 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(h) (ynghyd ag ergl. 3)

9Y pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1LL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 (isddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb iddynt gael eu cadarnhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I8A. 9 mewn grym ar 15.8.2014 gan O.S. 2014/2121, ergl. 2(a)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources