Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety, Gosod Ffioedd ac Asesiad Ariannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 214 (Cy. 58)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety, Gosod Ffioedd ac Asesiad Ariannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

Gwnaed

27 Chwefror 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Chwefror 2017

Yn dod i rym

10 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 57, 61, 64, 66, 67 a 196(2)(c) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety, Gosod Ffioedd ac Asesiad Ariannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015

2.  Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 1(3) yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—

ystyr “byrdymor” (“short term”) yw cyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;;

(b)yn rheoliad 2(a) ar ôl “Unedig” mewnosoder “nad yw’n llety byrdymor”.

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

3.  Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 1(4)—

(i)hepgorer y diffiniad o “terfyn cyfalaf”;

(ii)yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—

ystyr “terfyn cyfalaf perthnasol” (“relevant capital limit”) yw’r uchafswm cyfalaf, a asesir yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, y caniateir i berson y codir ffi arno feddu arno gan ddibynnu pa un a oes arno angen gofal a chymorth preswyl neu amhreswyl, ac uwchlaw’r uchafswm hwnnw y bydd yn ofynnol i’r person hwnnw, yn unol â rheoliad 11, dalu’r ffi safonol yn llawn.;

(iii)yn y diffiniad o “terfyn ariannol” yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;

(b)yn rheoliad 7(1) yn lle “£60” rhodder “£70”;

(c)yn rheoliad 8(3)(d) yn lle “(terfyn cyfalaf)” rhodder “(terfyn cyfalaf perthnasol)”;

(d)yn rheoliad 9(1) yn lle “amhreswyl” rhodder “preswyl”;

(e)yn rheoliad 11 (terfyn cyfalaf)—

(i)ym mharagraff (1) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;

(ii)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mae’r terfynau ariannol at ddibenion adran 66(5) o’r Ddeddf fel a ganlyn—

(a)y terfyn cyfalaf perthnasol at ddibenion gofal preswyl yw £30,000;

(b)y terfyn cyfalaf perthnasol at ddibenion gofal amhreswyl yw £24,000.;

(iii)ym mharagraff (3) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;

(iv)ym mhennawd rheoliad 11 yn lle “Terfyn cyfalaf” rhodder “Terfyn cyfalaf perthnasol”;

(f)yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£26.50” rhodder “£27.50”;

(g)yn rheoliad 15 (dyfarniad diwygiedig), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu A i dalu ffi yn unol â’r rheoliad hwn—

(a)rhaid iddo ddarparu datganiad o’r dyfarniad diwygiedig i A; a

(b)rhaid iddo ad-dalu i A unrhyw ordaliad am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn y dyfarniad diwygiedig; neu

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i A dalu unrhyw ffi ychwanegol am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn y dyfarniad diwygiedig.;

(h)yn rheoliad 22(1) yn lle “£60” rhodder “£70”;

(i)yn rheoliad 23(3)(d) yn lle “(terfyn cyfalaf)” rhodder “(terfyn cyfalaf perthnasol)”;

(j)yn rheoliad 26 (terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol)—

(i)ym mharagraffau (1) a (2) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;

(ii)ym mhennawd rheoliad 26 yn lle “Terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol” rhodder “Terfyn cyfalaf perthnasol – taliadau uniongyrchol”;

(k)yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£26.50” rhodder “£27.50”;

(l)yn rheoliad 30 (dyfarniad diwygiedig – taliadau uniongyrchol) yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu B i dalu cyfraniad neu ad-daliad yn unol â’r rheoliad hwn—

(a)rhaid iddo ddarparu datganiad o’r dyfarniad diwygiedig i B; a

(b)rhaid iddo ad-dalu i B unrhyw ordaliad o gyfraniad neu ad-daliad a wnaed cyn y dyfarniad diwygiedig; neu

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i B dalu unrhyw gyfraniad neu ad-daliad ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wnaed cyn y dyfarniad diwygiedig.

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

4.  Mae Rhan 1 (symiau sydd i’w diystyru) o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm) i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn lle paragraff 16 rhodder—

16.  Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 16 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau penodedig) ac eithrio paragraff 16(a) ac (cc), ond fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16 o’r Atodlen honno at baragraffau 36 a 37 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 46 o’r Atodlen hon.;

(b)ar ôl paragraff 16 mewnosoder—

16A.  Unrhyw daliad a geir o dan y Pensiwn Anabledd Rhyfel.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

27 Chwefror 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio amryw Reoliadau a wnaed o dan Rannau 4 a 5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015 i’w gwneud yn eglur nad yw dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu dewis o lety yn gymwys pan angen byrdymor sydd ar berson am y ddarpariaeth o lety. Yna mewnosodir diffiniad o “byrdymor” yn rheoliad 1(3), sef cyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015. Mae paragraffau (b) ac (h) yn diwygio uchafswm y ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl. Mae hwn wedi ei ddiwygio o £60 i £70. Mae paragraff (d) yn cywiro gwall drafftio i’w gwneud yn eglur bod rheoliad 9 yn gymwys mewn perthynas â’r ffioedd am ofal a chymorth preswyl. Mae paragraff (e) yn diwygio rheoliad 11 i sefydlu dau derfyn cyfalaf gwahanol – un a fydd yn gymwys i godi ffioedd am ofal preswyl a fydd yn cynyddu i £30,000 ac un a fydd yn gymwys i godi ffioedd am ofal amhreswyl a fydd yn aros ar y lefel bresennol o £24,000. Mae paragraff (j) yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 26 i adlewyrchu’r ffaith bod dau derfyn cyfalaf. Mae paragraffau (f) a (k) yn diwygio rheoliadau 13 ac 28 yn y drefn honno i gynyddu’r isafswm incwm wythnosol pan fo llety yn cael ei ddarparu i berson mewn cartref gofal o £26.50 i £27.50. Mae paragraff (g) yn diwygio rheoliad 15 i’w gwneud yn eglur bod rhaid, yn dilyn asesiad ariannol diwygiedig, ddyroddi datganiad pellach i’r sawl sy’n cael gofal a bod y ffi ddiwygiedig yn dod yn daladwy (ac y caniateir ei hôl-ddyddio) o’r dyddiad pan gododd yr amgylchiad a arweiniodd at y dyfarniad diwygiedig. Mae paragraff (l) yn gwneud yr un diwygiad i reoliad 30 mewn cysylltiad â dyfarniadau diwygiedig o daliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015. Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r symiau sydd i gael eu diystyru pan fo awdurdod lleol yn cyfrifo incwm at ddibenion y Ddeddf. Mae paragraffau (a) a (b) yn rhoi paragraff 16 newydd yn lle’r hen un fel y bydd diystyru llwyr yn gymwys i godi ffioedd am ofal a chymorth preswyl ac amhreswyl mewn cysylltiad â symiau a geir o dan y Pensiwn Anabledd Rhyfel.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.