Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1744 (Cy. 240) (C. 107)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Gwnaed

25 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 199(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Hydref 2015

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 21 Hydref 2015—

(a)adran 132 (Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol); a

(b)adran 133 (Rheoliadau am y Bwrdd Cenedlaethol).

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

25 Medi 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r ail Orchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai 21 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 132 a 133 o’r Ddeddf i rym.

Mae adran 132 yn sefydlu’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (“y Bwrdd Cenedlaethol”) ac yn nodi dyletswyddau a swyddogaethau’r Bwrdd hwnnw.

Mae adran 133 yn rhoi’r pŵer i wneud rheoliadau sy’n caniatáu i ddarpariaeth bellach gael ei gwneud ynghylch y Bwrdd Cenedlaethol.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 1701 Tachwedd 20142014/2718 (Cy. 274) (C. 118)
Adran 1791 Tachwedd 20142014/2718 (Cy. 274) (C. 118)
Adran 1801 Tachwedd 20142014/2718 (Cy. 274) (C. 118)
Atodlen 31 Tachwedd 20142014/2718 (Cy. 274) (C. 118)