11. Brics glo Briteheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tua 15% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 300°C;
(c)sy’n frics glo ar siâp clustog gyda hicyn ar ffurf llinell yn rhedeg yn hydredol o gwmpas y fricsen;
(d)sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.