10. Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a)a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres ar tua 260°C;
(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd,
(d)sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.