Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014

RHAN 8Diwygiadau a Dirymiadau

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007

29.—(1Mae Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle’r eitem yng ngholofn 2 o baragraff 1 o Ran Ff (Swyddogaethau amrywiol) rhodder “Rheoliadau a wnaed o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23)”.

Dirymu ac arbed offerynnau

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r offerynnau canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(2);

(b)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2007(3);

(c)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2010(4); a

(d)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2013(5).

(2Mae’r Rheoliadau ym mharagraff (1) wedi eu harbed i’r graddau y maent yn gymwys i gyfrifon ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny ac archwilio’r cyfrifon hynny.