RHAN 7Gweithdrefn Archwilio
Pennu dyddiad i etholwyr arfer eu hawliau
21. Rhaid i’r archwilydd, at ddibenion arfer hawliau o dan adrannau 30(2) (archwilio dogfennau a chwestiynau yn ystod archwiliad) a 31(1) (hawl i wneud gwrthwynebiadau yn ystod archwiliad) o Ddeddf 2004, bennu dyddiad y caniateir arfer yr hawliau hynny ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a rhaid iddo hysbysu’r corff perthnasol o dan sylw o’r dyddiad hwnnw.
Archwiliad cyhoeddus o gyfrifon
22. Rhaid i gorff perthnasol a gafodd ei hysbysu o dan reoliad 21 sicrhau bod y cyfrifon a’r dogfennau eraill a grybwyllir yn adran 30 ( archwilio dogfennau a chwestiynau yn ystod archwiliad) o Ddeddf 2004 ar gael yn unol â’r weithdrefn a bennir ar gyfer cyrff perthnasol mwy yn rheoliad 11, neu gyrff perthnasol llai yn rheoliad 16, fel y bo’n briodol.
Newid cyfrifon
23. Ac eithrio gyda chydsyniad yr archwilydd, ni chaniateir newid cyfrifon a dogfennau eraill ar ôl y dyddiad pan oeddynt ar gael i’w harchwilio yn gyntaf yn unol â naill ai rheoliad 11 neu reoliad 16.
Hysbysiad o hawliau cyhoeddus
24. Rhaid i gorff perthnasol roi hysbysiad o hawliau cyhoeddus yn unol â’r weithdrefn a bennir ar gyfer cyrff perthnasol mwy yn rheoliad 12, neu i gyrff perthnasol llai yn rheoliad 17.
Hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad
25. Rhaid i unrhyw hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad a roddir yn unol ag adran 31(2) o Ddeddf 2004 ddatgan y ffeithiau y mae’r etholwr llywodraeth leol yn dibynnu arnynt, a chynnwys, i’r graddau y mae’n bosibl—
(a)manylion unrhyw eitem o gyfrif yr honnir ei bod yn groes i’r gyfraith, a
(b)manylion unrhyw fater y bwriedir y gall yr archwilydd wneud adroddiad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 22 (adroddiadau ar unwaith ac adroddiadau eraill er budd y cyhoedd)(1) o’r Ddeddf honno.
Hysbysiad o orffen yr archwiliad
26. Rhaid i gorff perthnasol roi hysbysiad yn datgan bod yr archwiliad wedi ei orffen yn unol â’r weithdrefn a bennir ar gyfer cyrff perthnasol mwy yn rheoliad 13, neu gyrff perthnasol llai yn rheoliad 18, fel y bo’n briodol.
Cyhoeddi llythyr archwiliad blynyddol
27. Cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ar ôl ei gael, rhaid i gorff perthnasol—
(a)cyhoeddi’r llythyr archwiliad blynyddol a gafwyd gan yr archwilydd; a
(b)sicrhau bod copïau ar gael i’w prynu gan unrhyw berson wrth dalu unrhyw swm y caiff y corff perthnasol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.
Archwiliad eithriadol
28.—(1) Os bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan adran 37 (archwiliad eithriadol)(2) o Ddeddf 2004, yn cyfarwyddo archwilydd i gynnal archwiliad eithriadol o gyfrifon corff perthnasol, rhaid i’r corff—
(a)yn achos corff perthnasol mwy, rhoi hysbysiad drwy hysbyseb, a
(b)yn achos corff perthnasol llai, arddangos hysbysiad mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff,
ynghylch hawl unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi i wrthwynebu unrhyw rai o’r cyfrifon hynny.
(2) Pan mai Archwilydd Cyffredinol Cymru yw’r archwilydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at yr Archwilydd Cyffredinol yn cyfarwyddo archwilydd i gynnal archwiliad eithriadol i’w ddarllen fel Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal archwiliad eithriadol.
2004 p. 23; diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), Atodlen 4, paragraffau 20 a 27.
2004 p. 23; diwygiwyd adran 37 gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3), Atodlen 4, paragraffau 20 a 42.