Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1606 (Cy. 164) (C. 64)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014

Gwnaed

11 Mehefin 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwrnod Penodedig

2.—(130 Mehefin 2014 yw’r diwrnod a bennir i adran 70 (canllawiau) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddod i rym.

(21 Gorffennaf 2014 yw’r diwrnod a bennir i adran 11(3) a (4) (dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddod i rym.

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, o dan awdurdod y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru.

11 Mehefin 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i adran 11(3), (4) ac adran 70 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”).

Mae gweddill adran 11 eisoes mewn grym. Mae is-adran (3) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn ei ardal i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol gan roi sylw i’w asesiad a gwblhawyd yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 11(1) o’r Mesur. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae yn eu hardal a diweddaru’r wybodaeth hon.

Mae adran 70 yn nodi darpariaethau penodol mewn cysylltiad â chanllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur i gyrff y mae rhaid iddynt roi sylw i’r canllawiau. Mae adran 70(2)(a) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i gyrff yn gyffredinol neu i un corff penodol neu i gyrff penodol. Mae adran 70(2)(b) yn darparu y caniateir i ganllawiau gwahanol gael eu dyroddi i gyrff gwahanol neu mewn perthynas â hwy. Mae adran 70(2)(c) yn datgan bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn iddynt ddyroddi canllawiau, ymgynghori â’r cyrff hynny y mae rhaid iddynt roi sylw i’r canllawiau. Mae adran 70(2)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r canllawiau gael eu cyhoeddi.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 2 (i’r graddau y mae’n gymwys i awdurdodau Cymreig)10 Ionawr 2011O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134)
Adrannau 4, 5 a 610 Ionawr 2011O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134)
Adran 11 (ac eithrio is-adrannau (3) a (4))1 Tachwedd 2012O.S. 2012/2453 (Cy.267) (C.96)
Adran 1231 Ionawr 2012O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
Adrannau 17 a 1810 Ionawr 2011O.S. 2012/2994 (Cy.248) (C.134)
Adrannau 19-561 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)
Adrannau 57, 58 (1), (3)-(5), (6)(a), (7)-(9), (11)-(14)1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2)
31 Gorffennaf 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2013/1830 (Cy.184) (C.78)
28 Chwefror 2014 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2014/373 (Cy.41)
Adran 58(2)1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
27 Ionawr 2012 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
Adran 58(10)1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2)
19 Gorffennaf 2013 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill)O.S. 2013/1830 (Cy.184) (C.78)
Adrannau 59(1), (3), 60(2), 61, 62(1), 64 a 651 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2)
31 Gorffennaf 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2013/1830 (Cy.184) (C.78)
28 Chwefror 2014 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2014/373 (Cy.41)
Adran 59(2)1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2)
19 Gorffennaf 2013 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill)O.S. 2013/1830 (Cy.184) (C.78)
Adrannau 60(1), 62(2) a 631 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
27 Ionawr 2012 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill)O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5)
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1-18, paragraffau 21-281 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)
Adran 73 ac Atodlen 2 (i’r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006)1 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)