- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
11 Mehefin 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) 30 Mehefin 2014 yw’r diwrnod a bennir i adran 70 (canllawiau) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddod i rym.
(2) 1 Gorffennaf 2014 yw’r diwrnod a bennir i adran 11(3) a (4) (dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddod i rym.
Vaughan Gething
Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, o dan awdurdod y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru.
11 Mehefin 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i adran 11(3), (4) ac adran 70 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”).
Mae gweddill adran 11 eisoes mewn grym. Mae is-adran (3) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn ei ardal i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol gan roi sylw i’w asesiad a gwblhawyd yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 11(1) o’r Mesur. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae yn eu hardal a diweddaru’r wybodaeth hon.
Mae adran 70 yn nodi darpariaethau penodol mewn cysylltiad â chanllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur i gyrff y mae rhaid iddynt roi sylw i’r canllawiau. Mae adran 70(2)(a) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i gyrff yn gyffredinol neu i un corff penodol neu i gyrff penodol. Mae adran 70(2)(b) yn darparu y caniateir i ganllawiau gwahanol gael eu dyroddi i gyrff gwahanol neu mewn perthynas â hwy. Mae adran 70(2)(c) yn datgan bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn iddynt ddyroddi canllawiau, ymgynghori â’r cyrff hynny y mae rhaid iddynt roi sylw i’r canllawiau. Mae adran 70(2)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r canllawiau gael eu cyhoeddi.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 (i’r graddau y mae’n gymwys i awdurdodau Cymreig) | 10 Ionawr 2011 | O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134) |
Adrannau 4, 5 a 6 | 10 Ionawr 2011 | O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134) |
Adran 11 (ac eithrio is-adrannau (3) a (4)) | 1 Tachwedd 2012 | O.S. 2012/2453 (Cy.267) (C.96) |
Adran 12 | 31 Ionawr 2012 | O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
Adrannau 17 a 18 | 10 Ionawr 2011 | O.S. 2012/2994 (Cy.248) (C.134) |
Adrannau 19-56 | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adrannau 57, 58 (1), (3)-(5), (6)(a), (7)-(9), (11)-(14) | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill) | O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) | |
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2) | |
31 Gorffennaf 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2013/1830 (Cy.184) (C.78) | |
28 Chwefror 2014 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2014/373 (Cy.41) | |
Adran 58(2) | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
27 Ionawr 2012 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill) | O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) | |
Adran 58(10) | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill) | O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) | |
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2) | |
19 Gorffennaf 2013 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill) | O.S. 2013/1830 (Cy.184) (C.78) | |
Adrannau 59(1), (3), 60(2), 61, 62(1), 64 a 65 | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill) | O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) | |
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2) | |
31 Gorffennaf 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2013/1830 (Cy.184) (C.78) | |
28 Chwefror 2014 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2014/373 (Cy.41) | |
Adran 59(2) | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill) | O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) | |
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2) | |
19 Gorffennaf 2013 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill) | O.S. 2013/1830 (Cy.184) (C.78) | |
Adrannau 60(1), 62(2) a 63 | 1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) | O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
27 Ionawr 2012 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill) | O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) | |
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1-18, paragraffau 21-28 | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adran 73 ac Atodlen 2 (i’r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006) | 1 Ebrill 2011 | O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: