Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011

Diwygio Rheoliadau 2009

137.—(1Yn is-baragraff (3) o baragraff 5 o Atodlen 5—

(a)yn union cyn “Os yw Gweinidogion Cymru” mewnosoder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3A)”; a

(b)ar ôl “y flwyddyn ariannol gyfredol” mewnosoder “yn y paragraff hwn”.

(2Ar ôl is-baragraff (3) o baragraff 5 o Atodlen 5, mewnosoder—

(3A) Os digwydd bod is-baragraff (3) neu'r is-baragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol, a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod yn ddim mwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at y diben o alluogi'r myfyrwyr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, asesu incwm gweddilliol y rhiant am y flwyddyn ariannol gyfredol..

(3Yn lle is-baragraff (4) o baragraff 5 o Atodlen 5, rhodder—

(4) Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol y rhiant o dan is-baragraff (3), neu, pan fo'n gymwys, o dan is-baragraff (3A), a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol..