Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mawrth 2007.

(3Yn y rheoliadau hyn mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cyhoeddi etc. gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a)

2.—(1Mae'r materion a ganlyn wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a) (gorchmynion o dan adran 16(1)) —

(a)rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi (yn unol ag is-baragraff (b) a pharagraff (3) is-baragraffau (a) i (c)) dim hwyrach na dau fis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol;

(b)rhaid i grynodeb o'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi —

(i)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal a wasanaethir, neu a fydd yn cael ei gwasanaethu, gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef,

(ii)drwy ei osod mewn o leiaf un man amlwg yn yr ardal honno, a

(iii)yn achos gorchymyn drafft sy'n ymwneud â sefydliad sydd eisoes yn bod, drwy ei osod mewn lle amlwg wrth brif fynedfa'r sefydliad hwnnw neu gerllaw iddi.

(2Rhaid i'r crynodeb ddatgan y gellir cael copi o'r Gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r gorchymyn drafft—

(a)at awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir y sefydliad o'i mewn neu lle y bwriedir ei leoli; a

(b)corff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg addas at ofynion pobl dros oed ysgol gorfodol nad ydynt dros bedair ar bymtheg mlwydd oed, ac yn y ddau achos sydd yn yr ardal a wasanaethir neu a fydd yn cael ei gwasanaethu gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef; ac

(c)unrhyw berson arall yr ymddengys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod ganddo fuddiant; ac

(ch)unrhyw berson sy'n gofyn amdano.

Cyhoeddi etc. gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b)

3.—(1Mae'r materion ym mharagraff (2) wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b) (gorchmynion a wneir o dan adran 16(3)).

(2Rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi dim hwyrach na dau fis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol drwy anfon copi at—

(a)corff llywodraethu'r sefydliad y cyfeirir ato ynddo;

(b)yr awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n cynnal y sefydliad ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd o natur grefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol dan sylw; ac

(c)unrhyw berson yr ymddengys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod ganddo fuddiant.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1)

J. Marek

Dirprwy Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Mawrth 2007