- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mawrth 2007.
(3) Yn y rheoliadau hyn mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae'r materion a ganlyn wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a) (gorchmynion o dan adran 16(1)) —
(a)rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi (yn unol ag is-baragraff (b) a pharagraff (3) is-baragraffau (a) i (c)) dim hwyrach na dau fis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol;
(b)rhaid i grynodeb o'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi —
(i)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal a wasanaethir, neu a fydd yn cael ei gwasanaethu, gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef,
(ii)drwy ei osod mewn o leiaf un man amlwg yn yr ardal honno, a
(iii)yn achos gorchymyn drafft sy'n ymwneud â sefydliad sydd eisoes yn bod, drwy ei osod mewn lle amlwg wrth brif fynedfa'r sefydliad hwnnw neu gerllaw iddi.
(2) Rhaid i'r crynodeb ddatgan y gellir cael copi o'r Gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r gorchymyn drafft—
(a)at awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir y sefydliad o'i mewn neu lle y bwriedir ei leoli; a
(b)corff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg addas at ofynion pobl dros oed ysgol gorfodol nad ydynt dros bedair ar bymtheg mlwydd oed, ac yn y ddau achos sydd yn yr ardal a wasanaethir neu a fydd yn cael ei gwasanaethu gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef; ac
(c)unrhyw berson arall yr ymddengys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod ganddo fuddiant; ac
(ch)unrhyw berson sy'n gofyn amdano.
3.—(1) Mae'r materion ym mharagraff (2) wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b) (gorchmynion a wneir o dan adran 16(3)).
(2) Rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi dim hwyrach na dau fis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol drwy anfon copi at—
(a)corff llywodraethu'r sefydliad y cyfeirir ato ynddo;
(b)yr awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n cynnal y sefydliad ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd o natur grefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol dan sylw; ac
(c)unrhyw berson yr ymddengys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod ganddo fuddiant.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1)
J. Marek
Dirprwy Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mawrth 2007
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: