2002 Rhif 3182 (Cy.298)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 87(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd 19951 ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol 2, ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 87(7) o'r Ddeddf honno ag Asiantaeth yr Amgylchedd, unrhyw gyrff neu bersonau y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol a diwydiant fel y gwêl yn briodol, ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y gwêl yn briodol: