- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Diwygir yr Atodlen i Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000(1) fel a ganlyn.
(2) Yn y Tabl yn Rhan I o'r Atodlen—
(a)ychwanegwch res arall sy'n ymwneud â bensen, ac
(i)yn y golofn sy'n dwyn y teitl “Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer” rhowch “Bensen: 5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol”;
(ii)yn y golofn sy'n dwyn y teitl “Y dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid cyflawni'r amcan” rhowch “31 Rhagfyr 2010”; a
(b)yn y rhes sy'n ymwneud â charbon monocsid, a'r golofn sy'n dwyn y teitl “Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer” rhowch “10” yn lle “11.6” a rhowch “dyddiol uchaf” ar ôl “cymedr 8 awr cyfredol”.
(3) Yn Rhan II (Dehongli) o'r Atodlen—
(a)yn lle paragraff 2 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr 8 awr cyfredol) rhowch—
“2.—(1) Cymedr a gyfrifir ar sail ddyddiol yw cymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf. Yr uchaf o'r cymedrau 8 awr cyfredol sy'n dod i ben yn ystod y diwrnod hwnnw yw'r cymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf ar gyfer sylwedd penodol mewn lleoliad penodol ar gyfer diwrnod penodol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr, yw “cymedr 8 awr cyfredol”. Y cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd perthnasol yn y lleoliad perthnasol ar gyfer awr benodol yw cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd yn y lleoliad ar gyfer yr awr honno a'r 7 awr flaenorol.”
(b)ym mharagraff 3 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr blynyddol yn achos plwm etc.)—
(i)dilëwch “ac” yn is-baragraff (1)(b);
(ii)ar ôl “honno” yn is-baragraff (1)(c) rhowch—
“; ac
o ran bensen, naill ai cymedr y lefelau dyddiol ar gyfer y flwyddyn honno neu gymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y flwyddyn honno”; a
(iii)yn lle is-baragraff (4) rhowch—
“(4) At ddibenion unrhyw gyfrifiad o'r cymedr blynyddol ar gyfer bensen ar sail cymedr y lefelau dyddiol, y lefel ddyddiol ar gyfer bensen mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod bensen yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod y pythefnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o'r aer a gymerir drwy gydol y pythefnos hwnnw (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod yn y pythefnos).”
(c)ym mharagraff 4 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr yn ôl yr awr), yn lle'r ail frawddeg rhowch—
“Y cymedr yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd penodol mewn lleoliad penodol ar gyfer awr benodol yw cymedr y lefelau a gofnodir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw:
yn achos bensen, ar fynychder o nid llai nag unwaith yn ystod yr awr; a
yn achos carbon monocsid, nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad yn ystod yr awr.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: