Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-dalu) (Cymru) 2001

Rhan IITREFNIADAU RHWNG GWEITHREDWYR AC AWDURDODAU

Yr amcan cyffredinol mewn perthynas â phob gweithredydd

3.  Un o amcanion (ond nid un o ddyletswyddau) awdurdod wrth lunio trefniadau ad-dalu fydd darparu nad yw gweithredwyr, fel unigolion na chyda'i gilydd, yn well nac yn waeth eu byd yn sgîl y consesiynau teithio gorfodol a ddarperir ganddynt.

Llunio trefniadau ad-dalu

4.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 8, ac i baragraff (2) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r trefniadau ad-dalu a fabwysiedir gan awdurdod cael eu llunio fel bod costau gweithredwyr wrth ddarparu consesiynau teithio gorfodol yn cael eu talu drwy'r taliadau a wneir gan yr awdurdod i'r gweithredwyr yn unol ag adran 149(1) o'r Ddeddf.

(2Ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, mae cyfeiriad at gostau gweithredwyr wrth ddarparu consesiynau teithio gorfodol yn gyfeiriad at gyfanswm y canlynol —

(a)y refeniw, drwy gyfrwng prisiau tocynnau, y mae'r awdurdod yn cyfrifo bod y gweithredydd wedi mynd hebddynt neu yn amcangyfrif y bydd yn mynd hebddynt yn sgîl darparu'r consesiynau teithio gorfodol o dan sylw, llai unrhyw refeniw ychwanegol o brisiau tocynnau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif bod y gweithredydd wedi'i gael neu y bydd yn ei gael am fod y consesiynau hynny ar gael; a

(b)unrhyw gostau sy'n ychwanegol at y costau gweithredu sylfaenol y mae'r awdurdod yn cyfrifo bod y gweithredydd wedi gorfod eu tynnu neu y bydd yn gorfod eu tynnu mewn cysylltiad â darparu consesiynau teithio gorfodol, llai unrhyw ostyngiad yn y costau gweithredu sylfaenol y mae'r awdurdod yn amcangyfrif bod y gweithredydd wedi'i sicrhau neu y bydd yn ei sicrhau am fod y consesiynau hynny ar gael.

Dull gwneud taliadau ad-dalu

5.—(1Pennir y cyfnodau talu a'r diwrnodau talu yn y trefniadau ad-dalu ac —

(a)rhaid i'r cyfnodau talu beidio â bod yn hirach na thri mis, neu mewn perthynas â gweithredydd neu, weithredwyr arbennig, y cyfryw gyfnod byrrach a gaiff ei gytuno yn ysgrifenedig rhwng yr awdurdod a'r gweithredydd hwnnw neu'r gweithredwyr hynny; a

(b)mewn perthynas â phob cyfnod talu, rhaid i'r diwrnod talu beidio â bod yn hwyrach na'r diwrnod sydd hanner ffordd rhwng diwrnod cyntaf a diwrnod olaf y cyfnod talu neu, mewn perthynas â gweithredydd neu weithredwyr arbennig, y cyfryw ddiwrnod ac a gaiff ei gytuno yn ysgrifenedig rhwng yr awdurdod a'r gweithredydd hwnnw neu'r gweithredwyr hynny (ac, wrth ddarganfod y diwrnod talu, rhaid peidio â rhoi sylw i hanner diwrnodau).

(2Rhaid i bob taliad ad-dalu beidio â bod yn llai nag 85% o'r swm y mae'r awdurdod yn amcangyfrif ei fod yn ddyledus i'r gweithredydd mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (9) o'r rheoliad hwn, rhaid i falans pob taliad ad-dalu gael ei dalu, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y dangosir eu bod yn angenrheidiol yng ngoleuni'r wybodaeth sydd ar gael i'r awdurdod yn unol â'r trefniadau sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith, heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl diwrnod y cyfnod talu perthnasol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, os na chaiff unrhyw falans a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwn ei dalu yn unol â'r paragraff hwnnw, rhaid gwneud darpariaeth i'r awdurdod dalu llog syml (yn ôl cyfradd o 1% ar ben y cyfradd sylfaenol) ar y swm sydd heb ei dalu am y tro am y cyfnod sy'n dechrau â'r dyddiad olaf pryd y dylai'r balans fod wedi'i dalu yn unol â pharagraff (3) ac yn diweddu â dyddiad y taliad ei hun.

(5At ddibenion paragraff (4) o'r rheoliad hwn:

(a)ystyr “cyfradd sylfaenol” (“base rate”) yw'r gyfradd sylfaenol a osodir gan y banciau cyfeiriol ac sy'n cael effaith trwy gydol y cyfnod a ragnodir yn y paragraff hwnnw neu, os oes mwy nag un cyfradd sylfaenol yn cael effaith yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfartaledd y cyfraddau hynny;

(b)os osodir cyfraddau sylfaenol gwahanol gan fanciau cyfeiriol gwhanol mewn perthynas â diwrnod arbennig, y gyfradd sylfaenol ar y diwrnod hwnnw at ddibenion is-baragraff (a) yw'r gyfradd sydd, pan restrir y cyfraddau a osodir gan pob banc cyfeiriol mewn dilyniant disgynnol o saith, yn bedwaredd yn y dilyniant;

(c)at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “banciau cyfeiriol” (“reference banks”), mewn perthynas â diwrnod arbennig, yw'r saith sefydliad mwyaf (trwy gyfeirio at werth eu hasedau) a awdurdodwyd o dan Ddeddf Bancio 1987 neu unrhyw ail-gyflawni deddfwriaethol o'r Ddeddf honno ac sydd wedi'i ymgorffori ac yn cynnal busnes derbyn adneuon yn y Deyrnas Gyfunol ac sydd yn gosod cyfradd sylfaenol.

(6Ni fydd llog yn daladwy nes bod yr hawl i gael consesiynau teithio gorfodol o dan adran 145(1) o'r Ddeddf wedi bod mewn grym am chwe mis nac mewn perthynas ag unrhyw gyfnod sy'n syrthio yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y chwe mis cyntaf ar ôl i'r hawl honno ddod i rym.

(7Os yw swm unrhyw daliad ad-dalu a wneir yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu yn fwy na chyfanswm y taliad y ceir ei fod yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw, rhaid gwneud darpariaeth i'r awdurdod hysbysu'r gweithredydd yn unol â hynny yn ysgrifenedig ac wedi hynny caiff yr awdurdod dynnu swm y gormodedd oddi ar y taliadau ad-dalu sy'n ddyledus i'r gweithredydd hwnnw mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu dilynol.

(8Os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (7) o'r rheoliad hwn yn codi mewn perthynas â pherson nad yw'n weithredydd mwyach, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r person hwnnw yn unol â hynny ac, oni bai bod y person hwnnw'n dadlau yn erbyn bodolaeth neu swm y gormodedd, rhaid i'r person hwnnw dalu swm y gormodedd i'r awdurdod o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y daw'r hysbysiad i law.

(9Gall darpariaeth gael ei gwneud ar gyfer gwneud unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus yn unol â pharagraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn heblaw yn unol â'r rheoliad hwn mewn unrhyw achos lle mae gweithredydd yn methu â rhoi gwybodaeth yn unol â'r trefniadau ad-dalu sy'n rhoi eu heffaith i'r Rheoliadau hyn —

(a)yn achos taliad sy'n ddyledus yn unol â pharagraff (2), mewn digon o bryd i ganiatáu i'r awdurdod ffurfio amcangyfrif rhesymol o swm y taliad; neu

(b)yn achos taliad sy'n ddyledus yn unol â pharagraff (3), mewn digon o bryd i ganiatáu i'r awdurdod gyfrifo swm y taliad.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (9) o'r rheoliad hwn, rhaid gwneud darpariaeth i unrhyw daliad ad-dalu neu i unrhyw ran o daliad o'r fath sy'n ddyledus i weithredydd yn unol â chonsesiynau gorfodol a ddarparwyd yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis yn dechrau ar ddyddiad a bennir yn y trefniadau ond sydd heb gael ei dalu i gael ei dalu heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben.

Dull safonol ar gyfer darganfod nifer y siwrneiau, a gwerth y tocynnau ar eu cyfer

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, mewn perthynas â phob cynllun, rhaid i'r awdurdod fabwysiadu dull safonol i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i reoliad (4), i benderfynu —

(a)cyfanswm y siwrneiau a wnaed gan bersonau â hawl i gael consesiynau teithio gorfodol ar wasanaethau gweithredwyr; a

(b)gwerth y tocynnau teithio sydd i'w briodoli i'r siwrneiau hynny.

(2Rhaid i'r dull safonol ddarparu i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth unrhyw ddata sy'n dangos bod dull creu'r data hwnnw yn gywirach na'r dull safonol.

(3Os nad yw'r dull safonol yn darparu ar gyfer cofnodi pob siwrnai a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y dull hwnnw ddarparu ar gyfer —

(a)cyfrifo ffigurau ar gyfer cyfanswm y siwrneiau hynny a gwerth tocynnau teithio y siwrneiau hynny drwy unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau y mae'n ymddangos i'r awdurdod eu bod yn rhesymol; a

(b)os oes angen hynny, dyrannu'r nifer hwnnw a'r gwerth tocynnau teithio hwnnw rhwng pob gweithredydd y mae ad-daliadau i'w gwneud iddynt gan yr awdurdod o dan adran 149(1) o'r Ddeddf.

(4Os yw symiau'r taliadau ad-dalu'n cael eu hamcangyfrif neu eu cyfrifo heblaw drwy gyfeirio at ddull safonol sy'n darparu ar gyfer cofnodi'r holl siwrneiau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r amcangyfrifon neu'r cyfrifiadau (ond nid y dull safonol) gael eu haddasu os dangosir bod yr wybodaeth y cawsant eu seilio arni yn anghywir mewn unrhyw ffordd berthnasol.

(5Caiff awdurdod neu weithredydd y mae ganddynt reswm dros gredu bod y dull safonol a ddefnyddir ganddynt yn amhriodol mewn perthynas ag unrhyw weithredydd penodol, ar eu cost a'u traul eu hunain, wneud darpariaeth ar gyfer cyfrifiad cywirach o gyfanswm a gwerth tocynnau teithio siwrneiau mewn perthynas â'r gweithredydd hwnnw.

(6Os bernir gan awdurdod y byddai cymhwyso'r dull safonol, oherwydd natur neu faint y gwasanaethau y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt gan weithredydd neu weithredwyr arbennig, yn gosod baich gweinyddol neu ariannol afresymol ar y cyfryw weithredydd neu weithredwyr, gall y trefniadau ad-dalu sy'n perthyn iddynt gynnwys esemtiad o'r dull safonol mewn unrhyw achos lle bo'r awdurdod a'r gweithredydd yn cytuno felly ac os bydd pob un o'r amodau canlynol wedi'i fodloni —

(a)bod yr awdurdod wedi sefydlu ac wedi cyhoeddi meini prawf yr asesir hawl gweithredydd i gael ei esemtio o'r dull safonol trwy gyfeirio atynt;

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cymeradwyaeth ysgrifenedig i'r meini prawf hynny;

(c)bod y gweithredydd neu'r gweithredwyr y cymhwysir yr esemtiad iddynt yn bodloni'r meini prawf hynny;

(ch)bod yr esemtiad yn cael ei gymhwyso gan yr awdurdod i'r holl weithredwyr eraill sydd â hawl i daliadau ad-dalu gan yr awdurdod hwnnw ac sydd ym marn yr awdurdod yn bodloni'r meini prawf hynny ac yn dymuno manteisio ar yr esemtiad.

Adolygu cyfrifiadau'r dull safonol

7.  Rhaid gwneud darpariaeth i awdurdod adolygu'r cyfrifiadau a wneir yn unol â'r dull safonol nid llai nag unwaith pob tair blynedd.

Cyfrifo ad-daliadau

8.  Pan fydd awdurdod yn mabwysiadu dull safonol yn unol â rheoliad 6 a phan fydd yn cyfrifo taliadau ad-daliadau yn unol â'r dull hwnnw, rhaid iddo dalu sylw at unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol i awdurdodau yn gyffredinol neu i'r awdurdod arbennig hwnnw at ddibenion y rheoliad hwn.

Cymhwyso rheoliadau 10 i 17

9.  Mae rheoliadau 10 i 17 yn gymwys i ddarpariaethau sydd i'w cynnwys neu (yn ôl fel y digwydd) a all gael neu na all gael eu cynnwys mewn trefniadau ad-dalu mewn perthynas â gweithredwyr.

Defnyddio gwybodaeth a roddir gan weithredwyr

10.  Dim ond ar gyfer cyfrifo ac mewn cysylltiad â chyfrifo taliadau ad-dalu y gall unrhyw wybodaeth a roddir gan weithredydd i awdurdod yn unol â threfniadau sy'n rhoi eu heffaith i'r rheoliad hwn a rheoliadau 11 i 17 gael eu defnyddio, a rhaid i'r awdurdod beidio â datgelu'r wybodaeth honno ac eithrio —

(a)gyda chydsyniad ysgrifenedig y gweithredydd; neu

(b)i'r graddau y mae'r wybodaeth o dan sylw wedi dod yn wybodaeth gyhoeddus heblaw drwy weithred neu ddiffyg gweithred gan yr awdurdod.

Gwahardd gofyn am wybodaeth benodol

11.  Ni ellir mynnu cael gwybodaeth am unrhyw un o'r pynciau canlynol —

(a)cyfanswm trosiant busnes, neu gyfanswm trosiant unrhyw ran o fusnes, gweithredydd; ac

(b)cyfradd flynyddol neu swm blynyddol elw neu golled y busnes hwnnw, neu unrhyw ran ohono.

Cyfyngu ar ofyn am wybodaeth benodol

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth am y pynciau canlynol neu yn eu cylch —

(a)cyfanswm y teithwyr o bob disgrifiad a gludwyd gan weithredydd ar wasanaethau y mae consesiynau teithio gorfodol yn cael eu darparu arnynt ar unrhyw adeg; a

(b)swm y prisiau tocynnau a gafodd y gweithredydd oddi wrth y teithwyr hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, yr unig wybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi y gellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd ei rhoi yw gwybodaeth mewn perthynas â'r holl wasanaethau y mae'r gweithredydd hwnnw'n eu darparu ac y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt.

(3Os oes trefniadau'n darparu ar gyfer rhannu ardal awdurdod consesiynau teithio yn wahanol rannau, gellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd roi'r wybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi mewn perthynas â phob rhan, ond nid os bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddatgelu niferoedd y teithwyr a gludwyd ar unrhyw wasanaeth penodol neu grŵ p o wasanaethau a ddarparwyd ganddo neu (yn ôl fel y digwydd) swm y prisiau tocynnau a gafodd oddi wrth y teithwyr hynny.

(4Gellir gwneud darpariaeth, mewn unrhyw achos lle rhoddir gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi yn unol â threfniadau sy'n rhoi ei effaith i'r rheoliad hwn, i'r wybodaeth gael ei rhoi ynghyd â thystysgrif ei bod yn gywir ac yn gyflawn, sef tystysgrif a roddir gan berson cyfrifol.

(5Ym mharagraff (4) o'r rheoliad hwn ystyr “person cyfrifol” yw person sy'n aelod o un neu fwy o'r cyrff canlynol —

(a)Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;

(b)Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;

(c)Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig;

(ch)unrhyw gorff proffesiynol o gyfrifwyr a fydd wedi'i gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion y paragraff hwn.

(6Os bydd awdurdod yn gofyn bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ynghyd â thystysgrif gan berson cyfrifol yn unol â pharagraff (4) rhaid i unrhyw gost ychwanegol resymol a dynnir gan weithredydd oherwydd y gofyn hwnnw gael ei ad-dalu gan yr awdurdod ac i'r perwyl hwnnw bernir ei bod yn rhan o'r balans sy'n daladwy o dan Reoliad 5(3) mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol y cyflenwyd yr awdurdod â manylion llawn y gost honno yn ei ystod.

Esemptio gweithredwyr penodol rhag rhoi gwybodaeth

13.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwyr y mae esemtiad o'r dull safonol yn cael ei gymhwyso iddynt o dan reoliad 6(6).

(2Ni ellir ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi unrhyw wybodaeth y mae rheoliad 12 yn gymwys iddi.

Amlder rhoi gwybodaeth benodol

14.  Ni ellir ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth am unrhyw bwnc gael ei roi yn amlach nag unwaith ym mhob 28 diwrnod nac mewn perthynas â chyfnodau o lai nag 28 diwrnod.

Arolygon mewn gwasanaethau

15.  Gall awdurdod ei gwneud yn ofynnol i weithredydd ganiatáu i swyddogion, gweision neu asiantau'r awdurdod gael mynd yn rhesymol o aml at gerbydau'r gweithredydd y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt at y dibenion canlynol (gan gynnwys yr hawl i deithio'n ddi-dâl arnynt) —

(a)arolygu neu gyfrif neu amcangyfrif nifer y teithwyr (yn gyffredinol neu o unrhyw ddisgrifiad penodol) a'r gwerthoedd tocynnau teithio sy'n briodol i'r teithwyr hynny; a

(b)sicrhau gwybodaeth am faterion eraill sy'n ymwneud â'r siwrneiau a wneir gan deithwyr y mae ganddynt hawl i gael consesiynau teithio gorfodol ac sy'n angenrheidiol er mwyn i'r awdurdod gyfrifo taliadau ad-dalu.

Gosod offer a'u defnyddio

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o'r rheoliad hwn, gall awdurdod ei gwneud yn ofynnol i weithredydd gael offer yn ei gerbydau sy'n cyd-ymffurfio â manyleb a osodir gan yr awdurdod hwnnw er mwyn rhoi a dileu tocynnau neu gofnodi niferoedd a disgrifiadau teithwyr ar y cerbydau hynny fel arall yn ei gerbydau, a'u defnyddio.

(2Yr awdurdod sydd i dalu costau a threuliau darparu a gosod unrhyw offer o'r fath.

(3Heb ragfarnu rheoliad 12, ni ellir ei gwneud yn ofynnol, onibai fod y dull safonol yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyfrifo gwerthoedd tocynnau teithio cyfartalog ar gyfer yr holl deithwyr ac at ddibenion hynny'n unig, i weithredydd rhoi gwybodaeth i'r awdurdod sy'n deillio o ddefnyddio unrhyw offer o'r fath sy'n ymwneud â siwrneiau gan deithwyr nad oes ganddynt hawl i gael consesiynau teithio gorfodol.

(4Gall awdurdod, mewn perthynas ag unrhyw gerbyd y mae consesiynau teithio gorfodol ar gael arno, ei wneud hi'n ofynnol, ar draul y gweithredydd, i'r gweithredydd ddangos ar y cerbyd hwnnw arwydd sy'n gwneud y ffaith honno'n glir ac sy'n resymol ddarllendwy gan y rhai yn gyffredinol sy'n debyg o fod â hawl i'r consesiynau hynny.

Newidiadau mewn gwasanaethau a phrisiau tocynnau

17.  Gellir gwneud darpariaeth i weithredydd roi gwybod i'r awdurdod am unrhyw newidiadau yn y gwasanaethau y mae'r gweithredydd hwnnw'n eu gweithredu ac y darperir consesiynau teithio gorfodol arnynt, ac o unrhyw newidiadau yn y tabl prisiau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau hynny, yn y naill achos a'r llall pan fydd y newid yn effeithiol neu heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedyn.

Cyflogi asiantau gweinyddu

18.  Ni chaiff awdurdod gyflogi unrhyw berson sy'n ddeiliad trwydded gweithredydd PSV yn asiant iddo at ddibenion gweinyddu trefniadau ad-daliadau.

Cyfyngiad cyffredinol ar ymyrryd â dull darparu gwasanaethau

19.  Ac eithrio lle gwneir hynny i roi ei heffaith i'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, ni all y trefniadau gynnwys darpariaethau y byddai cydymffurfio â hwy yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredydd newid y dull sydd ganddo ar gyfer darparu'r gwasanaethau y darperir consesiynau arnynt.