Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-dalu) (Cymru) 2001

Rhan ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Consesiynau Teithio Gorfodol (Trefniadau Ad-dalu) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod consesiynau teithio fel y'i dehonglir yn unol ag adran 146 o'r Ddeddf;

  • ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy'n gwneud cais y mae rheoliadau 21 i 32 yn gymwys iddynt;

  • ystyr “consesiynau teithio gorfodol” (“mandatory travel concessions”) yw consesiynau teithio sy'n cael eu darparu neu sydd i'w darparu o dan adran 145(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “costau gweithredu sylfaenol” (“basic operating costs”) yw'r costau y byddai'r gweithredydd yn eu tynnu wrth ddarparu gwasanaeth pe na bai'r consesiynau'n cael eu darparu ar y gwasanaeth hwnnw;

  • ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw'r cyfnod y mae taliad ad-dalu yn ymwneud ag ef;

  • ystyr “diwrnod talu” (“payment day”) yw unrhyw ddiwrnod pryd y mae ad-daliad i fod i gael ei wneud;

  • ystyr “dull safonol” (“standard method”) yw'r dull ar gyfer cyfrifo swm y taliadau ad-dalu sy'n ddyledus i weithredwyr sy'n darparu consesiynau teithio gorfodol a fabwysiedir gan awdurdod yn unol â rheoliad 6(1);

  • dehonglir “gwasanaethau cymwys” (“eligible services”) yn unol ag adran 146 o'r Ddeddf;

  • ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw gweithredydd sy'n darparu consesiynau teithio gorfodol ac mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n ddarpar weithredydd o'r fath;

  • ystyr “gwerth tocynnau teithio” (“fares value”), mewn perthynas â siwrneiau, yw'r cyfanswm a fyddai wedi'i dalu am y tocynnau teithio pe na bai consesiynau wedi'u darparu;

  • ystyr “taliad ad-dalu” (“reimbursement payment”) yw unrhyw daliad sydd i'w wneud yn unol ag adran 149(1) o'r Ddeddf;

  • mae “trefniadau ad-dalu” (“reimbursement arrangements”) yn cynnwys amodau hawl gweithredwyr i gael ad-daliadau o dan adran 149(1) o'r Ddeddf mewn perthynas â chonsesiynau teithio gorfodol, a dull penderfynu a thalu'r rheiny.

(2Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y dyddiad y rhoddir hysbysiad, mewn perthynas â hysbysiadau a anfonir drwy'r post, yn gyfeiriadau at y dyddiad y bernir bod yr hysbysiad wedi dod i law yn y cyfeiriad yr anfonwyd ef iddo, yn unol â rheoliad 22(2).

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac eithrio lle darperir fel arall.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at amcangyfrifon neu gyfrifiadau a wneir gan awdurdod mewn perthynas ag ad-daliadau yn gyfeiriad at amcangyfrifon neu gyfrifiadau a wneir drwy gyfrwng y dull ymarferol gorau sydd ar gael i'r awdurdod.