Gorchymyn Cadw Mincod (Cymru) 2000

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 3340 (Cy. 218)

ANIFEILIAID, CYMRU

ANIFEILIAID DINISTRIOL

Gorchymyn Cadw Mincod (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

19 Rhagfyr 2000

Yn dod i rym

1 Ionawr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i fodloni mewn perthynas â'r rhywogaeth famalaidd anfrodorol sy'n destun y Gorchymyn hwn ei bod yn ddymunol eu rheoli oherwydd eu harferion dinistriol a difa unrhyw rai ohonynt sy'n rhydd, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 10(1) o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932(1) ac a freiniwyd ynddo(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

(1)

1932 p. 12; diwygiwyd adran 11 (dehongli) gan O.S. 1992/3302.

(2)

Mae'r swyddogaethau a roddwyd gan adran 10 o'r Ddeddf i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi'u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'r swyddogaethau yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau yn adran 10 yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae Gorchymyn 1999 yn darparu eithriad i'r trosglwyddo swyddogaethau o dan adran 10 o Ddeddf 1932 pan fydd gweithredu'r swyddogaethau yn ymwneud â mewnforio mathau o anifeiliaid y mae'r Ddeddf yn ymwneud â hwy. Mae'r eithriad hwn yn cael yr effaith o drosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol dim ond y swyddogaethau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) 1969 (O.S.1969/388). Darparodd Gorchymyn 1969 fod y pwerau yn adran 10 i'w gweithredu ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â chadw mincod, nid mewnforio mincod, ac felly nid yw'r eithriad yng Ngorchymyn 1999 yn gymwys.