Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Awst 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig .
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn,
ystyr “amcan ansawdd aer” (“air quality objective”) yw'r ystyr a roddir gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn,
ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn,
ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995,
ystyr “sylwedd” (“substance”) yw sylwedd a restrir yng ngholofn chwith y Tabl;
acystyr “y Tabl” (“the Table”) yw'r Tabl yn Rhan I o'r Atodlen.
(2) Bydd darpariaethau Rhan II o'r Atodlen yn effeithiol at ddibenion dehongli'r Atodlen.
Cyfnodau perthnasol
3. Y cyfnod sy'n dechrau â'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n dod i ben ar y dyddiad a ragnodir yng ngholofn dde y Tabl gyferbyn â'r amcan ansawdd aer perthnasol yw'r cyfnod perthnasol a ragnodir at ddibenion Rhan IV o Ddeddf 1995(1) mewn perthynas ag amcan ansawdd aer.
Amcanion ansawdd aer
4.—(1) Mae yn amcan ansawdd aer ar gyfer pob sylwedd fod lefel y sylwedd hwnnw yn yr aer wedi'i gyfyngu i'r lefel a ragnodir yng ngholofn chwith y Tabl ar gyfer y sylwedd hwnnw erbyn dyddiad nad yw'n ddiweddarach na'r dyddiad a ragnodir yng ngholofn dde'r Tabl ar gyfer y sylwedd hwnnw, neu, os rhagnodir mwy nag un amcan ansawdd aer ar gyfer sylwedd, y dyddiad a ragnodir yn y golofn dde gyferbyn â'r amcan ansawdd aer perthnasol ar gyfer y sylwedd hwnnw.
(2) Rhaid penderfynu a yw amcan ansawdd aer a ragnodir yn unol â pharagraff (1) wedi'i gyflawni neu'n debygol o gael ei gyflawni drwy gyfeirio at ansawdd yr aer mewn lleoliadau
(a)sydd y tu allan i adeiladau neu strwythurau naturiol neu artiffisial eraill uwchlaw neu islaw'r ddaear; a
(b)lle mae aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn rheolaidd.
Diddymu
5. Mae Rheoliadau Ansawdd Aer 1997(2) wedi'u diddymu drwy hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymruo dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis Thomas
Y Llywydd
19 Gorffennaf 2000