RHAN 2Categorïau o hadau
Hadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
4.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau'r planhigion yn y golofn gyntaf o'r tabl yn Atodlen 1, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu amaethyddol neu arddwriaethol, ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu defnyddio ar gyfer planhigion addurnol.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu hallforio i'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (ac eithrio rheoliad 26 sy'n ymwneud ag ardystio ar gyfer allforio).
Categorïau o hadau
5. Rhennir hadau i'r categorïau canlynol a adwaenir yn gyffredin yn ôl y talfyriadau a roddir—
(a)hadau bridiwr (“BR”);
(b)hadau cyn-sylfaenol (“PB”);
(c)hadau sylfaenol (“BS”);
(ch)hadau ardystiedig (“CS”);
(d)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (“C1”);
(dd)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (“C2”);
(e)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth (“C3”);
(f)hadau masnachol (“CM”);
(ff)hadau safonol (llysiau yn unig) (“ST”);
(g)hadau o safon wirfoddol uwch (“HVS”).
Hadau bridiwr
6. Hadau bridiwr yw hadau a gynhyrchir gan fridiwr, neu o dan gyfrifoldeb bridiwr ac y'u bwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol neu hadau sylfaenol.
Cynheiliaid ar gyfer hadau cyn-sylfaenol a sylfaenol
7. Ni cheir cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol a hadau sylfaenol ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig y person a restrir fel cynheiliad yr hadau hynny yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin.