Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Categorïau o hadau

Hadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

4.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau'r planhigion yn y golofn gyntaf o'r tabl yn Atodlen 1, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu amaethyddol neu arddwriaethol, ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu defnyddio ar gyfer planhigion addurnol.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu hallforio i'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (ac eithrio rheoliad 26 sy'n ymwneud ag ardystio ar gyfer allforio).

Categorïau o hadau

5.  Rhennir hadau i'r categorïau canlynol a adwaenir yn gyffredin yn ôl y talfyriadau a roddir—

(a)hadau bridiwr (“BR”);

(b)hadau cyn-sylfaenol (“PB”);

(c)hadau sylfaenol (“BS”);

(ch)hadau ardystiedig (“CS”);

(d)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (“C1”);

(dd)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (“C2”);

(e)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth (“C3”);

(f)hadau masnachol (“CM”);

(ff)hadau safonol (llysiau yn unig) (“ST”);

(g)hadau o safon wirfoddol uwch (“HVS”).

Hadau bridiwr

6.  Hadau bridiwr yw hadau a gynhyrchir gan fridiwr, neu o dan gyfrifoldeb bridiwr ac y'u bwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol neu hadau sylfaenol.

Cynheiliaid ar gyfer hadau cyn-sylfaenol a sylfaenol

7.  Ni cheir cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol a hadau sylfaenol ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig y person a restrir fel cynheiliad yr hadau hynny yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill