Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007

Amrywio caniatâd ar gais: achosion eraill

20.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3) na fyddai amrywiad yn brosiect perthnasol na phrosiect cynefinoedd, mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)i'r cais mewn cysylltiad â'r amrywiad hwnnw; a

(b)i unrhyw gais dilynol, mewn cysylltiad â'r un amrywiad, a gyflwynir i Weinidogion Cymru o fewn 12 mis i ddyddiad y dyfarniad.

(2Pan fo'n rhesymol angenrheidiol, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth bellach cyn pen unrhyw gyfnod ac ar unrhyw ffurf a bennir yn rhesymol.

(3Pan fo'r ceisydd, cyn pen unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru wedi'i bennu, neu unrhyw gyfnod pellach y byddant yn ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw archiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2), bernir bod y cais amrywio wedi'i dynnu'n ôl ac ad-delir y ffi, ar yr amod na fydd Gweinidogion Cymru, ar ddyddiad ei dynnu'n ôl, wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (4).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru anfon —

(a)copi o'r cais amrywio ac o unrhyw wybodaeth bellach a ddarparwyd o dan baragraff (2); a

(b)datganiad yn dweud y caniateir i sylwadau ynglyn â'r cais gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru, ac yn nodi i ba gyfeiriad yng Nghymru y caniateir i'r sylwadau gael eu hanfon, a chyn pen pa gyfnod y caniateir i'r sylwadau gael eu cyflwyno, sef cyfnod na fydd yn llai nag wyth wythnos gan ddechrau ar y dyddiad y caiff y datganiad ei anfon,

at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5).

(5Dyma'r personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (4)—

(a)y cyrff ymgynghori priodol;

(b)y perchennog (os nad y ceisydd yw'r perchennog); ac

(c)unrhyw berson arall (gan gynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hyrwyddo gwaith diogelu'r amgylchedd yn nyfroedd Cymru) y mae'n debyg bod ganddo fuddiant yn y cais neu y mae Gweinidogion Cymru yn credu y byddai'r cais yn debyg o effeithio arno.

(6Cyn penderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod cais amrywio y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, i'r ceisydd, i'r perchennog (os nad y ceisydd yw'r perchennog) ac i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn credu y dylid rhoi cyfle o'r fath iddo.

(7Wrth benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod cais amrywio y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth —

(a)yr wybodaeth a ddarperir yn y cais amrywio;

(b)unrhyw wybodaeth bellach a ddarperir o dan baragraff (2) ac unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gan y ceisydd;

(c)unrhyw sylwadau perthnasol a gyflwynir mewn ymateb i'r copïau o'r cais a ddarperir o dan baragraff (4);

(ch)adroddiad unrhyw berson a benodir o dan baragraff (6); a

(d)unrhyw un o bolisïau cyhoeddedig Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr.

(8Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu'r cais amrywio naill ai drwy roi neu wrthod caniatâd ar gyfer yr amrywiad.

(9Caiff penderfyniad i roi caniatâd ar gyfer yr amrywio fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol, gan gynnwys —

(a)amodau sydd wedi'u bwriadu i roi ar waith unrhyw bolisi a gymerir i ystyriaeth o dan baragraff (7)(d) ac sy'n cynnwys terfynau rhanbarthol ar dunelledd y mwynau y caniateir treillio amdanynt, a

(b)amodau ynglyn â'r ffioedd, y dyfernir arnynt yn unol â rheoliad 25, ac sydd i'w talu mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru a dynnir wrth ddehongli ac asesu canlyniadau unrhyw waith i fonitro cydymffurfedd â'r amodau sy'n gysylltiedig â'r caniatâd a hwnnw'n fonitro a wnaed yn unol â'r amodau hynny.

(10Rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r penderfyniad o dan baragraff (8) at y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (5), a rhaid i'r hysbysiad ddatgan —

(a)y prif resymau dros y penderfyniad;

(b)y prif ystyriaethau y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arno gan gynnwys, os yw'n berthnasol, gwybodaeth am y broses o gyfranogi gan y cyhoedd;

(c)pan fo caniatâd yn cael ei roi —

(i)unrhyw amodau a osodir o dan baragraff (9), a

(ii)pan fo'n gymwys, y prif gamau i'w cymryd i osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol; ac

(ch)y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.