Amrywio caniatâd ar gais: prosiectau perthnasol a phrosiectau cynefinoedd
19.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3)(a) y byddai amrywiad yn brosiect perthnasol —
(a)rhaid i Weinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu datganiad amgylcheddol cyn pen cyfnod penodedig a rhaid iddynt beidio â phenderfynu'r cais amrywio hyd nes y bydd y ceisydd wedi'i ddarparu; a
(b)bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r cais amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gais o dan reoliad 10, fel petai cyfeiriadau at benderfynu cais o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac ymadroddion cytras yn gyfeiriadau at benderfynu cais o dan reoliad 18—
(i)rheoliadau 7 ac 8,
(ii)paragraffau (4), (5) a (6) o reoliad 10,
(iii)rheoliadau 11 a 12,
(iv)ac eithrio paragraff 7(b), rheoliad 13,
(v)rheoliadau 14 a 15,
(vi)rheoliad 23,
(vii)rheoliadau 25 i 27, ac
(viii)rheoliadau 29 a 30.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am ddatganiad amgylcheddol o dan baragraff (1)(a) ac nad yw wedi'i ddarparu cyn pen y cyfnod penodedig, neu unrhyw gyfnod pellach a ganiateir ganddynt, bernir bod y cais wedi'i dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac ad-delir y ffi, ar yr amod na fydd unrhyw hysbyseb o dan reoliad 12(1), fel y'i cymhwysir gan baragraff 1(b), wedi'i chyhoeddi ar y dyddiad y tynnir y cais yn ôl.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3)(b) y byddai amrywiad yn brosiect cynefinoedd, bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r cais amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas â chais a wnaed o dan reoliad 10, fel petai cyfeiriadau at benderfynu cais o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac ymadroddion cytras yn gyfeiriadau at benderfynu cais o dan reoliad 18—
(a)rheoliadau 13 a 14;
(b)rheoliadau 23 i 30.