Adran 2 – Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70)
7.Mae adran 2 yn diwygio adran 123 (gwaredu tir gan y prif gynghorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwaredu mannau agored gan yr awdurdodau lleol. Mae’r diwygiad a wneir gan is-adran (2) yn darparu y bydd gwaredu tir gan y prif gynghorau, hynny yw cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol, yn ogystal â dod o dan ddarpariaethau adran 123, hefyd yn dod o dan ddarpariaethau’r Mesur. Mae is-adran (3) yn gwneud diwygiad tebyg i adran 127 o Ddeddf 1972 (gwaredu tir gan blwyfi a chymunedau).