Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 9 – Terfynu Etc. Contractau Meddiannaeth

Pennod 1 – Trosolwg a Darpariaethau Rhagarweiniol
Adran 147 – Trosolwg o’r Rhan

352.Darperir trosolwg o’r Rhan hon mewn tabl sy’n dangos y contractau meddiannaeth y mae pob pennod yn gymwys iddynt, ynghyd â chynnwys pob Pennod.

Adran 147 – Terfynu a ganiateir etc.

353.Ni chaniateir terfynu contract meddiannaeth ac eithrio’n unol â’r telerau sylfaenol sy’n ymwneud â therfynu sy’n gymwys i’r math hwnnw o gontract, neu’n unol â darpariaethau mewn deddfwriaeth arall (gan gynnwys mewn Rhannau eraill o’r Ddeddf). Nid yw hyn yn effeithio ar y posibilrwydd y gall contract gael ei ddadwneud gan y landlord neu gan ddeiliad y contract (er enghraifft, oherwydd camliwiad twyllodrus gan y landlord), na thrwy weithredu cyfraith llesteirio (er enghraifft, gosod cytundeb o’r neilltu oherwydd amgylchiadau sy’n ei gwneud yn amhosibl i gydymffurfio â’i rwymedigaethau contractiol). Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r adran hon heb ei haddasu fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Adran 149 - Hawliadau meddiant ac Adran 150 - Hysbysiadau adennill meddiant

354.Mae adran 149 yn darparu na chaniateir cyflwyno hawliad meddiant (hynny yw, hawliad i’r llys gan y landlord i gael meddiant o’i eiddo) ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir ym Mhenodau 3 i 5 a 7. Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori adran 149 heb ei haddasu fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

355.Rhaid i landlord sy’n dymuno gwneud hawliad meddiant ddyroddi ‘hysbysiad adennill meddiant’ i ddeiliad y contract yn gyntaf, ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys­­—

a.

pan fod landlord yn rhoi hysbysiad o dal y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 173 (hawl y landlord i derfynu contract safonol cyfnodol dim ond drwy roi hysbysiad),

b.

pan fo landlord yn rhoi hysbysiad o dan ‘gymal terfynu’r landlord’ mewn contract safonol cyfnod penodol (gweler adran 194), neu

c.

pan fo landlord yn rhoi hysbysiad o dal y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 186 (hysbysiad a roddir mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol contract safonol cyfnod penodol).

356.Y rheswm am hyn yw bod terfynu’r denantiaeth yn digwydd yn yr amgylchiadau uchod yn syml am fod y landlord wedi rhoi hysbysiad, ac nid am unrhyw reswm arall.

357.Bydd hysbysiad adennill meddiant yn hysbysu deiliad y contract bod y landlord yn ceisio adennill meddiant o’r annedd. Mae adran 150 yn rhoi manylion yr hyn y mae’n rhaid ei nodi; hynny yw, manylion y sail y rhoddir yr hysbysiad (sef y rheswm pam y mae’r landlord yn ceisio adennill meddiant), bwriad y landlord i wneud hawliad meddiant yn y llys, ac ar ôl pa ddyddiad y caiff y landlord wneud yr hawliad hwnnw.

Adran 151 – Contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig: hysbysiadau o dan adrannau 173 a 181

358.Mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, rhaid i hysbysiad a roddir gan landlord o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord), neu hysbysiad adennill meddiant a roddir gan landlord cyn gwneud hawliad o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol), ddatgan hefyd fod hawl gan ddeiliad y contract i’w gwneud yn ofynnol i’r landlord gynnal adolygiad (o dan adran 202) o’r penderfyniad i geisio meddiant. Mae is-adran (3) yn darparu bod yr adran i’w hymgorffori fel un o delerau sylfaenol pob contract safonol rhagarweiniol a phob contract safonol ymddygiad gwaharddedig.

Pennod 2 - Terfynu Etc. Heb Hawliad Meddiant.(Mae’R Bennod Hon Yn Gymwys I Bob Contract Meddiannaeth)
Adran 152 – Deiliad y contract yn terfynu’n fuan

359.Caiff deiliad contract, cyn cael y datganiad ysgrifenedig o’r contract neu cyn dod yn gymwys i feddiannu’r annedd, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord. Rhaid i’r landlord ddychwelyd unrhyw rent, blaendal neu gydnabyddiaeth arall a roddwyd mewn cysylltiad â’r contract.

Adran 153 – Terfynu drwy gytundeb

360.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer terfynu contract meddiannaeth drwy gytundeb rhwng deiliad y contract a’r landlord (os yw’r contract yn ymgorffori’r adran hon fel teler). Daw’r contract i ben pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant fel y cytunwyd. Os yw contract meddiannaeth newydd, a ddiffinnir yn is-adran (2), yn cael ei ffurfio mae’r contract y cytunodd y landlord a deiliad y contract i’w derfynu yn dod i ben ar unwaith, cyn dyddiad meddiannu’r contract newydd.

Adran 154 – Tor contract ymwrthodol ar ran y landlord

361.Os yw’r landlord wedi cyflawni tor contract ymwrthodol, caiff deiliad contract derfynu contract meddiannaeth drwy ildio meddiant o’r eiddo. Tor contract ymwrthodol yw toriad sydd mor sylweddol fel ei fod yn cyfiawnhau terfynu. Er enghraifft, os yw’r landlord yn gyfrifol am dalu’r biliau cyfleustodau o dan y contract, yna gallai methu â thalu biliau o’r fath, gan arwain at derfynu’r cyfleustod, gynrychioli tor contract ymwrthodol.

Adran 155 – Marwolaeth unig ddeiliad contract

362.Os bydd deiliad contract yn marw, ac nad oes unrhyw gyd-ddeiliaid contract, daw’r contract i ben un mis ar ôl marwolaeth deiliad y contract, neu pan fydd ‘person awdurdodedig’ (a ddiffinnir yn adran (2)) yn hysbysu’r landlord am y farwolaeth, os yw hynny’n gynharach. Os oes gan berson arall hawl i olynu i’r denantiaeth, bydd yr olyniaeth yn digwydd yn unol ag adrannau 73 i 83.

363.Os oes gorchymyn eiddo teuluol (a ddiffinnir yn adran 251) sy’n ei gwneud yn ofynnol trosglwyddo’r contract i rywun arall, ymdrinnir â’r contract yn unol â’r gorchymyn hwnnw.

364.Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori adran 155 heb ei haddasu, fel un o delerau pob contract meddiannaeth, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys y ddarpariaeth a grybwyllir yn adran 139(1) (trosglwyddiad ar farwolaeth unig ddeiliad contract).

Adran 156 - Marwolaeth landlord pan fo’r contract meddiannaeth yn drwydded

365.Gan fod contract meddiannaeth sy’n drwydded yn seiliedig ar ganiatáu buddiant personol gan y landlord i feddiannu’r annedd, daw i ben ar farwolaeth y landlord.

Pennod 3 - Terfynu Pob Contract Meddiannaeth.(Hawliad Meddiant Gan Landlord)
Adran 156 – Tor contract

366.Mae’r adran hon yn darparu bod tor contract gan ddeiliad y contract yn sail i’r landlord geisio adennill meddiant.

Adran 158 – Datganiad ffug sy’n darbwyllo’r landlord i wneud contract i’w drin fel tor contract

367.Mae’r adran hon yn darparu bod tor contract yn cynnwys amgylchiadau pan ddarbwyllir landlord i wneud contract meddiannaeth o ganlyniad i ddatganiad ffug a wneir gan ddeiliad y contract neu gan rywun y mae deiliad y contract wedi ei symbylu i weithredu. Mae hyn yn golygu bod rhywbeth a wnaed cyn ymrwymo i’r contract yn dor contract. Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori adran 158 heb ei haddasu fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Adran 159 – Cyfyngiadau ar adran 157

368.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i landlord, cyn gwneud hawliad meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 157, roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi’r sail honno. Mae is-adran (2) yn darparu, pan fo’r landlord yn dibynnu ar dorri’r sail ymddygiad gwaharddedig (ymdrinnir â hyn yn adran 55), y caiff y landlord wneud hawliad ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract. Mae is-adran (3) yn darparu, mewn achosion eraill o dor contract, na chaiff y landlord wneud yr hawliad lai na mis ar ôl y dyddiad y rhoddodd y landlord yr hysbysiad. Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid gwneud unrhyw hawliad meddiant sy’n ymwneud â thor contract ar ran deiliad contract o fewn 6 mis i’r dyddiad y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad.

Adran 160 – Seiliau rheoli ystad

369.Caiff landlord sy’n dymuno ceisio meddiant o annedd gan ddefnyddio un o’r seiliau rheoli ystad (a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 8, sydd hefyd yn ddarpariaeth sylfaenol), wneud cais i’r llys am orchymyn adennill meddiant.

370.Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant, rhaid i’r landlord dalu treuliau adleoli rhesymol y mae deiliad y contract yn debygol o fynd iddynt. Nid yw hyn yn wir yn achos Sail A (gwaith adeiladu) a B (cynlluniau ailddatblygu), gan fod hawl gan ddeiliad y contract i gael ‘taliad colli cartref’ o dan adran 29 o Ddeddf Iawndal Tir 1973 mewn perthynas â’r rheini.

Atodlen 8 - Seiliau rheoli ystad
Rhan 1 – Y Seiliau

371.Mae Rhan 1 o’r Atodlen hon yn pennu’r seiliau rheoli ystad y caiff landlordiaid pob contract meddiannaeth wneud hawliad meddiant oddi tanynt, ar yr amod eu bod wedi cydymffurfio â’r gofynion hysbysu a’r terfynau amser yn adran 161.

372.Mae tri phrif fath o sail: seiliau ailddatblygu; seiliau llety arbennig; a seiliau tanfeddiannaeth. Mae yna hefyd sail ‘rhesymau rheoli ystad eraill’ i ymdrin ag unrhyw reswm sylweddol yn ymwneud â rheoli ystad nad yw’n dod o dan y seiliau eraill. Mae’r paragraffau a ganlyn yn nodi’r amgylchiadau pan fo pob un o’r seiliau rheoli ystad yn berthnasol.

Seiliau ailddatblygu
Paragraff 1 – Sail A (gwaith adeiladu)

373.Mae’r landlord yn bwriadu dymchwel neu ailadeiladu’r annedd neu ran o’r adeilad y mae’r annedd wedi’i leoli ynddo, neu wneud gwaith ar yr annedd neu’r adeilad y mae’r annedd wedi’i leoli ynddo neu unrhyw dir sy’n rhan o’r annedd (gweler y diffiniad o annedd yn adran 246(1)(b)) ynglŷn â hynny), na ellid ei wneud yn rhesymol heb gael meddiant o’r annedd.

Paragraff 2 – Sail B (cynlluniau ailddatblygu)

374.Mae’r sail hon wedi ei bodloni os bodlonir y naill neu’r llall o ddau amod. Yr amod cyntaf yw bod yr annedd mewn ardal sy’n destun cynllun ailddatblygu a gymeradwywyd (pennir y broses ar gyfer cymeradwyo cynlluniau o’r fath yn Rhan 2 o’r Atodlen), ac mae’r landlord yn bwriadu gwaredu’r annedd yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl cael meddiant. Yr ail amod yw bod rhan o’r annedd o fewn ardal cynllun ailddatblygu cymeradwy a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r annedd yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl cael meddiant, ac felly mae’n rhesymol ofynnol iddo gael meddiant.

Seiliau llety arbennig
Paragraff 3 – Sail C (elusennau)

375.Mae’r landlord yn elusen, a byddai parhau presenoldeb deiliad y contract yn gwrthdaro ag amcanion yr elusen. Mae hyn yn ddarostyngedig i’r amod bod unrhyw berson a oedd yn landlord, ar y dyddiad y gwnaed y contract a thrwy gydol yr amser ers y dyddiad hwnnw, wedi bod yn elusen.

Paragraff 4 – Sail D (annedd sy’n addas i bobl anabl)

376.Mae’r annedd yn wahanol iawn i anheddau cyffredin er mwyn lletya person sydd ag anabledd corfforol, nid oes person o’r fath yn byw yn yr eiddo ar hyn o bryd, ac mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer person o’r fath.

Paragraff 5 – Sail E (cymdeithasau tai ac ymddiriedolaethau tai: pobl y mae’n anodd eu cartrefu)

377.Mae’r landlord yn gymdeithas dai neu’n ymddiriedolaeth dai sy’n darparu anheddau yn benodol ar gyfer y rheini y mae’n anodd eu cartrefu, nid oes person o’r fath yn byw yn yr annedd, neu mae unrhyw berson o’r fath sy’n ddeiliad contract wedi cael cynnig contract diogel ar gyfer annedd arall, ac mae’r landlord angen yr annedd i’w feddiannu gan berson o’r fath. Mae is-baragraff (2) yn nodi ystyr ‘anodd i’w cartrefu’ at ddibenion y Sail hon.

Paragraff 6 – Sail F (grwpiau o anheddau ar gyfer pobl sydd ag anghenion arbennig)

378.Mae’r annedd yn rhan o grŵp o anheddau y mae’r landlord yn eu darparu i bobl ag anghenion arbennig, darperir gwasanaeth cymdeithasol neu gyfleuster arbennig yn agos at y grŵp o anheddau i gynorthwyo pobl sydd â’r anghenion arbennig hynny, nid oes mwyach berson sydd â’r anghenion arbennig hynny yn byw yn yr annedd, ac mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer person sydd â’r anghenion hynny.

Seiliau tanfeddiannaeth
Paragraff 7 – Sail G (olynwyr wrth gefn)

379.Mae deiliad y contract wedi olynu i’r contract fel olynydd wrth gefn (hynny yw, aelod o deulu neu ofalwr nad yw’n olynydd â blaenoriaeth; gweler adrannau 73, 76 a 77) yn dilyn marwolaeth y deiliad contract blaenorol, ac mae’r annedd yn fwy nag sy’n ofynnol yn rhesymol. Mewn achosion o’r fath, o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 161(4), ni chaiff y landlord roi’r hysbysiad adennill meddiant nes bod o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers i’r landlord ddod i wybod am farwolaeth deiliad y contract blaenorol, nac yn ddiweddarach na deuddeng mis ar ôl y dyddiad hwnnw.

Paragraff 8 – Sail H (cyd-ddeiliaid contract)

380.Mae cyd-ddeiliad contract wedi tynnu’n ôl neu wedi ei wahardd o’r contract, ac mae’r eiddo naill ai’n fwy nag sy’n ofynnol yn rhesymol ar gyfer y deiliad neu’r deiliaid contract sy’n weddill, neu, os yw’r landlord yn landlord cymunedol, nid yw’r deiliad neu’r deiliaid contract sy’n weddill yn bodloni meini prawf y landlord ar gyfer dyrannu tai. Mewn achosion o’r fath, o dan adran 161(5), rhaid rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i’r deiliad neu’r deiliaid contract sy’n weddill o fewn chwe mis ar ôl i gyd-ddeiliad blaenorol y contract beidio â bod â hawliau a rhwymedigaethau o dan y contract.

Rhesymau rheoli ystad eraill
Paragraff 9 – Sail I (rhesymau rheoli ystad eraill)

381.Mae rhyw reswm rheoli ystad sylweddol arall, gan gynnwys mewn perthynas ag eiddo arall i’r landlord sy’n gysylltiedig â’r annedd mewn rhyw ffordd.

Adran 161 – Cyfyngiadau ar adran 160

382.Rhaid i landlord sy’n ceisio meddiant o annedd ar sail rheoli ystad roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, sy’n nodi’r sail. Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant o fewn mis o’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, neu o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw.

383.Pan fo cynllun sy’n cynnwys gwaredu a dymchwel neu ailgodi adeiladau, neu gyflawni gwaith arall ar adeiladau neu ar dir, wedi ei gymeradwyo fel ‘cynllun ailddatblygu’ o dan Ran 2 o Atodlen 8, ond bod y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amodau, caiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant o dan sail rheoli ystad B (cynllun ailddatblygu) cyn bod yr amodau wedi eu cyflawni.

384.Pan fo olynydd wrth gefn wedi cymryd drosodd yn dilyn marwolaeth deiliad y contract, a bod yr annedd yn fwy na’r hyn sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer yr olynydd, ni all landlord sy’n ceisio meddiant o dan sail rheoli ystad G roi’r hysbysiad adennill meddiant o fewn chwe mis i’r dyddiad y daeth y landlord i wybod fod y deiliad contract blaenorol wedi marw, neu o fewn deuddeng mis wedi hynny. Pan fo cyd-landlordiaid, bydd y cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar y sail hon yn berthnasol o’r dyddiad y daw unrhyw un o’r cyd-landlordiaid i wybod fod deiliad y contract wedi marw.

385.Ni chaiff landlord sy’n ceisio meddiant o dan sail rheoli ystad H (cyd-ddeiliad contract yn tynnu’n ôl) roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn ddiweddarach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth hawliau a rhwymedigaethau’r cyd-ddeiliad contract o dan y contract i ben.

Adran 162 – Seiliau rheoli ystad: cynlluniau ailddatblygu

386.Mae Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu) yn gwneud darpariaeth sy’n ategu sail rheoli ystad B.

Atodlen 8 – Seiliau Rheoli Ystad
Rhan 2 – Cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu at ddibenion sail B

387.Mae Rhan 2 o Atodlen 8 yn pennu’r broses ar gyfer cael cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru, at ddibenion sail rheoli ystad B, ar gyfer ‘cynllun ailddatblygu’; hynny yw, cynllun i waredu ac ailddatblygu ardal o dir sy’n cynnwys annedd gyfan neu ran o annedd sy’n destun contract meddiannaeth. Mae’r Rhan hon hefyd yn ymwneud â chymeradwyo amrywiadau i gynlluniau o’r fath.

Paragraff 11

388.Yn ogystal â darparu ar gyfer cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu ac unrhyw amrywiadau, mae’r paragraff hwn yn diffinio’r termau ‘gwaredu’ ac ‘ailddatblygu’.

Paragraff 12

389.Mae’r paragraff hwn yn pennu’r gofynion o ran yr hysbysiad y mae’n rhaid ei roi i ddeiliaid contract pan gynigir cynllun ailddatblygu, neu pan gynigir amrywio cynllun o’r fath. Mae’n darparu ar gyfer cyfnod o 28 diwrnod pan gaiff deiliad y contract gyflwyno sylwadau. Ni ellir gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynllun ailddatblygu neu gymeradwyo amrywio cynllun, cyn bod unrhyw sylwadau o’r fath wedi eu hystyried.

390.Pe byddai’n ofynnol fel arall i landlord ymgynghori â deiliad y contract o dan drefniadau a wnaed ganddo yn unol ag adran 234, mae is-baragraffau (6) a (7) yn dileu’r gofyniad hwnnw oherwydd yr ymgynghori sy’n ofynnol o dan y paragraff hwn.

Paragraff 13

391.Mae’r paragraff hwn yn pennu’r materion y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth ystyried cais, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wneir iddynt. Rhaid i’r landlord hefyd roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y gofynnant amdani ar unrhyw sylwadau a wneir o dan baragraff 12.

Paragraff 14

392.Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun neu amrywiad fel mai dim ond rhan o annedd, neu annedd nas effeithir arni gan y gwaith, ond y bwriedir ei chynnwys mewn unrhyw warediad, sydd wedi ei chynnwys yn ardal y cynllun, oni bai eu bod yn fodlon bod cyfiawnhad i’w cynnwys.

Paragraff 15

393.Mae’r paragraff hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi unrhyw gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amodau, ac i wneud y gymeradwyaeth yn ddilys am gyfnod cyfyngedig yn unig. Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amodau a’r terfynau amser ar gais y landlord, neu am unrhyw reswm arall.

Paragraff 16

394.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod landlord cymunedol, at ddibenion Rhan 2 o’r Atodlen, yn landlord mewn perthynas ag annedd os oes ganddo unrhyw fath o fuddiant yn yr annedd. Caiff y buddiant hwn fod yn wahanol i fuddiant rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol.

Pennod 4 - Terfynu Contractau Diogel (Hysbysiad Deiliad Y Contract)
Adran 163 - Hysbysiad deiliad y contract ac Adran 164 – Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

395.Mae’r adrannau hyn yn darparu y caiff deiliad y contract derfynu’r contract meddiannaeth drwy roi o leiaf bedair wythnos o rybudd i’r landlord.

Adran 165 – Adennill meddiant

396.Caiff landlord wneud hawliad i adennill meddiant ar y sail bod deiliad contract, ar ôl rhoi hysbysiad i’r landlord i ddiweddu’r contract o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 163, wedi methu ag ildio meddiant ar y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad hwnnw.

Adran 166 – Cyfyngiadau ar adran 165

397.Mae’r adran hon yn gosod cyfyngiadau ar arfer pŵer y landlord i geisio meddiant ar y sail a nodir yn adran 165. Rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n datgan y sail i ddeiliad y contract. Caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, ond ni chaiff wneud hynny’n ddiweddarach na chwe mis ar ôl y diwrnod hwnnw. At hynny, ni ellir rhoi’r hysbysiad adennill meddiant fwy na dau fis ar ôl y dyddiad a bennir yn hysbysiad deiliad y contract fel y dyddiad y byddai meddiant yn cael ei ildio.

Adran 167 - Terfynu contract ar dderbyn hysbysiad deiliad y contract

398.Pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar neu cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddwyd o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 163, bydd y contract yn parhau tan y dyddiad hwnnw. Pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ac na wneir gorchymyn i adennill meddiant, bydd y contract yn dod i ben ar y dyddiad y mae deiliad y contract yn ildio meddiant. Os gwneir gorchymyn adennill meddiant ar y sail yn adran 165, daw’r contract i ben yn unol ag adran 206 (sy’n nodi effeithiau gorchymyn adennill meddiant).

399.Os yw deiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod o rybudd, yn tynnu’r hysbysiad a roddwyd o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 163 yn ôl, ac nad yw’r landlord yn gwrthwynebu hynny mewn ysgrifen, o fewn cyfnod rhesymol, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith.

Pennod 5 - Terfynu Contractau Safonol Cyfnodol
Adrannau 168 i 172 - Hysbysiad deiliad contract a’r cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

400.Mae’r adrannau hyn yn darparu y caiff deiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract meddiannaeth drwy roi o leiaf bedair wythnos o rybudd i’r landlord.

401.Mae’r adrannau hyn yr un fath i bob pwrpas â’r darpariaethau ym Mhennod 4, a drafodir uchod, ynghylch terfynu contractau diogel gan ddeiliaid contract.

Adran 173 – Hysbysiad y landlord ac Adran 174 - Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

402.Mae adran 173 yn darparu y caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract hwnnw drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad. Os nad yw’r adran hon wedi ei hymgorffori mewn contract meddiannaeth, ni fydd y darpariaethau cysylltiedig yn adrannau 125(1)(b) a 126 ynghylch amrywio’r contract gan y landlord drwy roi hysbysiad, yn gymwys (gan fod yr adrannau hynny’n ymwneud â phŵer y landlord i amrywio’r contract yn unochrog, a thrin hysbysiad amrywio fel hysbysiad ceisio meddiant a roddir o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 173, os nad yw deiliad y contract yn derbyn yr amrywiad).

403.Mae adran 174 yn nodi’r cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir. Ni chaiff y landlord bennu ar ba ddyddiad y mae’n rhaid i berson ildio meddiant, os yw’r dyddiad hwnnw lai na dau fis o’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

Adran 175 – Cyfyngiadau ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth

404.Caiff landlord ei rwystro rhag rhoi hysbysiad o dan adran 173 yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth. Yn achos contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall (a ddiffinnir yn is-adran (3)), cyfrifir y cyfnod pedwar mis o ddyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol (a ddiffinnir hefyd yn is-adran (3)). Effaith yr adran hon yw rhwystro landlord rhag cael meddiant o annedd gan ddefnyddio hysbysiad landlord yn ystod y chwe mis cyntaf y bydd person yn meddiannu’r annedd. Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r adran hon heb ei haddasu ym mhob contract safonol cyfnodol, oni fo’r contract yn ymgorffori adran 173 fel teler neu os yw o fath a restrir yn Atodlen 9.

Atodlen 9 – Contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175, 186(2) a 196 (Hysbysiad y landlord yn ystod chwe mis cyntaf meddiannaeth) yn gymwys iddynt

405.Mae’r Atodlen hon yn nodi’r mathau o gontractau safonol nad yw’r cyfyngiadau (o dan adrannau 175, 185(2) a 196) ar ddyroddi hysbysiad landlord, neu’r defnydd o gymal terfynu landlord, yn gymwys iddynt. Am resymau amrywiol, mae angen i’r contractau hyn gadw gallu’r landlord i derfynu’r contract yn ystod chwe mis cyntaf meddiannaeth. Maent yn cynnwys, er enghraifft, feddiannaeth yn rhinwedd swydd, pan na fyddai’n rhesymol i gyflogwr, wrth derfynu contract cyflogaeth, orfod aros chwe mis i adennill meddiant o lety a ddarparwyd mewn perthynas â’r gyflogaeth honno.

Adran 176 – Cyfyngiadau ar adran 173: torri’r gofynion rhoi gwybodaeth

406.Os nad yw landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig o’i gontract i ddeiliad y contract, fel sy’n ofynnol gan adran 31(1) neu (2), ni chaiff roi hysbysiad adennill meddiant o dan adran 173. At hynny, rhwystrir y landlord rhag rhoi hysbysiad o dan adran 173 am gyfnod o chwe mis, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y darperir y datganiad ysgrifenedig.

407.Pan fo landlord wedi methu â darparu cyfeiriad cyswllt i ddeiliad y contract, neu unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 39, rhwystrir y landlord rhag rhoi hysbysiad o dan adran 173 hyd nes y darperir gwybodaeth.

Adran 177 - Cyfyngiadau ar adran 173: torri gofynion sicrwydd a blaendal

408.Ni chaiff landlord roi hysbysiad adennill meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 173 os cymerwyd sicrwydd ar ffurf nad yw’n cydymffurfio ag adran 43 (hynny yw, ffurf heblaw arian neu warant), ac nad yw wedi ei ddychwelyd.

409.Rhwystrir landlord rhag rhoi hysbysiad o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 173 hefyd (yn ddarostyngedig i’r eithriad isod) os na ddiogelwyd blaendal o dan gynllun blaendal awdurdodedig; os talwyd blaendal ond nad yw’r landlord wedi bodloni gofynion dechreuol y cynllun blaendal; neu os talwyd blaendal ond na ddarparwyd yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 45(2)(b) (hynny yw, gwybodaeth a ragnodir drwy reoliadau o dan adran 45(3)) i ddeiliad y contract.

410.Nid yw’r cyfyngiadau yn y paragraff uchod ar roi hysbysiad yn gymwys pan fo blaendal wedi ei ddychwelyd neu pan fo materion yn ymwneud â chais i’r llys o dan baragraff 2 o Atodlen 5 wedi dod i ben. Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r adran hon heb ei haddasu ym mhob contract safonol cyfnodol, oni bai nad yw’r contract yn ymgorffori adran 173 fel teler.

Adran 178 – Adennill meddiant

411.Pan fo landlord wedi rhoi hysbysiad o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 173, caiff y landlord wneud hawliad meddiant i’r llys. Mae adran 215 yn darparu bod rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant os yw’n fodlon bod y sail yn adran 178(1) wedi ei phrofi (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad ar sail hawliau dynol deiliad y contract, a chymhwyso adran 217, ar droi allan dialgar, yr ymdrinnir ag ef isod).

Adran 179 – Cyfyngiad ar adran 178

412.Ni chaiff landlord wneud hawliad meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 178 cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 173, nac yn ddiweddarach na dau fis ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae hyn, felly, yn darparu cyfnod o ddau fis pan gaiff y landlord wneud hawliad meddiant.

Adran 180 – Terfynu contract yn dilyn hysbysiad y landlord

413.Pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar neu cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan y teler sy’n ymgorffori adran 173, daw’r contract i ben ar y dyddiad penodedig. Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant ar neu cyn y dyddiad hwnnw, daw’r contract i ben ar y dyddiad y mae deiliad y contract yn ildio meddiant neu, os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206 (effaith gorchymyn adennill meddiant).

414.Fodd bynnag, os yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad adennill meddiant yn ôl cyn i’r contract ddod i ben, ac nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu hynny mewn ysgrifen o fewn cyfnod rhesymol, bydd yr hysbysiad yn peidio â chael effaith.

Adran 181 – Ôl-ddyledion rhent difrifol

415.Pan fo deiliad y contract yn cael ei hunan mewn ‘ôl-ddyledion rhent difrifol’ caiff y landlord wneud hawliad meddiant yn y llys ar y sail honno. Diffinnir ‘ôl-ddyledion rhent difrifol’ yn is-adran (2); er enghraifft, mae’n digwydd pan fo rhent dau fis o leiaf heb ei dalu pan fo rhent yn daladwy bob mis, neu rent wyth wythnos heb ei dalu pan fo rhent yn daladwy bob wythnos.

416.Yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau dynol deiliad y contract, rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant os bodlonir y llys fod gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol ar yr adeg y rhoddwyd yr hysbysiad adennill meddiant, a hefyd pan glywir yr hawliad meddiant gan y llys (gweler adran 216).

Adran 182 – Cyfyngiadau ar adran 181

417.Rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n datgan y’i rhoddir ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol, cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail honno. Caiff y landlord o dan y rhan fwyaf o gontractau safonol cyfnodol wneud hawliad meddiant ar ôl i 14 diwrnod fynd heibio o’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad. Ni chaiff landlord o dan gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad; mae hyn er mwyn caniatáu amser i gynnal unrhyw adolygiad o dan Bennod 8 o’r Rhan hon. Yn y naill achos a’r llall, rhaid gwneud yr hawliad o fewn chwe mis i’r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad. Mae is-adran (4) yn darparu bod y cyfyngiadau hyn yn ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir mewn contractau safonol cyfnodol, ac mae’n nodi pa ddisgrifiadau o gontractau safonol cyfnodol y mae’r cyfyngiadau penodol yn gymwys iddynt.

Adran 183 – Perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol

418.Pan fo deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd wedi i’r cyfnod penodol o dan gontract safonol cyfnod penodol ddod i ben, a bod contract safonol cyfnodol wedi cael ei ffurfio o dan adran 184(2), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar sail hysbysiad a roddwyd yn ystod y cyfnod penodol. Caiff hysbysiad o’r fath fod naill ai’n hysbysiad adennill meddiant neu’n hysbysiad a roddir o dan adran 186 (hysbysiad landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol).

419.Mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â hysbysiad landlord a bennir yn adrannau 174 i 177, 179 a 180 yn gymwys i hysbysiad, ac unrhyw hawliad meddiant cysylltiedig, o dan y teler o gontract sy’n ymgorffori adran 186.

420.Mewn unrhyw hysbysiad adennill meddiant a roddir mewn cysylltiad â chontract safonol cyfnodol sy’n cael ei ffurfio o dan adran 184(2), caiff y landlord ddibynnu ar ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod penodol.

421.Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol ond dim ond mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol sy’n cael ei ffurfio ar ddiwedd contract safonol cyfnod penodol, o dan adran 184(2).

Pennod 6 – Contractau Safonol Cyfnod Penodol: Diwedd Y Cyfnod Penodol
Adran 184 – Diwedd y cyfnod penodol

422.Mae contract a wnaed am gyfnod penodol a gytunwyd rhwng y landlord a deiliad y contract yn terfynu pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben. Ond pan fo deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod penodol, bydd contract safonol cyfnodol newydd yn cael ei greu fel mater o drefn.

423.Mae dyddiad meddiannu’r contract newydd yn dilyn yn union ar ôl diwedd y cyfnod penodol ac mae’r cyfnodau rhentu yn parhau fel yr oeddent. Telerau sylfaenol ac atodol y contract newydd fydd y rheini sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol. Fel arall, bydd telerau’r contract blaenorol yn parhau’n gymwys, i’r graddau y maent yn gydnaws â’r telerau sylfaenol ac atodol newydd.

424.Yn hytrach na bod contract safonol cyfnodol newydd yn cael ei ffurfio fel mater o drefn yn y modd a ddisgrifir uchod, caiff landlord a deiliad contract gytuno ar gontract newydd yn y ffordd arferol, gyda dyddiad meddiannu sy’n dilyn yn union ar ôl diwedd y cyfnod penodol.

425.Os bydd deiliad y contract, ar neu cyn dyddiad meddiannu’r contract newydd, yn gwneud rhywbeth a fyddai, fel arall, yn peri bod y contract newydd yn dod i ben, ni fydd hynny’n cael yr effaith o derfynu’r contract.

426.Pan fo contract safonol cyfnodol yn cael ei ffurfio o dan is-adran (2) ar ddiwedd contract safonol cyfnod penodol nid oes unrhyw ofyniad ar y landlord i ddarparu unwaith eto gyfeiriad ar gyfer anfon dogfennau o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 39(1) i ddeiliad y contract. Ni fydd cyfeiriad y landlord wedi newid dim ond am fod contract safonol cyfnodol wedi ei greu.

Adran 185 - Caniatáu i ddatganiad ysgrifenedig ymdrin â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan adran 184(2)

427.Mae’r adran yn darparu bod datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol yn nodi telerau’r contract safonol cyfnodol a all gael ei ffurfio ar ddiwedd y cyfnod penodol, o dan adran 184(2). Pan fo contract o’r fath yn cael ei ffurfio a bod y landlord eisoes wedi rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract fel a ganiateir gan yr adran hon, caiff ei drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â chontract newydd o dan adran 31(1).

Pennod 7 – Terfynu Contractau Safonol Cyfnod Penodol
Adran 186 – Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod

428.Caiff landlord, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod penodol, roi hysbysiad i ddeiliad y contract, i’r perwyl fod yn rhaid iddo ildio meddiant ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad. Ni chaiff y dyddiad penodedig fod yn llai na chwe mis ar ôl dyddiad meddiannu’r contract hwnnw neu, os yw’r contract hwnnw yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall (gweler is-adran (4)), dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol (unwaith eto, gweler is-adran (4)). Yn ychwanegol at hynny, ni chaiff y dyddiad penodedig fod cyn diwrnod olaf y cyfnod penodol, na dim llai na dau fis ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad. Mae’r adran hon hefyd yn darparu y caiff landlord wneud hawliad meddiant ar y sail ei fod wedi cyflwyno’r hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd y cyfnod penodol. O dan adran 215, os darbwyllir y llys fod gofynion y sail wedi eu bodloni, rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant, yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau dynol deiliad y contract.

429.Felly, waeth pa mor hir yw’r cyfnod penodol, ni chaiff landlord wneud hawliad meddiant nes bod chwe mis wedi mynd heibio ers y dyddiad y daeth deiliad y contract â hawl i feddiannu’r annedd o dan y contract. Gall landlord wneud hawliad meddiant y diwrnod ar ôl i’r cyfnod penodol ddod i ben (oni bai bod y cyfnod penodol yn llai na chwe mis), ar yr amod bod yr hysbysiad gofynnol wedi ei roi i ddeiliad y contract o leiaf ddau fis cyn hynny.

430.Mae adran 20 yn darparu bod rhaid ymgorffori’r adran hon heb ei haddasu fel teler ym mhob contract safonol cyfnod penodol. Ond ni chaiff is-adrannau (2) a (4) eu hymgorffori mewn contract nad yw’n ymgorffori is-adran (1) fel teler, fodd bynnag (fel na all y landlord roi hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd y cyfnod), neu os yw o fath a restrir yn Atodlen 9.

Adran 187 – Ôl-ddyledion rhent difrifol ac Adran 188 – Cyfyngiadau ar adran 187

431.Mae effaith y darpariaethau hyn yr un fath yn union ag effaith y darpariaethau cyfatebol sy’n ymwneud â chontractau safonol cyfnodol (gweler y nodiadau ar gyfer adrannau 181 a 182).

Adran 189 – Cymal terfynu deiliad contract ac Adran 190 – Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

432.Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys cymal terfynu deiliad y contract. Mae hyn yn galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol. Pan fo cymal terfynu o’r fath wedi ei gynnwys, rhaid i ddeiliad y contract sy’n dymuno dibynnu arno er mwyn gadael y contract roi hysbysiad i’r landlord sy’n pennu’r dyddiad terfynu. Mae adrannau 190 i 193 yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori ym mhob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad contract. Mae adran 190 yn pennu na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn gynharach na phedair wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad. Mae’r darpariaethau hyn yn cael yr un effaith, i bob pwrpas, â’r darpariaethau sy’n ymwneud â hysbysiadau deiliaid contract o dan gontractau diogel a chontractau safonol cyfnodol.

Adran 191 – Adennill meddiant

433.Mae’r adran hon yn caniatáu i landlord adennill meddiant o’r annedd os digwydd i ddeiliad contract, ar ôl rhoi hysbysiad i’r landlord o dan gymal terfynu deiliad contract, fethu ag ildio meddiant ar y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad hwnnw.

Adran 192 – Cyfyngiadau ar adran 191

434.Mae’r adran hon yn gosod cyfyngiadau ar arfer y pŵer sydd gan y landlord i gael meddiant ar y sail yn adran 190. Os yw’r landlord yn ceisio meddiant ar y sail hon, rhaid iddo roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract gan ddatgan y sail, a hynny o fewn dau fis i’r dyddiad a bennwyd ar gyfer ildio meddiant gan ddeiliad y contract. Caiff y landlord wneud hawliad meddiant o’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, ond ni chaiff wneud hynny yn ddiweddarach na chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw.

Adran 193 – Terfynu contract o dan gymal terfynu deiliad y contract

435.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar neu cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddwyd o dan gymal terfynu deiliad y contract, y bydd y contract yn dod i ben ar y dyddiad hwnnw. Pan fo deiliad y contract yn ildio meddiant ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, bydd y contract yn dod i ben ar y dyddiad y mae deiliad y contract yn ildio meddiant.

436.Os yw deiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod hysbysu, yn tynnu’r hysbysiad a roddwyd o dan gymal terfynu deiliad y contract yn ôl, ac nad yw’r landlord yn gwrthwynebu hynny mewn ysgrifen o fewn cyfnod rhesymol, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith.

Adran 194 – Cymal terfynu’r landlord ac Adran 195 - Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

437.Gall contract safonol cyfnod penodol gynnwys cymal terfynu’r landlord. Mae’r cymal terfynu hwn yn galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol, drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract. Mae adrannau 195 i 201 yn ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir ym mhob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord. Mae adran 195 yn darparu na chaiff y dyddiad ar gyfer ildio meddiant a bennir yn yr hysbysiad fod yn hwyrach na dau fis ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

Adrannau 196 i 201 – Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord a threfniadau ar gyfer adennill meddiant

438.Gweler y nodiadau sy’n ymdrin ag adrannau 175 i 180 o ran y cyfyngiadau ar ddefnyddio hysbysiad landlord o dan gontract safonol cyfnodol, a’r trefniadau cysylltiedig ar gyfer adennill meddiant. Mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â defnyddio cymal terfynu landlord yr un fath, i bob pwrpas.

Pennod 8 - Adolygiad Gan Landlord O Benderfyniad I Roi Hysbysiad Yn Ei Gwneud Yn Ofynnol Ildio Meddiant.(Nid Yw’R Bennod Hon Ond Yn Gymwys I Gontractau Safonol Rhagarweiniol a Chontractau Safonol Ymddygiad Gwaharddedig)

439.Mae adrannau 202 a 203 yn ymwneud ag adolygiadau mewnol gan landlordiaid o benderfyniadau i geisio meddiant. Mae adolygiadau o’r fath yn gymwys i hysbysiadau sy’n ymwneud â chontractau safonol rhagarweiniol (gweler adran 16) a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig (gweler adran 116), a roddir o dan y teler o gontract o’r fath sy’n ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord) neu adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol).

Adran 202 – Adolygiad o benderfyniad i derfynu contractau safonol rhagarweiniol neu gontractau safonol ymddygiad gwaharddedig

440.Mae’r adran hon yn rhoi hawl i ddeiliad contract, sydd wedi cael hysbysiad sy’n ceisio meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord) neu hysbysiad adennill meddiant sy’n nodi’r sail ôl-ddyledion rhent difrifol (gweler adran 181), ofyn am adolygiad gan y landlord o’r penderfyniad i roi’r hysbysiad. Rhaid gwneud cais i’r landlord am adolygiad o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract (oni bai bod y landlord yn caniatáu rhagor o amser).

Adran 203 - Adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiad

441.Rhaid i landlord, ar ôl cael cais i gynnal adolygiad a wnaed yn unol ag adran 202, gynnal adolygiad o’r penderfyniad i roi hysbysiad. Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y caiff y landlord wneud hawliad meddiant mewn perthynas â’r hysbysiad. Os yw’r adolygiad yn cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, rhaid rhoi’r rhesymau dros y cadarnhad.

442.O dan is-adrannau (5) a (6) caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ymwneud â’r weithdrefn ar gyfer adolygiadau.

Pennod 9 - Hawliadau Meddiant: Pwerau’R Llys.(Mae’R Bennod Hon Yn Gymwys I Bob Contract Meddiannaeth)
Adran 204 – Hawliadau meddiant

443.Mae adran 204 yn darparu na chaiff y llys ystyried hawliad meddiant os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth berthnasol a nodir yn is-adran (1). Mae is-adran (1)(a) yn nodi adrannau o’r Ddeddf sy’n gosod gofynion neu gyfyngiadau penodol o ran hawliadau meddiant. Mae is-adran (1)(b) y nodi’r gofyniad cyffredinol i hysbysiadau meddiant gydymffurfio ag adran 150, ac adran 151 yn achos contractau safonol rhagarweiniol neu gontractau safonol ymddygiad gwaharddedig. Mae is-adan (2) yn darparu y caiff y llys ddiystyru’r gofynion hyn os yw o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

444.O dan is-adran (3), nid yw is-adran (1) yn gymwys i gais gan y landlord, pan fo contract isfeddiannaeth, am ‘orchymyn adennill meddiant estynedig’ yn erbyn isddeiliad o dan adran 65(2) (hynny yw, gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ac isddeiliad ildio meddiant).

Adran 205 – Gorchmynion adennill meddiant

445.Mae’r adran hon yn darparu bod pŵer y llys i wneud gorchymyn adennill meddiant wedi ei gyfyngu i’r seiliau a restrir yn is-adran (1). Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo hysbysiad adennill meddiant wedi ei roi i ddeiliad y contract, ac mae’n cyfyngu’r llys i wneud gorchymyn adennill meddiant mewn perthynas â sail a bennir yn yr hysbysiad adennill meddiant yn unig, ond mae is-adran (3) yn darparu y caiff y llys ganiatáu i’r hysbysiad gael ei ddiwygio cyn iddo wneud gorchymyn.

Adran 206 – Effaith gorchymyn adennill meddiant

446.Mae’r adran hon yn ymdrin ag effaith gorchymyn adennill meddiant. Pan fo llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant, mae’r contract yn dod i ben ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, hyd yn oed os yw deiliad y contract yn ildio meddiant cyn hynny. Os yw deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd ar ôl y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, daw’r contract i ben pan fydd deiliad y contract yn ildio meddiant, ond os nad yw deiliad y contract yn ildio meddiant cyn cyflawni’r gorchymyn, daw’r gorchymyn i ben pan gyflawnir y gorchymyn. Mewn achosion pan fo gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol cynnig contract newydd i rai o gyd-ddeiliad y contract, ond nid pob un ohonynt, ar gyfer yr annedd berthnasol, daw’r contract gwreiddiol i ben yn union cyn cychwyn y contract newydd.

Adran 207 – Cymryd rhan mewn achos

447.Mae gan berson sydd â ‘hawliau cartref’ (yn yr ystyr a roddir i ‘home rights’ gan adran 30(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996; er enghraifft, person sy’n byw mewn annedd sy’n eiddo i’w bartner yn ystod ysgariad neu wahaniad) ac sy’n meddiannu annedd ond nad yw’n ddeiliad y contract, hawl i gymryd rhan mewn achos meddiant sy’n ymwneud â’r annedd honno, yn ogystal â hawl i ofyn am ohiriad, ataliad neu oediad o’r achos.

Adran 208 – Camliwio neu gelu ffeithiau i gael gorchymyn adennill meddiant

448.Caiff y llys orchymyn i landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad contract os bodlonir y llys fod gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys wedi ei gael drwy gamliwio neu gelu ffeithiau perthnasol.

Pennod 10 - Hawliadau Meddiant: Pwerau’R Llys Mewn Perthynas  Seiliau Yn Ôl Disgresiwn.(Mae’R Bennod Hon Yn Gymwys I Bob Contract Meddiannaeth)
Adran 209 – Hawliad ar sail tor contract

449.Pan fo landlord yn gwneud hawliad meddiant ar sail tor contract ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant os na ddarbwyllir y llys fod gwneud hynny yn rhesymol. Caiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant hyd yn oed os nad oedd deiliad y contract mwyach yn torri’r contract cyn i’r landlord wneud yr hawliad meddiant.

450.Mae’r adran hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 10.

Atodlen 10 – Gorchmynion adennill meddiant ar seiliau disgresiwn etc.: rhesymoldeb

451.Mae Atodlen 10 yn pennu’r amgylchiadau y mae’n rhaid i’r llys eu hystyried (i’r graddau y mae’r llys yn ystyried eu bod yn berthnasol) mewn perthynas â gwneud gorchymyn adennill meddiant ar sail tor contract. Mae disgresiwn gan y llys o ran gwneud y gorchymyn ai peidio (yn wahanol i ‘seiliau absoliwt’, pan fo’n rhaid i’r llys wneud y gorchymyn a geisir os yw’r sail wedi ei phrofi, a siarad yn gyffredinol). Mae’r Atodlen hon hefyd yn gymwys pan fo’r llys yn ystyried a ddylai wneud gorchymyn ar sail rheoli ystad (gweler adran 210), a phan fo’r llys yn ystyried a ddylai ohirio achos neu ohirio ildio meddiant o dan orchymyn adennill meddiant (gweler adran 211).

452.Mae paragraffau 4 i 13 yn pennu’r amgylchiadau amrywiol. Yn gryno, y rhain yw:

453.Mae paragraff 14 yn amlinellu amgylchiad na ddylai llys roi sylw iddo (yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd arall i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw); hynny yw, y tebygolrwydd y darperir cymorth i ddeiliad y contract os aiff yn ddigartref.

Adran 210 – Seiliau rheoli ystad

454.Pan fo landlord yn gwneud hawliad meddiant o dan sail rheoli ystad (gweler adran 160), ni chaiff y llys wneud gorchymyn oni bai ei fod o’r farn y byddai’n rhesymol gwneud hynny (gweler Atodlen 10, y cyfeirir ati uchod) ac wedi ei fodloni y bydd y landlord yn sicrhau bod llety addas arall ar gael i ddeiliad y contract (gweler Atodlen 11).

455.Pan fo landlord yn gwneud hawliad meddiant ar y Sail B (ailddatblygu), a’r cynllun ailddatblygu yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r llys fod wedi ei fodloni bod yr amodau naill ai wedi eu bodloni neu y byddant yn cael eu bodloni cyn y gall wneud y gorchymyn. Dylai’r landlord a deiliad y contract gytuno rhyngddynt ar unrhyw gostau a ddyfernir i ddeiliad y contract ar gyfer ei dreuliau rhesymol o dan adran 160(4), ond gall y llys eu pennu a’u hadennill oddi ar y landlord fel dyled sifil. Dyled y gall y llys ei gorfodi yw dyled sifil.

456.Mae’r adran hon (ynghyd ag adran 222) hefyd yn cyflwyno Atodlen 11, sy’n pennu’r materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw llety arall yn addas ai peidio.

Atodlen 11 – Llety arall addas

457.Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â gorchmynion adennill meddiant o dan sail rheoli ystad. Mae hefyd yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn a wneir o dan adran 222 (apêl yn dilyn meddiant oherwydd cefnu), sy’n rhoi pŵer i’r llys orchymyn i landlord ddarparu llety arall addas.

458.Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch pennu a fydd llety addas o’r fath yn cael ei ddarparu mewn unrhyw achos penodol. Mae paragraff 4, yn benodol, yn nodi nifer o faterion y mae’n rhaid i’r llys eu hystyried.

Adran 211 – Pwerau i ohirio achosion ac i ohirio ildio meddiant

459.Caiff y llys ohirio achosion meddiant a wneir ar y sail yn adran 157 (tor contract) neu ar sail rheoli ystad (gweler adran 160) am ba bynnag gyfnod neu gyfnodau a ystyrir yn rhesymol gan y llys. Pan fo’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 (tor contract) neu adran 210 (seiliau rheoli ystad), caiff ohirio ildio meddiant am ba bynnag gyfnod neu gyfnodau yr ystyria’n briodol.

460.Pan fo’r llys, o dan yr adran hon, wedi gohirio achos neu wedi gohirio ildio meddiant, rhaid iddo osod amodau ar ddeiliad y contract mewn perthynas ag unrhyw ôl-ddyledion rhent a pharhau i dalu unrhyw rent hyd nes bo’r achos wedi ei gwblhau, oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud hynny yn achosi caledi eithriadol i ddeiliad y contract neu’n afresymol mewn unrhyw ffordd arall.

461.Caiff y llys osod unrhyw amodau eraill a ystyria’n briodol, a chaiff ryddhau’r gorchymyn adennill meddiant yn erbyn deiliad y contract os yw o’r farn bod yr amodau angenrheidiol wedi eu bodloni. Rhaid i’r llys ystyried yr amgylchiadau a bennir yn Atodlen 10 (y cyfeirir ati uchod), i’r graddau y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol, wrth wneud penderfyniad o ran pa un a ddylai atal achos neu ohirio ildio meddiant.

Pennod 11 - Hawliadau Meddiant: Pwerau’R Llys Mewn Perthynas  Sail Absoliwt.(Nid Yw’R Bennod Hon Ond Yn Gymwys I Gontractau Diogel)
Adran 212 – Sail hysbysiad deiliad y contract

462.Pan fo deiliad contract o dan gontract diogel wedi rhoi hysbysiad i’r landlord o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 163 a’r landlord, yn dilyn hynny, wedi gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar y sail yn y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 165 (hynny yw, mae deiliad y contract wedi methu ag ildio meddiant wedi iddo roi hysbysiad i derfynu’r contract), rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant, yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sy’n seiliedig ar hawliau dynol deiliad y contract.

Adran 213 – Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt

463.Pan fo landlord yn gwneud hawliad meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 165, a bod y landlord yn landlord cymunedol neu fod penderfyniad y landlord i wneud gorchymyn adennill meddiant o’r fath yn destun adolygiad barnwrol, caiff deiliad contract, yn ystod achos meddiant yn y llys sirol, wneid cais am adolygiad gan y llys o benderfyniad y landlord i geisio adennill meddiant. Caiff y llys gadarnhau neu ddiddymu penderfyniad y landlord. Bydd y llys sirol yn cymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys yn ystod cais am adolygiad barnwrol; mae’r adran hon yn golygu, pan fo’r cais am orchymyn adennill meddiant gerbron y llys sirol, na fydd angen i ddeiliad y contract ddod ag achos ar wahân gerbron yr Uchel Lys ar adolygiad barnwrol o’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad.

Adran 214 – Pwerau i ohirio ildio meddiant

464.Pan fo’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 212, caiff ohirio ildio meddiant. Ond ni chaiff ohirio ildio’r meddiant am fwy nag 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn adennill meddiant, oni bai y byddai hynny’n achosi caledi eithriadol i ddeiliad y contract. Mewn achosion o’r fath, caniateir gohirio adennill meddiant am hyd at chwe wythnos.

Pennod 12 – Hawliadau Meddiant: Pwerau’R Llys Mewn Perthynas  Seiliau Absoliwt.(Nid Yw’R Bennod Hon Ond Yn Gymwys I Gontractau Diogel)
Adran 215 – Seiliau rhoi hysbysiad

465.Pan fo landlord wedi gwneud hawliad meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 170 neu 191 (sy’n ymwneud, yn eu tro, â methiant i ildio meddiant ar ôl rhoi hysbysiad deiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol), neu adran 186 (hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd contract safonol cyfnod penodol), rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant, yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau dynol deiliad y contract.

466.Rhaid i’r llys hefyd wneud gorchymyn adennill meddiant pan fo’r landlord wedi gwneud hawliad meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 178 neu 199 (sy’n gymwys, yn eu tro, i hysbysiad landlord o dan gontract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol). Mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau dynol deiliad y contract, ac i adran 217 (troi allan dialgar). Yn achos landlordiaid penodol, caiff deiliad y contract, o dan adran 218, wneud cais am adolygiad o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad meddiant.

Adran 216 – Seiliau ôl-ddyledion rhent difrifol

467.Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn deiliad contract sydd â chontract safonol, os yw wedi ei fodloni fod y sail ôl-ddyledion rhent difrifol (adran 181 (contractau safonol cyfnodol) neu 187 (contractau safonol cyfnod penodol)) wedi eu bodloni. Hynny yw, mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion difrifol ar y dyddiad y gwnaeth y landlord yr hawliad ac ar y dyddiad y mae’r llys yn gwrando’r hawliad. Mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau dynol deiliad y contract. Yn achos landlordiaid penodol, hwyrach y caiff deiliad y contract wneud cais am adolygiad o benderfyniad y landlord o dan adran 218.

Adran 217 – Hawliadau meddiant dialgar i osgoi rhwymedigaethau i atgyweirio etc.

468.Pan fo landlord wedi rhoi hysbysiad landlord a’i fod yn gwneud hawliad meddiant o dan y teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 178 (contractau safonol cyfnodol) neu adran 199 (contractau safonol cyfnod penodol), caiff y llys ddewis peidio â gwneud gorchymyn adennill meddiant os yw o’r farn bod yr hawliad yn un dialgar; hynny yw, mae’r hawliad meddiant wedi ei wneud gan y landlord i osgoi ei rwymedigaethau i atgyweirio’r annedd a’i chadw’n ffit i bobl fyw ynddi o dan delerau’r contract meddiannaeth sy’n ymgorffori adrannau 91 a 92. Sylwer nad yw’r ddarpariaeth hon yn gymwys, i bob pwrpas, i gontract safonol cyfnod penodol am gyfnod o saith mlynedd neu fwy, gan na chaiff adrannau 91 a 92 neu hymgorffori mewn contractau o’r fath fel mater o drefn.

469.Mae is-adran (4) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n diwygio’r adran hon er mwyn darparu disgrifiadau pellach o hawliad dialgar.

Adran 218 – Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt

470.Mae’r adran hon yn gymwys i landlord sy’n landlord cymunedol y mae ei benderfyniad i wneud hawliad meddiant yn destun adolygiad barnwrol. Mae bron yn union yr un fath ag adran 213, y cyfeirir ati uchod.

Adran 219 – Pwerau i ohirio ildio meddiant

471.Mae’r adran hon bron yn union yr un fath ag adran 214, y cyfeirir ati uchod.

Pennod 13 – Cefnu.(Mae’R Bennod Hon Yn Berthnasol I Bob Contract Meddiannaeth)
Adran 220 - Meddiannu anheddau y cefnwyd arnynt

472.Pan fo landlord yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, caiff adennill meddiant o’r annedd heb yr angen am orchymyn llys. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract, sy’n datgan bod y landlord yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu deiliad y contract bod rhaid iddo gysylltu â’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y ‘cyfnod rhybuddio’ i gadarnhau na chefnwyd ar yr annedd, ac y bydd y landlord yn terfynu’r contract os na wnaiff hynny. Y cyfnod o rybudd yw pedair wythnos o’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad (gweler adran 237 ynglŷn â hynny, sy’n darparu y gellir ‘rhoi’ hysbysiad i rywun mewn sawl ffordd, gan gynnwys ei bostio i’r annedd o dan sylw).

473.Rhaid i’r landlord, yn ystod y cyfnod rhybuddio, gynnal unrhyw ymholiadau sydd eu hangen er mwyn bodloni ei hun bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd mewn gwirionedd. Ar ddiwedd y cyfnod o rybudd, os bodlonir y landlord fod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, caiff y landlord derfynu’r contract drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, gan ddarparu copïau o’r hysbysiad hwnnw i unrhyw letywr neu isddeiliad sy’n byw yn yr annedd.

Adran 221 – Gwaredu eiddo

474.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch yr hyn y dylid ei wneud gydag unrhyw eiddo y deuir o hyd iddo mewn annedd pan fo’r contract wedi dod i ben o dan adran 220.

Adran 222 – Rhwymedïau deiliad y contract

475.O fewn chwe mis ar ôl rhoi’r hysbysiad sy’n terfynu’r contract, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am rwymedi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (2); er enghraifft, y sail bod y landlord wedi methu â gwneud yr ymholiadau angenrheidiol yn ystod y cyfnod o rybudd.

476.Caiff llys wrthdroi ymgais y landlord i derfynu’r contract, i bob pwrpas, os yw wedi ei fodloni fod un o’r seiliau yn is-adran (2) wedi ei bodloni. Caiff y llys adfer y contract mewn perthynas â’r annedd, ei gwneud yn ofynnol fod y landlord yn darparu llety arall addas (y pennir a yw ar gael yn unol ag Atodlen 11) neu wneud pa bynnag orchymyn arall yr ystyria’n briodol.

Adran 223 – Pŵer i amrywio cyfnodau yn ymwneud â chefnu

477.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i amrywio’r cyfnod o rybudd o dan adran 220(8) neu’r cyfnod a ganiateir i ddeiliad y contract geisio rhwymedi o dan adran 222(1).

Adran 222 – Hawliau mynediad

478.O dan yr adran hon mae gan y landlord hawl i fynd i annedd unrhyw bryd os yw’n credu’n rhesymol y cefnwyd arno, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, er mwyn gwneud yr annedd a’i chynnwys yn ddiogel.

Pennod 14 - Cyd-Ddeiliaid Contract: Gwahardd a Therfynu.(Mae’R Bennod Hon Yn Berthnasol I Bob Contract Meddiannaeth)
Adran 225 – Anfeddiannaeth: gwahardd gan y landlord

479.Pan fo’r contract yn ei gwneud yn ofynnol fod cyd-ddeiliaid contract yn meddiannu’r annedd fel eu hunig gartref neu eu prif gartref, a bod y landlord yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu gwneud hynny, caiff y landlord gymryd camau i wahardd y cyd-ddeiliad contract hwnnw o’r contract. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r cyd-ddeiliad contract perthnasol, i’r perwyl nad yw’n credu ei fod yn byw yn yr eiddo, nac yn bwriadu byw yno yn y dyfodol, ac y bydd y landlord, felly, yn terfynu hawliau a rhwymedigaethau’r cyd-ddeiliad contract o dan y contract. Rhaid i’r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-ddeiliad contract gysylltu â’r landlord mewn ysgrifen o fewn pedair wythnos o’r diwrnod y rhoddwyd hysbysiad iddo, i gadarnhau ei fod yn meddiannu’r eiddo, neu’n bwriadu meddiannu’r annedd.

480.Yn ystod y cyfnod hwn o rybudd o bedair wythnos rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol i’w fodloni ei hunan nad yw’r cyd-ddeiliad contract yn meddiannu’r eiddo nac yn bwriadu gwneud hynny. Os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod o rybudd, wedi ei fodloni nad yw’r cyd-ddeiliad contract yn byw, nac yw’n bwriadu byw, yn yr annedd, caiff y landlord derfynu hawliau a rhwymedigaethau’r cyd-ddeiliad contract o dan y contract drwy roi hysbysiad pellach i’r cyd-ddeiliad contract, a darparu copïau ohono i’r cyd-ddeiliad arall neu’r cyd-ddeiliaid eraill. Terfynir hawliau a rhwymedigaethau’r cyd-ddeiliad contract o dan y contract wyth wythnos ar ôl rhoi’r ail hysbysiad hwn.

Adran 226 - Rhwymedïau am wahardd o dan adran 225

481.Yn ystod y cyfnod o wyth wythnos ar ôl rhoi’r ail hysbysiad a chyn terfynu hawliau a rhwymedigaethau’r cyd-ddeiliad contract o dan y contract o dan adran 225, caiff y cyd-ddeiliad contract wneud cais i’r llys am rwymedi ar y seiliau yn is-adran (2); er enghraifft, fod y cyd-ddeiliad contract yn meddiannu’r annedd a bod ganddo reswm da dros beidio ag ymateb i’r hysbysiad.

482.Os bodlonir y llys fod un o’r seiliau yn is-adran (2) wedi ei bodloni, caiff ddatgan nad yw’r hysbysiad a roddwyd o dan adran 225(6) yn cael effaith, a bod y cyd-ddeiliad contract yn parhau i fod yn barti i’r contract. Caiff y llys hefyd wneud unrhyw orchymyn pellach yr ystyria’n briodol.

Adran 227 – Anfeddiannaeth: gwahardd gan gyd-ddeiliad contract

483.O dan yr adran hon, caiff un cyd-ddeiliad contract (‘C) gymryd camau i derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract arall (‘A’). Dim ond pan fo’r contract yn ei gwneud yn ofynnol bod y cyd-ddeiliaid contract dan sylw yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref y mae hyn yn gymwys.

484.Caiff C gymryd camau i derfynu hawliau a rhwymedigaethau A os yw C yn credu nad yw A yn byw yn yr annedd ac nad yw’n bwriadu byw yno yn y dyfodol. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i C roi hysbysiad i A i’r perwyl nad yw’n credu bod A yn byw yn yr annedd, nac yn bwriadu byw yno, ac y gellir terfynu hawliau a rhwymedigaethau A o dan y contract oni fydd A yn cysylltu mewn ysgrifen ag C o fewn pedair wythnos, i gadarnhau bod A yn byw neu’n bwriadu byw yn yr annedd.

485.Rhaid i C ddarparu copïau o’r hysbysiad hwn i’r landlord ac i unrhyw gyd-ddeiliaid contract eraill. Yn ystod y cyfnod rhybudd o bedair wythnos, rhaid i C wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol i’w fodloni ei hunan nad yw A yn meddiannu’r annedd ac nad yw’n bwriadu gwneud hynny. Os yw C, ar ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos, wedi ei fodloni nad yw A yn byw yn yr annedd nac yn bwriadu gwneud hynny, caiff C wneud cais i’r llys i derfynu hawliau a rhwymedigaethau A o dan y contract.

486.Os yw’r llys wedi ei fodloni nad yw A yn byw, nac yn bwriadu byw, yn yr annedd, caiff wneud gorchymyn yn terfynu hawliau a rhwymedigaethau A o dan y contract ar ddyddiad penodedig, oni ellir priodoli absenoldeb A i doriad o’r teler ymddygiad gwaharddedig yn y contract, gan gyd-ddeiliad contract arall (gweler adran 55, yn ogystal ag adran 230 sy’n nodi’r hyn y caiff y landlord ei wneud mewn sefyllfaoedd o’r fath).

Adran 228 – Rhwymedïau am wahardd o dan adran 227

487.O fewn chwe mis ar ôl gwneud y gorchymyn llys o dan adran 227, caiff A wneud cais i’r llys am ddadwneud ei orchymyn ar un o’r seiliau yn is-adran (3). Caiff y llys ddadwneud ei orchymyn ac adfer statws A fel parti i’r contract, a gwneud unrhyw orchymyn arall yr ystyria’n briodol.

Adran 229 - Pŵer i amrywio cyfnodau sy’n ymwneud â gwahardd cyd-ddeiliad contract

488.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r cyfnodau yn adrannau 225(4) (y cyfnod rhybuddio o ran eithrio gan landlord), 226(1) (y cyfnod y gall cyd-ddeiliad contract geisio rhwymedi gan y llys yn dilyn eithrio gan landlord), 227(10) (y cyfnod rhybuddio o ran eithrio gan gyd-ddeiliad contract arall), a 228(2) (y cyfnod y gall cyd-ddeiliad contract geisio rhwymedi gan y llys yn dilyn eithrio gan gyd-ddeiliad contract arall).

Adran 230 – Ymddygiad gwaharddedig: gwahardd gan y landlord

489.Caiff landlord wneud cais i’r llys am orchymyn yn terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract o dan gontract, y cred y landlord ei fod wedi torri’r teler o’r contract sy’n ymgorffori adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall). Cyn gwneud y cais, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r cyd-ddeiliad contract sy’n rhoi manylion y toriad, ac yn datgan bod y landlord yn bwriadu gwneud cais i’r llys am derfynu hawliau a rhwymedigaethau’r cyd-ddeiliad contract o dan y contract. Rhaid i’r landlord hefyd roi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill yn eu hysbysu bod y landlord yn credu bod y teler sy’n ymgorffori adran 55 wedi ei thorri, ond nid y manylion, ac o’r bwriad i wneud cais am orchymyn llys. Rhaid gwneud y cais i’r llys o fewn chwe mis ar ôl rhoi’r hysbysiad i’r cyd-ddeiliad contract yr honnir ei fod wedi torri’r teler sy’n ymgorffori adran 55. Os bydd y llys yn gwneud y gorchymyn, bydd hawliau a rhwymedigaethau’r cyd-ddeiliad contract yn terfynu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn hwnnw.

Adran 231 – Terfynu contract meddiannaeth sydd â chyd-ddeiliaid contract

490.Ni ellir terfynu contract sydd â chyd-ddeiliaid contract oni bai bod y cyd-ddeiliaid contract yn gweithredu gyda’i gilydd.

Pennod 15 - Fforffediad a Rhybudd I Ymadael Heb Fod Ar Gael
Adran 232 – Fforffediad a rhybuddion i ymadael

491.Mae’r adran hon yn darparu na chaiff landlordiaid o dan gontractau meddiannaeth wneud rhai pethau, hyd yn oed os yw’n ymddangos bod ganddynt hawl i wneud y pethau hynny o dan y contract, neu o dan gyfraith arall.

492.Felly, nid oes unrhyw effaith i unrhyw ddarpariaeth mewn contract meddiannaeth nac unrhyw hawl gyfreithiol arall sy’n caniatáu i’r landlord roi rhybudd i ymadael, neu sy’n rhoi hawliau o ran ailfynediad neu fforffediad.

493.Hawl fforffediad yw hawl unochrog y landlord i ddod â thenantiaeth i ben os bydd y tenant yn torri’r contract.