31.Mae adran 7 yn gwneud y gosodiad sylfaenol sy’n sail i’r Ddeddf, ac a ystyrir uchod mewn perthynas â Rhan 1; bydd y rhan fwyaf o’r tenantiaethau a’r trwyddedau y bydd pobl yn rhentu cartrefi oddi tanynt yn gontractau meddiannaeth.
32.Effaith is-adrannau (1) i (3) yw bod tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth os yw’n caniatáu i o leiaf un unigolyn dros 18 oed feddiannu annedd fel ei gartref a bod rhywun yn talu rhent (neu ‘gydnabyddiaeth arall’; er enghraifft, yn gwneud rhywbeth cyfwerth â thalu rhent, megis darparu gwasanaeth i’r landlord) yn gyfnewid am hawl yr unigolyn hwnnw i fyw yn yr annedd.
33.Mae Atodlen 2 yn pennu nifer o amodau ac eithriadau i’r gosodiad sylfaenol yn adran 7.
34.Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth o dan adran 7, os gwneir hi gyda pherson (‘person A’), ond sy’n caniatáu i berson gwahanol fyw yn yr annedd y mae’r denantiaeth neu’r drwydded yn ymwneud â hi (disgrifir person o’r fath ym mharagraff 1 fel ‘buddiolwr’).
35.Mae’r un peth yn wir am denantiaeth neu drwydded nad oes rhent na chydnabyddiaeth arall (er enghraifft, gwaith a wneir gan ddeiliad y contract fel ffurf ar rent) yn daladwy mewn perthynas â hi.
36.Ond o dan baragraff 1, gall tenantiaeth neu drwydded o’r fath fod yn gontract meddiannaeth os yw’r landlord yn dymuno hynny. Os felly, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r person y gwnaed y denantiaeth neu’r drwydded gydag ef (sef person A mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded y byddai buddiolwr yn byw yn yr annedd oddi tani) sy’n datgan y bydd y denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth. Rhaid rhoi’r hysbysiad hwnnw cyn i’r denantiaeth neu’r drwydded gael ei gwneud, neu ar adeg ei gwneud.
37.Mae paragraff 2 yn gymwys i denantiaeth neu drwydded pan fo buddiolwr yn byw yn yr annedd, a’r landlord wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff 1. Mae’n caniatáu i’r landlord bennu yn yr hysbysiad y dylid darllen darpariaethau penodol o’r Ddeddf (a darpariaethau rheoliadau a wneir oddi tani) fel petaent yn cyfeirio at y buddiolwr. Mae angen paragraff 2 oherwydd bod y Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at ‘ddeiliaid contract’ (gan gynnwys mewn ‘darpariaethau sylfaenol’ a ddaw’n delerau’r contract meddiannaeth). Yn yr un modd, bydd rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at ‘ddeiliaid contract’ (gan gynnwys mewn ‘darpariaethau atodol’, a fydd hefyd yn dod yn delerau’r contract meddiannaeth).
38.Mae’r darpariaethau hynny yn rhoi hawliau i ddeiliad y contract, sef person A yn yr amgylchiadau hyn, ac yn gosod rhwymedigaethau arno. Yn ymarferol, gall fod angen trin y darpariaethau hynny fel pe baent yn gymwys i’r buddiolwr er mwyn sicrhau bod y contract yn gweithredu’n hwylus o ddydd i ddydd.
39.Mae’r Rhan hon yn ymwneud â thenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd o fewn adran 7 ac a fyddai felly yn gontractau meddiannaeth oni bai am baragraff 3. Ond os crybwyllir tenantiaeth neu drwydded ym mharagraff 3(2), nid yw’n gontract meddiannaeth onid yw’r landlord yn dymuno iddi fod yn gontract o’r fath (ac os felly, fel o dan Ran 1, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract ei bod yn gontract meddiannaeth cyn i’r denantiaeth neu’r drwydded gael ei gwneud, neu ar adeg ei gwneud).
40.Mae paragraff 3(2) yn nodi’r tenantiaethau a’r trwyddedau nad ydynt, er eu bod o fewn adran 7, yn gontractau meddiannaeth, oni roddir hysbysiad gan y landlord. Tenantiaethau a thrwyddedau yw’r rhain sy’n ymwneud â’r canlynol—
Llety gwyliau,
Llety mewn sefydliad gofal (gweler paragraff 4 o Atodlen 2),
‘Trefniant hwylus dros dro’– hynny yw, tenantiaeth neu drwydded a wneir fel trefniant hwylus dros dro gyda pherson a oedd yn dresmaswr pan aeth i mewn i’r annedd (gweler paragraff 5), a
Llety a rennir â’r landlord – er enghraifft pan fo’r landlord yn cymryd lletywr (gweler paragraff 6).
41.Fel y gwna Rhan 2, mae’r Rhan hon yn ymwneud â thenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd o fewn adran 7, ac a fyddai felly yn gontractau meddiannaeth oni bai am y Rhan hon. Os crybwyllir tenantiaeth neu drwydded ym mharagraff 7, ni all fyth fod yn gontract meddiannaeth, er gwaethaf y ffaith ei bod o fewn adran 7.
42.Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth os yw’r tenant neu’r trwyddedai o dan 18 oed (neu os oes mwy nag un tenant neu drwyddedai, os yw pob un ohonynt o dan 18 oed).
43.Mae’r paragraff hwn hefyd yn eithrio tenantiaethau amrywiol eraill o fod yn gontractau meddiannaeth. Mae’r canlynol wedi eu heithrio o fod yn gontractau meddiannaeth:
tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 yn gymwys iddi, sy’n darparu diogelwch i denantiaid busnes wrth iddynt adnewyddu neu derfynu eu les. Nid yw’r tenantiaethau hyn o fewn cwmpas y Ddeddf hon, gan nad ydynt yn cael eu defnyddio at y diben o rentu cartref.
meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976, sy’n rhoi diogelwch deiliadaeth i weithwyr amaethyddol a letyir gan eu cyflogwyr, ynghyd â’u holynwyr.
tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977; mae gan denantiaid o dan y Ddeddf hon hawliau diffiniedig ynglŷn â swm y rhent y gellir ei godi arnynt, a diogelwch deiliadaeth.
tenantiaeth ddiogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai, o fewn ystyr adran 86 o Ddeddf Rhenti 1977; mae gan denantiaid cymdeithas dai o dan y Ddeddf hon hawliau diffiniedig ynglŷn â swm y rhent y gellir ei godi arnynt, a diogelwch deiliadaeth.
tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986; tir a gynhwysir mewn contract tenantiaeth amaethyddol.
tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995; mae gan landlordiaid a thenantiaid yr hawl i negodi eu darpariaethau eu hunain ynglŷn â lefelau rhenti a phenderfynu a oes arnynt eisiau cael adolygiadau rhent ai peidio; i fod yn gymwys, rhaid ffermio’r tir drwy gydol oes y denantiaeth.
tenantiaeth hir (gweler paragraff 8).
llety a ddarperir i aelod o’r lluoedd arfog, i aelod o deulu aelod o’r lluoedd arfog neu i sifiliad sy’n ddarostyngedig i ddisgyblaeth y lluoedd arfog at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r lluoedd arfog (gweller paragraff 9 o Atodlen 2).
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â ‘llety mynediad uniongyrchol’ (gweler paragraff 10).
44.Mae tenantiaethau hir wedi eu heithrio o fod yn gontractau meddiannaeth. Mae’r paragraff hwn yn diffinio tenantiaeth hir o dan y Ddeddf fel a ganlyn:
tenantiaeth am gyfnod penodol o fwy nag 21 mlynedd (hynny yw, cytunodd y partïon ar y dechrau y byddai’r denantiaeth yn parhau am gyfnod penodol o amser sy’n hwy nag 21 mlynedd),
tenantiaeth am gyfnod a bennwyd drwy gyfraith oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus (megis opsiwn i’r tenant adnewyddu’r denantiaeth pan ddaw i ben, er enghraifft adnewyddu’r denantiaeth yn barhaus bob 5 mlynedd), neu
tenantiaeth a wneir yn unol â’r ‘hawl i brynu’ (Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985) neu’r ‘hawl i gaffael’ (adran 17 o Ddeddf Tai 1996).
45.Ond nid yw tenantiaeth y gellir ei therfynu drwy hysbysiad ar ôl marwolaeth yn denantiaeth hir (oni bai ei bod yn denantiaeth cydberchnogaeth – gweler isod).
46.Tenantiaeth cydberchnogaeth yw tenantiaeth sy’n ymwneud ag annedd sy’n eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig, pan fo’r tenant wedi prynu canran o’r eiddo ar sail lesddaliad ac yn talu rhent am y gyfran nad yw’n berchen arni. Gall y tenant brynu cyfrannau pellach o’r rhan nad yw’n berchen arni, ac o bosibl leihau’r rhan honno i ddim.
47.Llety mynediad uniongyrchol yw llety a ddarperir gan landlord cymunedol neu elusen a gofrestrwyd gyda’r Comisiwn Elusennau (o dan Ddeddf Elusennau 2011), a ddarperir ar sail fyrdymor iawn (24 awr neu lai) i bobl sy’n bodloni meini prawf a bennir gan y landlord (fel rheol pan fo angen llety ar y person dan sylw ar unwaith).
48.Mae gan awdurdod tai lleol ddyletswydd i’r bobl hynny sy’n ddigartref ac mewn angen. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i ddarparu llety interim o dan adran 68 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (‘y ddyletswydd interim’) a dyletswydd i sicrhau llety (ar sail tymor hwy) o dan adran 75 o’r Ddeddf honno (‘y ddyletswydd lawn’). Mae dyletswydd interim awdurdod tai lleol yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau llety i geisydd y mae ganddo reswm i gredu ei fod yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac mewn angen blaenoriaethol.
49.Mae dyletswydd interim yn codi tra bo’r awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, i ystyried a oes dyletswydd lawn yn ddyledus i’r ceisydd mewn gwirionedd.
50.Yn dilyn yr asesiad hwn, bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu’r ceisydd o’r canlyniad. Os dengys yr asesiad fod dyletswydd lawn yn ddyledus i’r ceisydd gan yr awdurdod lleol, bydd dyletswydd arno i ddarparu llety addas.
51.Mae’r paragraff hwn yn pennu nad yw llety a ddarperir gan awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau digartrefedd (ac eithrio llety a ddarperir yn unol â’r ddyletswydd lawn) yn cael ei ddarparu o dan gontract meddiannaeth. Felly, ni fydd llety a ddarperir o dan y ddyletswydd interim yn cael ei ddarparu o dan gontract meddiannaeth.
52.Mae paragraff 12 yn pennu’r rheolau sy’n gymwys pan fo awdurdod tai lleol yn ymrwymo i drefniadau gyda landlord arall i gyflawni ei swyddogaethau digartrefedd.
53.Nid yw tenantiaethau a thrwyddedau ar gyfer llety â chymorth y mae landlord yn bwriadu ar y dechrau eu darparu am ddim mwy na chwe mis, yn gontractau meddiannaeth. Landlordiaid cymunedol ac elusennau cofrestredig yw’r landlordiaid y mae hyn yn gymwys iddynt. Mae adran 143(2) yn diffinio llety â chymorth.
54.Os yw tenantiaeth neu drwydded ar gyfer llety â chymorth yn parhau y tu hwnt i chwe mis, bydd yn dod yn gontract meddiannaeth fel mater o drefn, sef ‘contract safonol â chymorth’; gweler adran 143 a Rhan 8 o’r Ddeddf yn gyffredinol. Gwneir eithriad i’r trosi awtomatig yn gontract meddiannaeth pan fo’r landlord yn ymestyn y cyfnod chwe mis drwy roi hysbysiad o dan baragraff 15.
55.Mae hyn yn golygu y bydd contract meddiannaeth yn cael ei ffurfio naill ai yn union ar ôl i’r cyfnod chwe mis dechreuol ddod i ben (os na wneir estyniad) neu (os gwneir estyniad) yn union ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o estyniad. Cyfeirir at y cyfnod cyn i’r denantiaeth neu’r drwydded ddod yn gontract meddiannaeth fel y ‘cyfnod perthnasol’.
56.Mae’r paragraff hwn yn pennu’r effaith a gaiff contractau blaenorol ynglŷn â llety â chymorth ar y modd y cyfrifir y cyfnod perthnasol. Yn gyffredinol, os cafwyd contractau blaenorol sy’n ymwneud â llety â chymorth, bydd y cyfnod perthnasol yn cael ei gyfrifo o ddyddiad cychwyn y cyntaf o’r contractau hynny.
57.Er mwyn i unrhyw gontract blaenorol gael ei drin yn y modd hwn, rhaid iddo fod yn ymwneud â llety â chymorth, ac ymwneud naill ai â’r un annedd â’r contract cyfredol, neu annedd o fewn yr un adeilad neu uned.
58.Fel y crybwyllwyd yn y paragraffau blaenorol, caiff landlord ymestyn y cyfnod pan nad oes gan berson sy’n byw mewn llety â chymorth gontract meddiannaeth.
59.Pan fo landlord yn dymuno parhau i ddarparu llety â chymorth y tu hwnt i’r cyfnod o chwe mis, ond nad yw’n dymuno i’r llety gael ei ddarparu o dan gontract meddiannaeth, caiff y landlord ymestyn y cyfnod hwnnw. Os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, rhaid i’r landlord gael caniatâd yr awdurdod tai lleol (a ddiffinnir yn adran 243) y lleolir y llety yn ei ardal. Gellir rhoi estyniad am gyfnod o hyd at dri mis ar y tro, ond gellir rhoi mwy nag un estyniad.
60.Er mwyn ymestyn y cyfnod, rhaid i’r landlord roi hysbysiad o estyniad i’r preswylydd, bedair wythnos o leiaf cyn y byddai’r denantiaeth neu’r drwydded, fel arall, yn dod yn gontract meddiannaeth (naill am fod cyfnod cychwynnol yn dod i ben, neu am fod estyniad blaenorol mewn grym ond y bydd yn dod i ben yn fuan).
61.Rhaid i’r hysbysiad ddarparu’r holl fanylion a nodir ym mharagraff 15(6) a (7) i’r preswylydd. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r rhesymau am yr estyniad, hysbysu’r preswylydd pa bryd y daw’r cyfnod perthnasol fel y’i hymestynnwyd i ben, a hysbysu’r preswylydd am ei hawl i wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o’r penderfyniad i ymestyn y cyfnod. Mae’n ofynnol hefyd fod y landlord yn ymgynghori â’r preswylydd cyn rhoi hysbysiad.
62.Wrth ystyried a ddylai wneud cais am estyniad, caiff y landlord ystyried ymddygiad y tenant neu’r trwyddedai ac ymddygiad unrhyw un arall y mae’n ymddangos i’r landlord ei fod yn byw yn yr eiddo.
63.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu manylion y weithdrefn ar gyfer cael caniatâd gan awdurdodau tai lleol.
64.Caiff person y rhoddir hysbysiad o estyniad iddo gan y landlord ofyn i‘r llys sirol adolygu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad (os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol) neu adolygu penderfyniad yr awdurdod tai lleol i gydsynio i roi’r hysbysiad (os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol).
65.Caiff y llys gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad (neu i gydsynio i’w roi). Caiff y llys hefyd amrywio cyfnod yr estyniad, ond nid y tu hwnt i’r cyfnod estyniad hwyaf o dri mis.
66.Os yw’r llys yn diddymu’r hysbysiad gwreiddiol, caiff y landlord ddyroddi hysbysiad pellach o estyniad. Os yw’r landlord yn dyroddi’r hysbysiad newydd hwn o fewn 14 diwrnod ar ôl penderfyniad y llys, ystyrir y bydd yr hysbysiad yn cydymffurfio â'r cyfnod byrraf o rybudd, sef 4 wythnos, a bennir ym mharagraff 15, hyd yn oed os nad yw’n cydymffurfio’n ymarferol. Nid yw hyn yn effeithio ar y terfyn amser pan gaiff y preswylydd ofyn am adolygiad felly, yn ymarferol, caiff preswylydd wneud cais unwaith eto i’r llys sirol am adolygiad o’r hysbysiad pellach hwnnw, o dan baragraff 16.
67.Y llys sirol sy’n cynnal adolygiadau o benderfyniadau i ymestyn y cyfnod perthnasol, er mai yn unol â’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys mewn cais am adolygiad barnwrol y gwneir hynny. Mae hyn hefyd yn wir am yr holl adolygiadau y bydd y llys sirol yn eu cynnal o dan y Ddeddf.
68.Mae paragraff 17 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 2. Mae’r Atodlen yn cynnwys manylion arwyddocaol a llawer o ddiffiniadau y bydd angen eu diweddaru o bryd i’w gilydd.
69.Mae’r adran hon yn pennu’r ddau fath o gontract meddiannaeth a sefydlir gan y Ddeddf, sef contractau diogel a chontractau safonol. Fel y nodir uchod yn y sylwadau ar Ran 1, mae contract diogel yn gontract cyfnodol sydd, yn nodweddiadol, yn rhedeg o wythnos i wythnos neu o fis i fis. Contractau diogel yw’r math diofyn o gontractau a ddyroddir gan landlordiaid cymunedol o dan y Ddeddf. Nodir yr eithriadau i hyn isod.
70.Gall contract safonol fod naill ai’n gontract cyfnodol neu’n gontract cyfnod penodol. Contractau safonol yw’r math diofyn o gontract a ddyroddir gan landlordiaid preifat, sef yr holl landlordiaid nad ydynt yn landlordiaid cymunedol. Ond os dymunant, caiff landlordiaid preifat ddyroddi contractau diogel.
71.Mae contract cyfnodol yn rhedeg am y cyfnod rhentu a gytunir, yn nodweddiadol o fis i fis, neu weithiau o wythnos i wythnos. Mae contract cyfnod penodol yn gontract am gyfnod penodedig a gytunir ymlaen llaw: nifer penodol o fisoedd neu flynyddoedd, fel rheol. Mae’r Ddeddf yn darparu bod contractau safonol cyfnod penodol yn dod yn gontractau cyfnodol fel mater o drefn pan ddaw eu cyfnod penodol i ben.
72.Mae adran 9 yn nodi’r personau sy’n landlordiaid cymunedol o dan y Ddeddf. Yn ychwanegol at awdurdodau lleol (a ddiffinnir yn adran 243) a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (darparwyr tai cymdeithasol fel cymdeithasau tai a gofrestrwyd o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996), sy’n darparu’r rhan helaethaf o’r tai cymdeithasol yng Nghymru, mae’r diffiniad yn cynnwys darparwyr penodol eraill, a darparwyr posibl, megis darparwyr a gofrestrwyd yn Lloegr ond sy’n darparu tai cymdeithasol yng Nghymru.
73.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r diffiniad o landlord cymunedol. Diben hyn yw sicrhau bod y Ddeddf yn gallu adlewyrchu newidiadau o ran y modd y darperir tai cymdeithasol.
74.O dan adran 10, mae landlord nad yw’n landlord cymunedol, ond sy’n gosod anheddau ar rent yng Nghymru, yn landlord preifat at ddibenion y Ddeddf.
75.O dan y Ddeddf, y contract diofyn a ddyroddir gan landlord cymunedol yw’r contract diogel, onid oes un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys:
Mae’r contract meddiannaeth o fewn Atodlen 3 (gweler isod) ac mae’r landlord yn rhoi hysbysiad o dan adran 13 y bydd yn gontract safonol.
Mae’r contract yn gontract safonol ymddygiad gwaharddedig oherwydd gorchymyn o dan adran 116 (sef pan ddaw contract safonol i rym drwy orchymyn y llys o ganlyniad i ymddygiad gwaharddedig - gweler isod).
Mae contract safonol cyfnod penodol wedi dod i ben ac mae deiliad y contract yn parhau yn yr eiddo. Mewn sefyllfa o’r fath (os na wneir unrhyw gontract cyfnod penodol newydd) mae’r partïon yn cael eu trin fel petaent wedi gwneud contract safonol cyfnodol. Mae’r eithriad hwn yn gymwys hefyd os gwneir contract newydd ar ddiwedd cyfnod penodol, sy’n caniatáu i ddeiliad y contract feddiannu’r un annedd o ddyddiad sy’n digwydd yn union wedi i’r contract cyfnod penodol ddod i ben (gweler adran 184(6)).
Mae tresmaswr yn meddiannu’r eiddo fel ei gartref, ac yn gwneud taliadau a dderbynnir gan y landlord cymunedol sy’n berchen ar yr eiddo (gweler adran 238).
76.Mae’r Atodlen hon yn rhestru ystod o gontractau meddiannaeth sy’n cael eu ffurfio mewn amgylchiadau penodol neu sy’n ymwneud â mathau penodol o lety. O dan adrannau 11(2) ac 12(4), gall pob un o’r mathau hyn o gontract fod yn gontract safonol, er gwaethaf eu gwneud neu eu mabwysiadu (hynny yw, eu cymryd drosodd) gan landlord cymunedol. Mae’r mathau perthnasol o gontractau meddiannaeth fel a ganlyn:
Contractau meddiannaeth drwy hysbysiad – Contract meddiannaeth na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai bod hysbysiad am y ffaith honno wedi ei roi o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2 (gweler y nodiadau uchod). Y contractau perthnasol yw contractau sy’n caniatáu i rywun ac eithrio deiliad y contract feddiannu annedd, contractau pan nad oes rhent yn daladwy, contractau ar gyfer llety gwyliau, contractau sy’n ymwneud â llety mewn cartref gofal, ‘trefniadau hwylus dros dro’ a chontractau sy’n ymwneud â llety a rennir.
Llety â chymorth – Contract meddiannaeth ar gyfer llety â chymorth (contract safonol â chymorth).
Meddiannaeth ragarweiniol – Contract safonol rhagarweiniol. Yn gyffredinol, contract safonol rhagarweiniol yw contract newydd a wneir gyda landlord cymunedol (neu gontract a fabwysiedir gan landlord cymunedol), pan fo’r landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 13 yn datgan y bydd yn gontract safonol rhagarweiniol yn ystod y ‘cyfnod rhagarweiniol’ (gweler adran 16 ac Atodlen 4, a’r eithriad cyntaf yn adrannau 11 a 12). Ni fydd contract safonol rhagarweiniol yn cael ei ffurfio os oedd deiliad y contract, yn flaenorol, wedi dal contract diogel gyda landlord cymunedol, er enghraifft pan fo trosglwyddiad contractau wedi digwydd rhwng deiliaid contract diogel.
Llety i geiswyr lloches neu bersonau sydd wedi eu dadleoli – Contractau meddiannaeth sy’n ymwneud â llety ar gyfer ceiswyr lloches (sef unigolion sy’n disgwyl am ganlyniad ceisiadau am loches) neu bersonau a ddiogelir dros dro o dan y Rheolau Mewnfudo (statws a roddir i bersonau sy’n rhan o fewnlifiad torfol o bobl a ddadleolwyd).
Llety i bersonau digartref – Contract meddiannaeth a wnaed mewn cysylltiad â swyddogaeth ddigartrefedd awdurdod tai lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac y mae’r rheolau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2 yn gymwys iddi (gweler y nodiadau uchod).
Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: cyffredinol – Contractau meddiannaeth pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan un o’r cyflogwyr a restrir yn y paragraff (yn gyffredinol, y mathau o gyflogwyr y byddai wedi bod yn ofynnol iddynt ddyroddi contract diogel), pan fo’n ofynnol i’r cyflogai feddiannu’r annedd yn ôl un o delerau ei gontract cyflogaeth (er enghraifft gofalwyr ysgol, wardeiniaid llety gwarchod).
Meddiannaeth yn rhinwedd swydd o ran yr heddlu neu’r gwasanaethau tân ac achub – Contractau meddiannaeth a ddarperir mewn cysylltiad â gweithio i’r heddlu neu i wasanaeth tân ac achub.
Llety myfyrwyr – Contract meddiannaeth mewn perthynas â llety a ddarperir i fyfyriwr sy’n astudio cwrs dynodedig gan Weinidogion Cymru mewn sefydliad addysg bellach (sef sefydliad sy’n darparu addysg y tu hwnt i oedran gadael ysgol, ond islaw lefel gradd) neu mewn sefydliad addysg uwch (sefydliad sy’n darparu addysg ar lefel gradd neu uwch).
Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu – Contract meddiannaeth mewn perthynas â llety a ddarperir ar sail dros dro ar dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer ei ddatblygu.
Llety dros dro: personau sy’n dechrau gwaith – Contract meddiannaeth mewn perthynas â llety dros dro a ddarperir i bobl sydd wedi symud i ymgymryd â chyflogaeth mewn ardal awdurdod lleol nad oeddent yn preswylio ynddi cyn hynny, tra bônt yn chwilio am lety parhaol.
Llety dros dro: trefniadau dros dro – Contract meddiannaeth sy’n ymwneud ag annedd sydd wedi ei gosod i’r landlord cymunedol i’w defnyddio fel llety dros dro, a bod y telerau gosod yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord cymunedol ddychwelyd yr annedd i’r lesydd ar ddiwedd cyfnod penodedig, neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd. Ni chaiff y lesydd fod yn landlord cymunedol ei hun.
Llety dros dro: llety yn ystod gwaith – Contract meddiannaeth sy’n ymwneud â llety a ddarperir am dymor byr tra gwneir gwaith ar gartref arferol deiliad y contract. Gellir cynnig contract safonol yn yr amgylchiadau hyn os darperir y llety dros dro gan landlord gwahanol ac os nad oedd contract diogel gan ddeiliad y contract cyn hynny.
Llety nad yw’n llety cymdeithasol – Contract meddiannaeth pan fo deiliad y contract yn weithiwr allweddol, neu pan nad oedd gwneud y contract meddiannaeth yn ddarostyngedig i’r ‘rheolau dyrannu’ arferol. Mae rheolau dyrannu yn ymwneud â’r ffordd y caiff llety ei ddyrannu i’r rheini y mae arnynt angen llety. Penderfynir a yw person yn weithiwr allweddol at y dibenion hyn yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Anheddau a fwriedir ar gyfer trosglwyddo – Contract meddiannaeth sy’n ymwneud â llety sydd wedi ei gaffael, ei adeiladu neu ei ddatblygu gan landlord cymunedol, landlord cymdeithasol cofrestredig (gweler adran 1 o Ddeddf Tai 1996) neu ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat (gweler adran 80(3) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008) gyda’r bwriad o’i drosglwyddo i gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol. Cymdeithas dai yw cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol lle mae’r preswylwyr hefyd yn aelodau o’r gymdeithas, ac felly’n llywio’r modd y’i rheolir (gweler adran 1(2) o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985).
77.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen drwy reoliadau.
78.Pan fo landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract diogel sy’n bodoli eisoes (er enghraifft pan drosglwyddir stoc tai awdurdod lleol i gymdeithas dai), bydd y contract diogel hwnnw’n parhau. Pan fo landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sy’n bodoli eisoes yn sgil trosglwyddo hawliau’r landlord o dan gontract isfeddiannaeth (o dan adrannau 62 neu 66) bydd y contract hwnnw’n parhau fel contract safonol.
79.Ym mhob amgylchiad arall, bydd y contract yn dod i ben pan fydd y landlord cymunedol yn dod yn landlord, a bydd yn cael ei ddisodli gan gontract diogel, oni fydd un o’r eithriadau canlynol yn gymwys:
Mae’r contract meddiannaeth o fewn Atodlen 3 (gweler uchod) a’r landlord yn rhoi hysbysiad o dan adran 13 y bydd yn gontract safonol.
Mae’r contract yn gontract safonol ymddygiad gwaharddedig o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (pan grëir contract safonol gan orchymyn llys o ganlyniad i ymddygiad gwaharddedig – gweler isod).
Roedd y contract yn gontract safonol cyfnod penodol sydd wedi dod i ben a dod yn gontract safonol cyfnodol, neu mae contract newydd wedi ei wneud ar ddiwedd cyfnod penodol (gweler adran 184(6)).
Mae tresmaswr yn meddiannu’r eiddo fel ei gartref ac yn gwneud taliadau a dderbynnir gan y landlord cymunedol sy’n berchen ar yr eiddo (gweler adran 238).
Mae’r contract yn gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer (er enghraifft drwy brynu eiddo lesddaliad sydd â llai nag 21 mlynedd yn weddill cyn i’r les ddod i ben) ac nid yw deiliad y contract wedi dewis (cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord) fod y contract i barhau’n gontract safonol cyfnod penodol (gweler adran 15).
80.Pan fo landlord cymunedol yn dymuno ymrwymo i gontract safonol, neu pan na fo’n dymuno i gontract cyfredol y mae’n ei fabwysiadu ddod yn gontract diogel, a bod y contract o fath a restrir yn Atodlen 3, rhaid rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan yr adran hon (gweler adran 11(2)(b) ac adran 12(4)(b)). Rhaid i’r hysbysiad roi gwybod i ddeiliad y contract fod ganddo hawl i ofyn i lys sirol adolygu penderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad o fewn 14 diwrnod (gweler adran 14).
81.Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord cymunedol wedi rhoi hysbysiad o dan adran 13. Caiff deiliad y contract ofyn am adolygiad o benderfyniad y landlord gan y llys sirol.
82.Caiff y llys naill ai gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad. Os yw’r llys yn diddymu’r hysbysiad gwreiddiol, caiff y landlord roi hysbysiad pellach. Os gwna hynny o fewn 14 diwrnod ar ôl penderfyniad y llys, bydd yr hysbysiad yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi ar yr adeg y gwnaed y contract meddiannaeth neu’r adeg y daeth y landlord cymunedol yn landlord, yn ôl y digwydd. Nid yw hyn yn effeithio ar y terfyn amser pan gaiff deiliad y contract ofyn am adolygiad felly, yn ymarferol, caiff deiliad y contract wneud cais unwaith eto i’r llys sirol am adolygiad o’r hysbysiad pellach hwnnw, o dan adran 14.
83.Fel y pennir yn adran 12, os yw landlord cymunedol yn mabwysiadu contract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, bydd yn dod yn gontract diogel oni fydd deiliad y contract yn dewis fod ei gontract i barhau’n gontract safonol cyfnod penodol.
84.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i landlord cymunedol roi hysbysiad i ddeiliad y contract o leiaf fis cyn iddo ddod yn landlord, gan roi gwybod iddo fod ganddo hawl i ddewis parhau ar gontract safonol cyfnod penodol.
85.Mae’r adran hon yn creu’r cysyniad o ‘gontract safonol rhagarweiniol’. Mae contract meddiannaeth newydd a wneir gyda landlord cymunedol (neu gontract a fabwysiedir gan landlord cymunedol) yn gontract safonol rhagarweiniol os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract am y ffaith honno o dan adran 13. Mae’r adran hon yn darparu bod contractau safonol rhagarweiniol yn gontractau safonol cyfnodol yn ystod y cyfnod rhagarweiniol (12 mis fel arfer, oni chaiff y cyfnod hwnnw ei estyn; gweler Atodlen 4). Ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol mae’r contract safonol rhagarweiniol yn dod i ben a bydd contract diogel yn cymryd ei le, oni bai bod landlord preifat yn dod yn landlord o dan y contract. Os bydd landlord preifat yn dod yn landlord cyn diwedd y cyfnod rhagarweiniol, bydd y cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben, a bydd y contract yn parhau fel contract safonol (oherwydd adran 17(3)).
86.Mae’r contract safonol rhagarweiniol yn darparu llai o sicrwydd meddiannaeth na chontract diogel. Mae contractau safonol rhagarweiniol yn caniatáu i landlordiaid cymunedol ganfod, yn ystod y cyfnod rhagarweiniol, a all deiliad contract gynnal contract diogel ai peidio. Yn yr achosion pan fo deiliad y contract wedi dangos na fydd yn gallu cynnal contract diogel, os yw adran 173 wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, caiff y landlord geisio terfynu’r contract drwy hysbysiad, sy’n golygu y gellir terfynu contract safonol rhagarweiniol yn gyflymach nag y gellid o dan gontract diogel.
87.Mae’r Atodlen hon yn pennu’n fanylach y trefniadau o dan y Ddeddf sy’n gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol. Math o gontract safonol cyfnodol yw contractau safonol rhagarweiniol y caiff landlordiaid cymunedol eu dyroddi, am gyfnod rhagarweiniol o 12 mis yn y lle cyntaf, yn hytrach na dyroddi contract diogel.
88.Gall landlord cymunedol hefyd ymestyn y cyfnod rhagarweiniol i gyfanswm o 18 mis drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract am yr estyniad o leiaf wyth wythnos cyn y diwrnod y byddai’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben fel arall. Caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord adolygu penderfyniad y landlord i ofyn am estyniad. At hynny, os yw’r landlord, ar ôl i’r landlord gynnal adolygiad mewnol o’r penderfyniad, yn hysbysu deiliad y contract fod y landlord wedi penderfynu cadarnhau’r penderfyniad, neu os yw’n methu â rhoi hysbysiad o gwbl, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o’r penderfyniad i ymestyn y cyfnod rhagarweiniol.
89.Mae’r prosesau sy’n ymwneud ag ymestyn, adolygu mewnol ac adolygu gan y llys sirol, a bennir yn yr Atodlen hon, yn debyg iawn i’r prosesau sy’n gymwys i gontractau safonol ymddygiad gwaharddedig (gweler Atodlen 7).
90.Mae’r paragraff hwn yn pennu’r hyn yw’r cyfnod rhagarweiniol, sef y cyfnod pan fo contract meddiannaeth a roddir gan landlord cymunedol yn gontract safonol cyfnodol (oherwydd yr eithriad ym mharagraff 3 o Atodlen 3).
91.Pan fo landlord cymunedol wedi ceisio terfynu’r contract drwy wneud hawliad meddiant, neu wedi rhoi hysbysiad o’i fwriad i wneud hynny i ddeiliad y contract, ond nad yw proses yr hawliad wedi ei chwblhau, bydd y contract yn parhau’n gontract safonol y tu hwnt i’r cyfnod rhagarweiniol hyd nes y bo:
yr hysbysiad yn cael ei dynnu yn ôl,
y cyfnod ar gyfer gwneud yr hawliad yn dod i ben heb i’r hawliad gael ei wneud,
yr hawliad yn cael ei ddyfarnu o blaid deiliad y contract, neu
y contract yn dod i ben heb i unrhyw un o’r pethau hynny ddigwydd.
92.Mae’r paragraff hwn yn nodi sut y pennir dyddiad dechrau’r cyfnod rhagarweiniol os oedd deiliad y contract yn barti i gontract safonol rhagarweiniol a ddaeth i ben ar yr union adeg yr oedd yr hawl i feddiannu’r annedd o dan y contract safonol rhagarweiniol newydd yn cychwyn. Yn achos cyd-ddeiliaid contract, y dyddiad yw’r cynharaf o’r dyddiadau a fyddai’n gymwys pe byddai pob un o’r cyd-ddeiliaid contract yn cael ei drin yn unigol.
93.Caiff landlord ymestyn y cyfnod rhagarweiniol o 12 mis i 18 mis. Wrth benderfynu a ddylid ymestyn y cyfnod rhagarweiniol, caiff y landlord ystyried ymddygiad deiliad neu ddeiliaid y contract ac ymddygiad unrhyw berson y tybia’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.
94.Rhaid i landlord cymunedol sy’n ceisio ymestyn y cyfnod rhagarweiniol hysbysu deiliad y contract, wyth wythnos o leiaf cyn y dyddiad y disgwylir i’r cyfnod rhagarweiniol ddod i ben. Rhaid i’r hysbysiad:
hysbysu deiliad y contract ynghylch y penderfyniad i ymestyn a’r rhesymau pam y mae’r landlord yn ceisio cael estyniad, a
rhoi gwybod i ddeiliad y contract fod ganddo hawl i ofyn i’r landlord cymunedol adolygu ei benderfyniad, a nodi erbyn pa bryd y mae’n rhaid gwneud cais o’r fath.
95.Caiff Gweinidogion Cymru ymestyn neu gwtogi’r cyfnod pan fo rhaid rhoi hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract er mwyn i’r hysbysiad fod yn ddilys.
96.Os yw deiliad y contract yn gofyn am adolygiad, rhaid i’r landlord adolygu ei benderfyniad, ac yn dilyn hynny caiff naill ai gadarnhau neu wrthdroi’r penderfyniad i roi’r hysbysiad. Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y diwrnod y byddai’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben pe na bai’n cael ei ymestyn.
97.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu’r weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer unrhyw adolygiad o’r hysbysiad.
98.Pan fo adolygiad wedi ei gynnal a’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol, neu os yw’r landlord yn methu â hysbysu deiliad y contract o’r canlyniad, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol adolygu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad o estyniad. Rhaid gwneud cais o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad y rhoddodd y landlord hysbysiad o’i benderfyniad i ddeiliad y contract, neu 14 diwrnod o’r dyddiad y dylai’r landlord fod wedi hysbysu deiliad y contract o’r penderfyniad (sef y dyddiad y byddai’r cyfnod rhagarweiniol wedi dod i ben pe na bai wedi ei ymestyn).
99.Caiff y llys naill ai gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad o estyniad. Os yw’r llys yn diddymu’r penderfyniad, a’r landlord yn rhoi hysbysiad pellach o estyniad i ddeiliad y contract o fewn 14 diwrnod ar ôl penderfyniad y llys, rhagdybir bod yr hysbysiad yn cydymffurfio â’r gofyniad hysbysu ym mharagraff 3 (2) (hynny yw, rhagdybir ei fod wedi ei roi o leiaf wyth wythnos cyn y diwrnod y byddai’r cyfnod rhagarweiniol wedi dod i ben). Nid yw hyn yn effeithio ar y terfyn amser pan gaiff deiliad y contract ofyn am adolygiad felly, yn ymarferol, mae hawl y deiliad contract i ofyn i’r landlord (o fewn 14 diwrnod i gael yr hysbysiad) adolygu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad yn gymwys unwaith eto. Os yw deiliad y contract yn gofyn am adolygiad o’r fath, rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract am ganlyniad yr adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gofynnodd deiliad y contract am yr adolygiad.
100.Mae paragraff 6 yn egluro sut y gall datganiad ysgrifenedig (y mae’n ofynnol i landlord ei roi i ddeiliad y contract os yw un o delerau’r contract yn ymgorffori adran 31) ymdrin â’r contract safonol rhagarweiniol yn ogystal â’r contract diogel a all gael ei ffurfio ar ddiwedd y contract safonol rhagarweiniol. Os yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno beth fydd telerau’r contract diogel cyn diwedd y cyfnod rhagarweiniol, caiff y landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi telerau’r contract safonol rhagarweiniol yn ogystal â’r contract diogel a all gael ei ffurfio ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol. Gall y datganiad ysgrifenedig wneud hynny naill ai drwy ddynodi telerau’r contract safonol rhagarweiniol na fyddant yn delerau’r contract diogel (drwy farcio datganiad ysgrifenedig y contract safonol rhagarweiniol, er enghraifft) a nodi’r telerau a fydd yn gymwys i’r contract diogel yn unig, neu drwy nodi holl delerau’r contract diogel ar wahân.
101.Pan fo landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig perthnasol o gontract safonol rhagarweiniol sy’n ymdrin â’r contract diogel, ni ragdybir bod y datganiad perthnasol yn anghywir ond am ei fod yn ymdrin â’r contract diogel. Caiff landlord sy’n darparu datganiad o’r fath ei drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 31 i ddarparu datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â’r contract diogel.
102.Pe byddai’r landlord yn ymestyn y cyfnod rhagarweiniol (gan olygu bod dyddiad meddiannu’r contract diogel yn newid) ni fyddai’r datganiad ysgrifenedig perthnasol yn anghywir ond am nad yw’n nodi dyddiad meddiannu newydd y contract diogel.
103.Os yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract sy’n ymdrin â’r contract safonol rhagarweiniol a’r contract diogel a allai gael ei ffurfio ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol, caiff y landlord a deiliad y contract, cyn dyddiad meddiannu’r contract diogel, gytuno i amrywio’r contract diogel yr ymdrinnir ag ef yn y datganiad ysgrifenedig. Mae hyn, fodd bynnag, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (5) sy’n darparu:
bod cyfyngiadau ar y graddau y gellir amrywio telerau sylfaenol (gweler adran 108(1) i (5)),
bod gofyniad ar y landlord i roi datganiad ysgrifenedig o amrywiad (a bod tâl digolledu yn daladwy os yw’r landlord yn methu â chydymffurfio) (gweler adrannau 109(1) i (3) a 110),
bod y gofynion penodol ar gyfer amrywio’r rhent neu gydnabyddiaeth arall a nodir yn adrannau 104(1) i (3) neu adran 105(1)(b) a (2) i (4) yn gymwys, a
y gall yr amrywiad mewn rhent neu gydnabyddiaeth arall ddod i rym o ddyddiad meddiannu’r contract diogel, neu o ddyddiad diweddarach.
104.Mae adran 20 yn darparu bod y paragraff hwn yn ddarpariaeth sylfaenol a ymgorfforir heb ei haddasu fel un o delerau pob contract safonol rhagarweiniol pan fo’r datganiad ysgrifenedig yn ‘ddatganiad ysgrifenedig perthnasol’ (hynny yw, mae’n ymdrin â’r contract safonol rhagarweiniol a’r contract diogel a allai ei ddilyn).
105.Mae paragraff 8 yn egluro beth fydd telerau contract diogel pan ddaw contract safonol rhagarweiniol i ben ac y daw contract diogel i gymryd ei le, ac nad ymdriniwyd â thelerau’r contract diogel yn y datganiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff 6(2) (gweler y nodyn ar baragraff 6 uchod). Os yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno ar delerau’r contract diogel, mae telerau’r contract fel y cytunwyd. Os nad yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno ar delerau’r contract diogel, mae paragraff 8(4) yn egluro’r hyn fydd telerau’r contract diogel.
106.Pan fo contract diogel yn cael ei ffurfio ar ôl contract safonol rhagarweiniol, a’r contract yn ymgorffori adran 39(1) heb ei haddasu, nid oes unrhyw ofyniad ar y landlord o dan y teler hwnnw i ddarparu cyfeiriad ar gyfer anfon dogfennau i ddeiliad y contract. Ni fydd cyfeiriad y landlord wedi newid o ganlyniad i’r newid o gontract safonol rhagarweiniol i gontract diogel.
107.Bydd contract meddiannaeth a wneir rhwng landlord preifat a deiliad y contract yn gontract safonol, yn ddiofyn. Ond os yw landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract (cyn neu wrth wneud y contract) i’r perwyl bod y contract yn gontract diogel, bydd yn gontract diogel.
108.Pan fo landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract diogel sy’n bodoli eisoes, neu gontract safonol sy’n bodoli eisoes, bydd y contract yn parhau’n gontract diogel neu’n gontract safonol, yn ôl eu trefn.
109.Yn ychwanegol at wybodaeth sy’n benodol i’r eiddo megis y cyfeiriad a swm y rhent (y cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel materion allweddol), bydd contractau meddiannaeth yn cynnwys telerau sylfaenol (telerau sy’n ymgorffori darpariaethau sylfaenol y Ddeddf), telerau atodol (telerau a fydd yn ymgorffori darpariaethau atodol a nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y pŵer yn adran 23 o’r Ddeddf), ac unrhyw delerau ychwanegol y cytunir arnynt rhwng y landlord a deiliad y contract.
110.Mae Pennod 3 yn cyflwyno’r cysyniad o ddarpariaethau sylfaenol, sef darpariaethau yn y Ddeddf a ymgorfforir fel telerau sylfaenol contractau meddiannaeth. Gellir ymgorffori amryw o’r darpariaethau sylfaenol ynghyd ag addasiadau iddynt neu beidio â’u hymgorffori o gwbl mewn contract meddiannaeth, ar yr amod bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno, a bod deiliad y contract o’r farn bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella o ganlyniad. Fodd bynnag, rhaid ymgorffori rhai darpariaethau sylfaenol heb eu haddasu bob tro, a rhestrir y rhain yn adran 20(3).
111.Mae Atodlen 1 yn rhestru’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i bob math o gontract meddiannaeth. Yn gyffredinol, nid yw’r Nodiadau Esboniadol hyn yn cyfeirio at bob darpariaeth sylfaenol ar wahân, ond nodir pan fo rhaid ymgorffori darpariaethau sylfaenol heb eu haddasu mewn contractau meddiannaeth, neu pan fo’n werth rhoi eglurhad pellach arnynt.
112.Mae darpariaethau sylfaenol yn un o agweddau allweddol y Ddeddf hon, a byddant yn elfen allweddol mewn contract meddiannaeth, drwy gael eu cynnwys fel telerau sylfaenol. Mae’r Ddeddf yn pennu pa ddarpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i ba gontractau. Mewn rhai achosion bydd gofyn ymgorffori darpariaethau sylfaenol ym mhob contract meddiannaeth (yr angen i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract, er enghraifft), ac mewn achosion eraill ceir darpariaethau sy’n gymwys i gontractau penodol yn unig.
113.Bydd y datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau a ragnodir gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau o dan adran 29 yn cynnwys y telerau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i bob math o gontract meddiannaeth, a bydd y rhain yn adlewyrchu’r darpariaethau sylfaenol perthnasol sydd yn y Ddeddf, a ymgorfforir heb eu haddasu.
114.Yn ymarferol, bydd telerau sylfaenol y contract yn adlewyrchu geiriad darpariaethau sylfaenol y Ddeddf yn fanwl iawn, ac yn adran 33 gosodir terfynau ar yr hyn sy’n dderbyniol o ran newidiadau golygyddol.
115.Mae’r adran hon yn caniatáu i landlordiaid a deiliaid contract gytuno i beidio ag ymgorffori darpariaethau sylfaenol mewn contract meddiannaeth (ac eithrio’r darpariaethau sylfaenol a restrir yn is-adran (3), y mae’n rhaid eu hymgorffori heb eu haddasu bob tro). Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i’r prawf bod deiliad y contract o’r farn y byddai peidio ag ymgorffori’r teler yn gwella ei sefyllfa. Caiff landlordiaid a deiliaid contract hefyd, drwy gytundeb, addasu darpariaethau sylfaenol, ar yr amod bod deiliad y contract o’r farn y byddai’r addasiad yn gwella ei sefyllfa. Er enghraifft, gallai deiliad y contract fod o’r farn y byddai ei sefyllfa’n gwella pe na bai’r ddarpariaeth sylfaenol yn adran 173 (sy’n caniatáu i’r landlord derfynu’r contract drwy roi hysbysiad) yn cael ei hymgorffori, neu pe bai’r cyfnod hysbysu sy’n ofynnol o dan adran 174 yn cael ei addasu i’w gwneud yn ofynnol i’r landlord roi mwy na dau fis o rybudd. Pe bai’r landlord yn cytuno, byddai adran 20 yn caniatáu peidio ag ymgorffori’r telerau hynny, neu eu hymgorffori ynghyd ag addasiadau.
116.Rhaid ymgorffori’r darpariaethau sylfaenol a bennir yn adran 20(3) fel telerau sylfaenol ym mhob contract meddiannaeth y maent yn gymwys iddo, heb eu haddasu. Enghraifft o ddarpariaeth sylfaenol y mae’n rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu yw adran 55, sy’n ymwneud â gwahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad arall. Mae’r rhesymau pam y rhoddir y statws arbennig hwn i’r darpariaethau hyn yn amrywio o ddarpariaeth i ddarpariaeth, ac esbonnir hwy yn y nodiadau ar yr adrannau eu hunain.
117.O dan adrannau 34 a 35, os na ddarparwyd datganiad ysgrifenedig, neu os yw’n anghyflawn, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad ynghylch telerau’r contract. Os gwneir hynny, ac nad yw deiliad y contract ar fai, caiff pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n berthnasol i’r contract ei thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, onid yw deiliad y contract yn honni na chafodd ei hymgorffori, neu y cafodd ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau.
118.Os yw landlord a deiliad contract yn cytuno i addasu darpariaeth sylfaenol, neu i beidio â’i hymgorffori, mae adran 21 yn darparu ar gyfer addasu neu hepgor fel mater o drefn ddarpariaethau sylfaenol ac atodol eraill, y caniateir peidio â’u hymgorffori, neu eu haddasu, er mwyn rhoi effaith i’r cytundeb. Er enghraifft, os na chafodd y ddarpariaeth sylfaenol sy’n caniatáu gwneud hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol o dan gontract safonol cyfnodol (adran 181) ei hymgorffori, dylid hepgor hefyd y ddarpariaeth sylfaenol berthnasol sy’n cyfyngu ar ddefnyddio’r sail honno i feddiannu (yn adran 182). Mae’r adran hon yn sicrhau y byddai hynny’n digwydd.
119.Mae addasu fel mater o drefn, a hepgor ymgorffori fel mater o drefn, yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau â chytundeb i addasu neu beidio ag ymgorffori; ni ddylent arwain at addasu neu beidio ag ymgorffori unrhyw un o’r darpariaethau sylfaenol a restrir yn adran 20(3). Ystyr hynny yw, pe bai cytundeb i addasu neu i beidio ag ymgorffori darpariaeth sylfaenol, a bod hynny’n golygu na fyddai darpariaeth sylfaenol a restrir yn adran 20(3) yn cael ei hymgorffori, neu y byddai’n cael ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau, ni fyddai’r cytundeb i beidio ag ymgorffori’r ddarpariaeth sylfaenol, neu i ymgorffori’r ddarpariaeth honno ynghyd ag addasiadau (o dan adran (1) neu (2)), yn cael unrhyw effaith.
120.Gellir newid telerau sylfaenol contract meddiannaeth ar ôl gwneud y contract hefyd (cyfeirir at hyn yn y Ddeddf fel ‘amrywiad’). Mae terfynau, fodd bynnag, ar yr hawl hon ac mae’r terfynau’n amrywio rhwng contractau diogel (gweler Pennod 2 o Ran 5), contractau safonol cyfnodol (gweler Pennod 2 o Ran 6) a chontractau safonol cyfnod penodol (gweler Pennod 2 o Ran 7). Trafodir pob un o’r Penodau hynny ymhellach isod.
121.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu naill ai bod unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon), neu mewn is-ddeddfwriaeth, yn ddarpariaeth sylfaenol, neu nad yw’n ddarpariaeth sylfaenol. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaethau penodol sy’n bodoli eisoes yn ddarpariaethau sylfaenol, a sicrhau y gall hawliau a rhwymedigaethau newydd mewn deddfwriaeth a wneir yn y dyfodol ddod yn ddarpariaethau sylfaenol.
122.Mae Pennod 4 yn cyflwyno’r cysyniad o ddarpariaethau atodol, sef darpariaethau a gaiff eu nodi mewn rheoliadau, a’u hymgorffori fel telerau atodol mewn contractau meddiannaeth. Fel yn achos y rhan fwyaf o ddarpariaethau sylfaenol, gellir ymgorffori darpariaethau atodol mewn contractau meddiannaeth, neu beidio â’u hymgorffori o gwbl. Fodd bynnag, yn wahanol i ddarpariaethau sylfaenol, nid oes unrhyw gyfyngiad i’r perwyl fod rhaid i beidio ag ymgorffori, neu addasu, darpariaethau atodol, wella sefyllfa deiliad y contract. Felly, gallai addasu neu beidio ag ymgorffori wella sefyllfa naill ai’r landlord neu ddeiliad y contract.
123.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer pennu darpariaethau atodol mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Byddai enghreifftiau o ddarpariaethau atodol yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â chynnal gardd, neu ofyniad i dalu treth gyngor a biliau cyfleustod.
124.Y drefn ddiofyn yw fod darpariaethau atodol yn cael eu hymgorffori fel telerau atodol mewn contract meddiannaeth. Ond mae’r adran hon yn darparu y caiff landlordiaid a deiliaid contract gytuno i beidio ag ymgorffori darpariaeth atodol neu i’w hymgorffori ynghyd ag addasiadau. Fodd bynnag, pe bai peidio ag ymgorffori darpariaeth atodol neu addasu darpariaeth atodol yn peri bod y teler atodol cysylltiedig yn anghydnaws ag un o delerau sylfaenol y contract, ni fyddai’r cytundeb i beidio ag ymgorffori’r ddarpariaeth atodol wreiddiol neu i’w hymgorffori ynghyd ag addasiadau yn cael unrhyw effaith. Os yw landlord yn methu â darparu datganiad ysgrifenedig o’r contract, neu’n darparu datganiad anghyflawn, mae adrannau 34 a 36 yn galluogi deiliad y contract i wneud cais i’r llys am ddatganiad o’r telerau. Os yw hynny’n digwydd, ac nad yw deiliad y contract ar fai, caiff pob darpariaeth sylfaenol sy’n berthnasol i’r contract ei thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, oni bai bod deilad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori, neu ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau.
125.Os yw landlord a deiliad contract yn cytuno i addasu neu i beidio ag ymgorffori darpariaeth sylfaenol, mae adran 25 yn darparu ar gyfer addasu neu beidio ag ymgorffori darpariaethau atodol eraill fel mater o drefn er mwyn rhoi effaith i’r cytundeb.
126.Mae’r adran hon yn pennu’r materion allweddol y mae’n rhaid eu cynnwys ym mhob contract meddiannaeth, sef:
cyfeiriad yr annedd;
y dyddiad meddiannu (y dyddiad pan all deiliad y contract feddiannu’r annedd);
swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall; ac
y cyfnodau rhentu (er enghraifft, yn wythnosol neu’n fisol). Diffinnir ‘cyfnod rhentu’ yn adran 252.
127.Mae’r adran hon yn pennu’r materion ychwanegol y mae’n rhaid eu cynnwys ym mhob contract safonol, sef:
a yw’r contract yn un cyfnodol neu wedi ei wneud am gyfnod penodol;
os y’i gwnaed am gyfnod penodol, y cyfnod y’i gwnaed ar ei gyfer (am ba hyd y bydd y contract yn parhau, pa bryd y bydd yn cychwyn a pha bryd y daw i ben);
unrhyw gyfnodau pan na fydd hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref (er enghraifft i ganiatáu defnyddio llety myfyrwyr at ddibenion eraill yn ystod gwyliau).
128.Mae’r adran hon yn diffinio ‘telerau ychwanegol’ fel unrhyw delerau ac eithrio telerau sylfaenol, telerau atodol a thelerau sy’n ymwneud â materion allweddol. Gellir cynnwys telerau ychwanegol mewn contract i ymdrin â materion fel cadw anifeiliaid anwes. Fodd bynnag, ni chaiff telerau o’r fath wrthdaro â’r telerau sy’n ymwneud â materion allweddol, nac â thelerau sylfaenol ac atodol.
129.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiadau ysgrifenedig ‘enghreifftiol’ o gontractau meddiannaeth (mae’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract oherwydd adran 31).
130.Bydd y datganiadau ysgrifenedig hyn yn cynnwys y telerau sylfaenol ac atodol sy’n ymgorffori’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n berthnasol i’r holl ffurfiau ar gontractau heb eu haddasu. Felly, er enghraifft, bydd datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol ar gyfer contractau meddiannaeth diogel, contractau safonol cyfnod penodol a chontractau safonol cyfnodol.