Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 Cyflwyniad

Adran 1 – Trosolwg o’r Ddeddf hon

9.Mae Adran 1 yn rhoi trosolwg o’r Ddeddf ac yn disgrifio pob Rhan.

Rhan 2 Datblygu Cynaliadwy

Adran 2 – Datblygu Cynaliadwy

10.Mae’r adran hon yn gymwys i gyrff cyhoeddus sy’n cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â chynlluniau datblygu o dan Ran 6 o DCPhG 2004 neu geisiadau am ganiatâd cynllunio o dan Ran 3 o DCGTh 1990. Mae’r adran hon yn cadarnhau bod rhaid i gyrff cyhoeddus arfer eu swyddogaethau o ran cynlluniau datblygu a cheisiadau am ganiatâd cynllunio fel rhan o gyflawni datblygu cynaliadwy, fel bod datblygu a defnydd tir yn cyfrannu at wella llesiant Cymru.

11.Mae i’r term “cyrff cyhoeddus” yr un ystyr yn yr adran hon ag yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae’n cynnwys awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru.

12.Nid yw’r adran yn newid y gyfraith bresennol mewn perthynas â’r materion y mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau roi sylw iddynt wrth ymdrin â chais am ganiatâd cynllunio o dan Ran 3 o DCGTh 1990.

13.Mae’r adran yn disodli ac felly’n dirymu elfennau o adran 39 o DCPhG 2004.

Rhan 3 Cynllunio Datblygu

Adran 3 - Llunio ac adolygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru

14.Mae’r adran hon yn rhoi adrannau 60 i 60C yn lle adran 60 o DCPhG 2004 (a oedd yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru).

15.Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru. Mae’r Fframwaith yn nodi polisïau cenedlaethol mewn perthynas â datblygu a defnyddio tir yng Nghymru, gan adlewyrchu polisïau’r Llywodraeth, a chan ystyried polisïau morol a thrafnidiaeth a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Gall y Fframwaith hefyd nodi’r hyn a all fod yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, gweler y nodiadau ar Ran 5, isod). Mae’r Fframwaith yn cael effaith ar gyfer y cyfnod y mae’n ei bennu.

16.Mae adran 60A yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi datganiad ynghylch ymgysylltu â’r cyhoedd. Caiff Gweinidogion adolygu a diwygio’r datganiad unrhyw bryd. Rhaid i’r datganiad nodi sut a phryd y bydd ymgynghori’n digwydd a sut y bydd y cyhoedd yn ymwneud â pharatoi’r Fframwaith. 12 wythnos o ddyddiad cyhoeddi’r Fframwaith drafft yw’r cyfnod ymgynghori.

17.Mae adran 60B yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal arfarniad o gynaliadwyedd o ran y Fframwaith drafft. Rhaid i’r arfarniad gynnwys asesiad o effeithiau tebygol y polisïau yn y Fframwaith drafft ar y defnydd o’r Gymraeg.

18.Mae adran 60B hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod y Fframwaith drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag adroddiad sy’n crynhoi’r sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ac yn egluro sut y cawsant eu hystyried. Mae gan y Cynulliad gyfnod craffu o 60 diwrnod o’r dyddiad y caiff y drafft ei osod, gan ddiystyru unrhyw ddyddiau y mae’r Cynulliad wedi ei ddiddymu ac unrhyw doriadau o fwy na phedwar diwrnod.

19.Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad y mae’r Cynulliad yn ei basio neu unrhyw argymhelliad a wneir gan bwyllgor o’r Cynulliad am y Fframwaith drafft yn ystod y cyfnod craffu.

20.Ar ôl y cyfnod craffu o 60 diwrnod caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r Fframwaith. Fodd bynnag, os yw Gweinidogion Cymru yn cynnig newidiadau i’r Fframwaith, rhaid iddynt osod drafft diwygiedig gerbron y Cynulliad a chyhoeddi’r fersiwn honno. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, wrth gyhoeddi’r Fframwaith ar ei ffurf derfynol, osod datganiad gerbron y Cynulliad yn egluro sut y maent wedi rhoi sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Cynulliad neu unrhyw argymhelliad gan bwyllgor o’r Cynulliad a wnaed yn ystod y cyfnod craffu.

21.Mae adran 60C yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r Fframwaith yn barhaus. Gellir diwygio’r Fframwaith unrhyw bryd. Os bydd 5 mlynedd yn mynd heibio heb gyhoeddi Fframwaith diwygiedig neu heb osod diwygiad drafft gerbron y Cynulliad, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad yn datgan a ydynt o’r farn y dylid diwygio’r Fframwaith ac yn rhoi rhesymau. Os yw’r Fframwaith i’w ddiwygio, mae’r un gweithdrefnau ar gyfer ymgynghori a chraffu ag a ddisgrifir uchod yn gymwys.

Adran 4: Dynodi ardaloedd cynllunio strategol a sefydlu Paneli Cynllunio Strategol

22.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 60D i 60G i DCPhG 2004.

23.Mae adran 60D yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddynodi ardal gynllunio strategol ac i sefydlu panel cynllunio strategol ar gyfer yr ardal honno. Rhaid i ardal gynllunio strategol gynnwys y cyfan o ardal un awdurdod cynllunio lleol a’r cyfan neu ran o ardal o leiaf un awdurdod arall.

24.Mae adran 60D hefyd yn cyflwyno Atodlen 2A i DCPhG 2004. Mae Atodlen 2A yn cynnwys darpariaeth am aelodaeth, gweinyddiaeth a threfniadau ariannol panel cynllunio strategol. Caiff ei fewnosod yn DCPhG 2004 gan Atodlen 1 i’r Ddeddf.

25.Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 60D, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi dyroddi cyfarwyddyd o dan adran 60E i un neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol, a rhaid bod y rheini naill ai wedi cyflwyno cynnig ar gyfer dynodi ardal neu fod wedi methu â gwneud hynny o fewn y cyfnod penodedig. (Nid yw’r gofynion hyn yn gymwys i reoliadau sy’n diwygio neu’n dirymu rheoliadau blaenorol sy’n dynodi panel.) Hefyd, rhaid bod Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad, os oes angen. Nodir yr amgylchiadau pan fo ymgynghori yn ofynnol yn adran 60F ac fe’u disgrifir isod.

26.Mae adran 60E yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo un awdurdod cynllunio lleol neu ragor i gyflwyno cynnig am ardal gynllunio strategol. Rhaid i Weinidogion Cymru roi eu rhesymau dros roi’r cyfarwyddyd. Gelwir yr awdurdod neu’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n derbyn y cyfarwyddyd yn “awdurdod cyfrifol”. Rhaid i’r awdurdod cyfrifol: baratoi cynnig ar gyfer dynodi ardal gynllunio strategol, gan gynnwys map o’r ffin; ymgynghori ar ei gynnig; a chyflwyno’r holl wybodaeth i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod penodol. Chwe mis yw’r cyfnod penodol hwn, oni bai y nodir cyfnod yn y cyfarwyddyd. Gellir ymestyn y cyfnod hwn os bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno. Ar ôl derbyn cynnig, caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen i wneud rheoliadau i sefydlu’r panel cynllunio strategol a dynodi’r ardal. Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â dynodi ardal, rhaid iddynt roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw a’r rhesymau amdano i’r awdurdod cyfrifol a phob awdurdod arall sydd wedi ei gynnwys yn y cyfarwyddyd.

27.Mae Adran 60F yn nodi’r gofynion o ran ymgynghori: os nad yw Gweinidogion Cymru yn cytuno â’r cynnig a gyflwynwyd gan yr awdurdod cyfrifol; os na chyflwynwyd unrhyw gynnig yn y cyfnod a bennwyd gan yr awdurdod cyfrifol; neu os yw rheoliadau i gael eu diwygio neu eu dirymu. Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno dynodi ardal gynllunio strategol wahanol i’r un a gynigiwyd gan yr awdurdod cyfrifol, rhaid iddynt ymgynghori â’r awdurdodau cynllunio lleol hynny sydd o fewn yr ardal y maent am ei dynodi. Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu newid ardal gynllunio strategol bresennol, rhaid iddynt ymgynghori â’r awdurdodau cynllunio lleol o fewn yr ardal honno.

28.Mae adran 60G yn darparu, os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud cais am wybodaeth gan awdurdodau cynllunio lleol, y mae ei hangen arnynt i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â dynodi ardaloedd cynllunio strategol, fod rhaid i’r awdurdodau ddarparu’r wybodaeth.

Adran 5 - Ardaloedd cynllunio strategol: arolwg

29.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 60H i DCPhG 2004.

30.Mae adran 60H yn darparu bod rhaid i baneli cynllunio strategol adolygu’n barhaus faterion y disgwylir iddynt effeithio ar ddatblygiad yr ardal gynllunio strategol. Gwna hyn drwy wneud adran 61(2) i (5) o DCPhG 2004 yn gymwys i baneli cynllunio strategol. Mae adran 61(2) yn rhestru materion y mae’n rhaid eu hadolygu’n barhaus, megis prif nodweddion ardal, y dibenion y defnyddir tir ar eu cyfer, y boblogaeth, systemau cyfathrebu a thrafnidiaeth. (Mae adran 11 o’r Ddeddf hefyd yn diwygio adran 61(2) drwy ddiweddaru’r materion a grybwyllir ym mharagraff (a) fel bod rhaid i’r adolygiad o brif nodweddion yr ardal gynllunio strategol gynnwys ystyriaeth o’r graddau y defnyddir y Gymraeg yn yr ardal.)

31.Yn ogystal â’r materion a restrir yn adran 61(2), mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i banel cynllunio strategol adolygu unrhyw newidiadau a all ddigwydd mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion eraill a’u heffaith ar ddatblygiad yr ardal gynllunio strategol neu ar gynllunio datblygiad o’r fath. Mae is-adran (4) yn ymestyn yr adolygiad o’r materion a restrir yn is-adrannau (2) a (3) i ystyried y materion hynny mewn unrhyw ardal gyfagos a allai effeithio ar yr ardal gynllunio strategol. Mae is-adran (5) yn gosod gofyniad ar banel i ymgynghori ag awdurdodau cynllunio lleol cyfagos at ddiben cynnal adolygiad o faterion mewn cysylltiad ag ardal gyfagos.

Adran 6: Llunio ac adolygu Cynlluniau Datblygu Strategol

32.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 60I i DCPhG 2004.

33.Mae adran 60I yn ei gwneud yn ofynnol i banel cynllunio strategol baratoi a mabwysiadu cynllun datblygu strategol. Mae cynllun datblygu strategol yn nodi amcanion mewn perthynas â defnydd a datblygiad tir a pholisïau cyffredinol ar gyfer gwireddu’r amcanion hynny. Rhaid i’r cynllun datblygu strategol gydymffurfio’n gyffredinol â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

34.O ran yr ymadrodd “cydymffurfio’n gyffredinol” (“general conformity”) a ddefnyddir yn yr adran hon, ystyriodd y Llys Apêl ystyr y gofyniad i gynlluniau strwythurol a chynlluniau lleol gydymffurfio’n gyffredinol yn achos Persimmon Homes (Thames Valley) Limited v Stevenage Borough Council [2005] EWCA Civ 1365. Honnodd yr Arglwydd Ustus Laws, oherwydd y cyfnodau arwain maith ar gyfer gweithredu cynlluniau, y dylid ymdrin yn hyblyg â’r ymadrodd “cydymffurfio’n gyffredinol” er mwyn adlewyrchu’r amrywiol bethau annisgwyl a newidiol a allai godi. Mater o farn gynllunio i’r awdurdodau cynllunio (yr awdurdod cynllunio lleol yn yr achos hwnnw) oedd pa un a yw cynlluniau yn cydymffurfio’n gyffredinol. Disgwylir y byddai’r agwedd hon hefyd yn gymwys i gydymffurfio rhwng cynlluniau datblygu strategol a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

35.Mae’r panel cynllunio strategol i roi sylw i faterion penodol wrth baratoi cynllun datblygu strategol. Rhaid i gynlluniau datblygu strategol fod yn destun arfarniad o gynaliadwyedd, a rhaid i’r arfarniad hwnnw gynnwys asesiad o effeithiau tebygol y cynllun ar y defnydd o’r Gymraeg. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch ffurf a chynnwys cynlluniau datblygu strategol a chyfnod y cynllun. Mae’r cynllun datblygu strategol yn cael effaith fel cynllun datblygu am y cyfnod a bennir yn y cynllun.

36.Mae adran 60J yn nodi sut y bydd adrannau perthnasol yn Rhan 6 o DCPhG 2004, sy’n darparu ar gyfer sut y mae cynllun datblygu lleol yn cael ei baratoi, yn gymwys i gynlluniau datblygu strategol. Mae’r rhan fwyaf o’r adrannau hynny yn gymwys yn yr un ffordd ag y maent yn gymwys i gynlluniau datblygu lleol, ac yn sgil hynny mae’r broses gyffredinol ar gyfer paratoi, mabwysiadu ac adolygu cynllun datblygu strategol yr un fath. Mae’r broses o baratoi cynllun datblygu lleol a nodir yn Rhan 6 o DCPhG 2004 ac mewn rheoliadau, yn cynnwys adolygu a datblygu sylfaen dystiolaeth; paratoi a chyflwyno cynllun darparu; paratoi’r cynllun cyn-adneuo; adneuo’r cynllun; cyflwyno’r cynllun ar gyfer archwiliad annibynnol (i’r Arolygiaeth Gynllunio a benodir gan Weinidogion Cymru); derbyn adroddiad yr Arolygydd sy’n nodi’r newidiadau sydd eu hangen i’r cynllun a adneuwyd; a mabwysiadu a chyhoeddi’r cynllun. Mae cynllun datblygu lleol hefyd yn destun gweithdrefnau monitro ac adolygu.

37.Mae gan Weinidogion Cymru bŵer yn rhinwedd adran 60J i ymyrryd drwy gyfarwyddyd neu i alw’r cynllun i mewn i’w gymeradwyo ganddynt.

Adran 7 - Cydymffurfedd cynlluniau penodol â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r cynllun datblygu strategol

38.Mae’r adran hon yn diwygio adran 62 o DCPhG 2004. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gynllun datblygu lleol gydymffurfio’n gyffredinol â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ac unrhyw gynllun datblygu strategol ar gyfer ardal yr awdurdod cynllunio lleol (gweler paragraff 34 uchod am sylwadau ar y term “cydymffurfio’n gyffredinol”).

39.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 83 o DCGTh 1990 mewn perthynas â chynlluniau parthau cynllunio syml a wneir gan awdurdodau cynllunio lleol. (O dan adran 82 o DCGTh 1990, ardal y mae cynllun parth cynllunio syml mewn grym ynddi yw parth cynllunio syml. Mewn unrhyw ran o’r parth, rhoddir caniatâd cynllunio i ddatblygiad a bennir yn y cynllun neu i ddatblygiad o unrhyw ddosbarth a bennir mewn rheoliadau.) Mae’r diwygiad i adran 83 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun parth cynllunio syml yng Nghymru gydymffurfio’n gyffredinol â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ac unrhyw gynllun datblygu strategol perthnasol.

Adran 8 - Dyletswydd i ystyried pa un ai i adolygu Cynllun Datblygu Lleol

40.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 68A i DCPhG 2004. Mae’n darparu, yn dilyn cyhoeddi neu ddiwygio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol neu fabwysiadu neu gymeradwyo cynllun datblygu strategol, bod rhaid i awdurdod cynllunio lleol ystyried pa un ai i gynnal adolygiad o’i gynllun datblygu lleol.

41.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i adran 69 o DCPhG 2004. (Mae adran 69 yn ymdrin ag adolygu cynlluniau datblygu lleol.)

Adran 9 - Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r Cynllun Datblygu Strategol i fod yn rhan o’r cynllun datblygu

42.Mae’r adran hon yn diwygio adran 38(4) o DCPhG 2004 fel bod y cynllun datblygu ar gyfer unrhyw ardal yng Nghymru yn cynnwys y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, y cynllun datblygu strategol a’r cynllun datblygu lleol.

43.Mae adran 70 o DCGTh 1990 yn datgan bod rhaid i awdurdod lleol, wrth ymdrin â chais ar gyfer caniatâd cynllunio, roi sylw i’r cynllun datblygu ac ystyriaethau perthnasol eraill. Mae adran 38(6) o DCPhG 2004 yn ei gwneud yn ofynnol, os yw sylw i’w roi i gynllun datblygu, bod rhaid penderfynu ar geisiadau yn unol â’r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn awgrymu fel arall. Effaith y diwygiad a wneir gan adran 9 yw bod rhaid i awdurdodau cynllunio lleol roi sylw i bob un o’r tri chynllun wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Os oes gwrthdaro rhwng y tri chynllun datblygu, mae adran 38(5) o DCPhG 2004 yn darparu bod hyn yn cael ei ddatrys drwy weithredu’n unol â’r ddogfen ddiweddaraf.

Adran 10 -Tir y mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol neu’r Cynllun Datblygu Strategol yn effeithio arno

44.Mae gwerth eiddo yn aml yn cwympo pan fydd gwaith cyhoeddus, fel traffordd neu reilffordd newydd, yn effeithio arno; gelwir hyn yn “falltod”. Mae Rhan 6 ac Atodlen 13 o DCGTh 1990 yn ymdrin â thir o dan falltod ac yn darparu y gall tirfeddianwyr a effeithiwyd, mewn amgylchiadau penodol, ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol brynu eu tir.

45.Mae adran 149 yn Rhan 6 o DCGTh 1990 yn cyflwyno Atodlen 13, sy’n nodi’r hyn y gellir ei drin fel tir o dan falltod (ni fydd pob tir y mae datblygiad arfaethedig yn effeithio arno yn “dir o dan falltod”). Fel arall mae darpariaethau yn Rhan 6 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer perchennog tir o dan falltod i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gaffael buddiant y perchennog yn y tir.

46.O dan adran 150 yn Rhan 6, o fodloni amodau penodol, gall perchennog tir sydd o’r farn bod cynigion awdurdod cyhoeddus yn golygu ei fod o dan falltod roi hysbysiad i’r awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol iddo brynu buddiant y perchennog yn y tir. Pris y tir yw ei werth ar y farchnad gan anwybyddu effeithiau’r datblygiad sy’n creu’r malltod.

47.Gwneir diwygiadau canlyniadol yn yr adran hon i Ran 6 o DCGTh 1990 ac Atodlen 13 iddi o ganlyniad i gyflwyno’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r cynlluniau datblygu strategol. Caiff cyfeiriadau at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r cynllun datblygu strategol eu mewnosod yn Atodlen 13. Mae’r adran hon hefyd yn rhoi pwerau prynu gorfodol i Weinidogion Cymru pan fo hysbysiad malltod wedi ei gyflwyno mewn cysylltiad â thir sydd wedi ei neilltuo at ddibenion penodol yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Effaith hyn yw bod perchenogion tir y mae cynigion yn y Fframwaith neu mewn cynllun datblygu strategol yn golygu ei fod o dan falltod i’w trin yn yr un modd â’r rheini y mae cynigion cynllunio eraill yn effeithio arnynt.

Adran 11 - Y Gymraeg

48.Mae adran 11 yn diwygio adrannau 61 a 62 o DCPhG 2004.

49.Effaith y diwygiad i adran 61 yw bod rhaid i’r materion sy’n effeithio ar ddatblygiad yr ardal sydd i’w hadolygu’n barhaus bellach gynnwys y defnydd o’r Gymraeg. Mae hyn yn gymwys i awdurdodau cynllunio lleol ac (yn rhinwedd adran 5 o’r Ddeddf) i baneli cynllunio strategol.

50.Mae’r diwygiad i adran 62 yn ei gwneud yn ofynnol i arfarniad o gynaliadwyedd y cynllun datblygu lleol gynnwys asesiad o effeithiau tebygol y cynllun ar y defnydd o’r Gymraeg.

Adran 12 - Y cyfnod y bydd cynllun datblygu lleol yn cael effaith

51.Mae’r adran hon yn diwygio adran 62 o DCPhG 2004. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gynllun datblygu lleol bennu cyfnod y mae’r cynllun yn cael effaith ynddo ac ar ôl y cyfnod hwnnw, bydd y cynllun yn peidio â bod yn gynllun datblygu. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau ynghylch cyfnod y cynllun.

Adran 13 - Tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl

52.Mae’r adran hon yn rhoi adrannau 66 a 66A newydd yn lle adran o 66 DCPhG 2004.

53.Effaith yr adran 66 newydd yw bod gan Weinidogion Cymru bŵer i gyfarwyddo awdurdod cynllunio lleol i dynnu ei gynllun datblygu lleol yn ôl unrhyw bryd cyn i’r cynllun gael ei fabwysiadu. Rhaid i Weinidogion Cymru roi rhesymau dros y cyfarwyddyd.

54.Mae’r adran 66A newydd o DCPhG 2004 yn disgrifio sut y gellir tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl os na cheir unrhyw gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru. Mae adran 66A(3)(a) yn darparu na chaiff awdurdod cynllunio lleol dynnu’r cynllun yn ôl os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i awdurdod cynllunio lleol gyflwyno’r cynllun datblygu lleol iddynt i’w gymeradwyo yn unol ag adran 65(4) (a gall hynny fod unrhyw bryd cyn mabwysiadu cynllun datblygu lleol).

55.Yn yr un modd, ni chaiff awdurdod cynllunio lleol dynnu cynllun datblygu lleol yn ôl os nad yw Gweinidogion Cymru wedi cymryd unrhyw gam yn ymwneud â’r cynllun o dan adran 71 (ymyrraeth gan Weinidogion Cymru). Mae adran 71 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod awdurdod cynllunio lleol yn methu â gwneud unrhyw beth neu’n hepgor gwneud unrhyw beth sy’n angenrheidiol mewn cysylltiad â pharatoi, diwygio neu fabwysiadu cynllun datblygu lleol. Ymysg y camau y gall Gweinidogion Cymru eu cymryd yn unol ag adran 71 mae cynnal archwiliad annibynnol (y mae adran 64(4) i (7) yn gymwys iddo), paratoi, diwygio a chymeradwyo cynllun datblygu lleol (gweler is-adran (3)(b)).

56.Ar ôl i gynllun datblygu lleol gael ei gyflwyno i’w archwilio’n annibynnol, ni ellir ei dynnu’n ôl ond ar sail argymhelliad yr archwilydd a chyn belled nad yw Gweinidogion Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn (gweler is-adran (4)).

57.Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol dynnu cynllun yn ôl os yw wedi cyrraedd cam a bennir mewn rheoliadau (ee cyhoeddi cynigion cyn-adneuo neu gynllun a adneuwyd neu gam arall yn natblygiad y cynllun) ac nad yw wedi’i gyflwyno i’w archwilio eto, oni bai bod yr awdurdod cynllunio lleol wedi rhoi hysbysiad o’i fwriad i dynnu ei gynllun yn ôl i Weinidogion Cymru a bod cyfnod yr hysbysiad sy’n ymwneud â’r bwriad i dynnu’n ôl wedi dod i ben (gweler is-adrannau (5) a (6)). Pennir y cyfnod hysbysu ar gyfer tynnu’n ôl mewn rheoliadau, gweler is-adran (9).

58.Unwaith y bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn hysbysiad o fwriad awdurdod cynllunio lleol i dynnu cynllun yn ôl, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod i ddarparu gwybodaeth bellach a/neu ymestyn y cyfnod hysbysu (gweler is-adran (7)).

59.Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gynnwys darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiad o fwriad i dynnu cynllun datblygu lleol yn ôl (gweler is-adran (8)).

Adran 14 - Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod cynllun datblygu lleol yn cael ei lunio ar y cyd

60.Mae’r adran hon yn diwygio adran 72 o DCPhG 2004, sy’n caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol baratoi cynllun datblygu lleol ar y cyd. Effaith y diwygiad yw rhoi pŵer newydd i Weinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol i baratoi cynllun datblygu lleol ar y cyd a’i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddatgan eu rhesymau dros wneud hynny. Nid yw’r pŵer hwn yn ymestyn i awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

61.Rhaid i’r awdurdodau a gyfarwyddir weithredu ar y cyd wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol (gan gynnwys y swyddogaethau o baratoi, mabwysiadu a diwygio cynllun datblygu lleol). Ceir darpariaethau eraill sy’n ymdrin â’r sefyllfa lle tynnir cyfarwyddyd yn ôl mewn perthynas ag un awdurdod, neu bob awdurdod (drwy weithredu darpariaethau sy’n bodoli eisoes ynghylch yr hyn sy’n digwydd os bydd awdurdod yn tynnu’n ôl o gytundeb i baratoi cynllun datblygu lleol ar y cyd).

Adran 15 - Byrddau cydgynllunio: swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygon a Chynlluniau Datblygu Lleol

62.Mae gan Weinidogion Cymru bŵer ar hyn o bryd o dan adran 2(1B) o DCGTh 1990 i sefydlu bwrdd cydgynllunio i fod yn awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ardal unedig sy’n cynnwys dwy ardal neu ragor, pob un ohonynt yn sir neu’n fwrdeistref sirol gyfan, neu’n rhan o sir neu fwrdeistref sirol, yng Nghymru.

63.Mae adran 15 yn diwygio’r diffiniad o “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yn adran 78 o DCPhG 2004 i gynnwys bwrdd cydgynllunio. Effaith y diwygiad yw galluogi bwrdd cydgynllunio i baratoi cynllun datblygu lleol a gweithredu fel awdurdod codi tâl at ddibenion ardoll seilwaith cymunedol ei ardal. (Gweler Rhan 11 o Ddeddf Cynllunio 2008 am yr ardoll seilwaith cymunedol.)

64.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 62 o DCPhG 2004 i’w gwneud yn ofynnol i fwrdd cydgynllunio roi sylw i’r cynllun neu’r cynlluniau llesiant lleol ar gyfer ei ardal wrth baratoi cynllun datblygu lleol. (Gweler adran 39 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 am gynlluniau llesiant lleol.)

65.Mae adran 41 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau i’r pŵer i sefydlu byrddau cydgynllunio, gweler paragraffau 161 i 163 isod.

Adran 16 - Cynllunio datblygu: diwygiadau pellach

13.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 2. Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i amryw Ddeddfau.

Rhan 4 – Y weithdrefn cyn ymgeisio

Adran 17 - Gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio

67.Mae’r adran hon yn mewnosod Adran 61Z i DCGTh 1990.

68.Effaith yr adran newydd yw bod rhaid i ymgynghoriad cyn ymgeisio gael ei gynnal gan y rheini sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd am ddatblygiad o fath a bennir mewn gorchymyn datblygu a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae’r mathau o ddatblygiad y gellid eu pennu at ddibenion y ddarpariaeth hon yn cynnwys, er enghraifft, ddatblygiad mawr a datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol. Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig mewn ffordd y disgwylir iddi ddwyn y cynnig i sylw perchenogion a meddianwyr eiddo gerllaw safle’r datblygiad. Caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy orchymyn datblygu, bersonau eraill y mae’n rhaid i’r ceisydd ymgynghori â hwy ynglŷn â’r cais arfaethedig.

69.Ni fydd y ddyletswydd yn gymwys i ddatblygiadau brys gan y Goron nac i unrhyw achosion eraill a allai gael eu pennu mewn gorchymyn datblygu. Ymysg yr achosion y gellid eu pennu mewn gorchymyn datblygu mae ceisiadau am ganiatâd cynllunio i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio blaenorol, er enghraifft, a cheisiadau am fân ddiwygiadau perthnasol i ganiatâd cynllunio.

70.O dan adran 61Z caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach ynghylch y broses ymgynghori mewn gorchymyn datblygu, gan gynnwys ffurf a chynnwys dogfennau ymgynghori; gwybodaeth a deunyddiau eraill sydd i’w rhoi i gymdogion ac ymgyngoreion penodedig; ac amserlenni. Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i ymgyngoreion ymateb i’r ymgynghoriad mewn modd penodol ac o fewn amser penodol, ac adrodd wrth Weinidogion Cymru ar sut y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion o’r fath.

71.Mae adran 17 hefyd yn mewnosod is-adrannau (9), (10) ac (11) i adran 62 o DCGTh 1990. Mae’r is-adrannau newydd hyn yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol mewn gorchymyn datblygu i geisiadau cynllunio ddod gydag adroddiad ymgynghori pan fo’r ceisydd wedi gorfod cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio. Rhaid i’r adroddiad gynnwys manylion yr ymgynghoriad cyn ymgeisio y mae’r ceisydd wedi ei gynnal, yr ymatebion a dderbyniwyd iddo a sut y mae’r ceisydd wedi ystyried yr ymatebion hynny. Caiff gorchymyn datblygu wneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys yr adroddiad ymgynghori.

Adran 18 - Gofyniad i ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio

72.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 61Z1 a 61Z2 i DCGTh 1990.

73.Mae adran 61Z1 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau cyn ymgeisio gan awdurdodau cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru. Bwriad gwasanaethau cyn ymgeisio yw cynorthwyo person sy’n bwriadu gwneud cais cynllunio. Caiff y rheoliadau nodi pryd y mae gofyn darparu gwasanaethau cyn ymgeisio; natur y gwasanaethau sydd i’w darparu; a’r gofynion o ran cyhoeddi gwybodaeth a dogfennau’n ymwneud â darparu’r gwasanaethau hynny.

74.Gallai natur y gwasanaethau sydd i’w darparu gynnwys, er enghraifft, ddarparu manylion polisïau a chanllawiau cynllunio perthnasol neu farn swyddogion cynllunio ar rinweddau cynnig.

75.Mae 61Z2 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru gadw cofnodion o’r gwasanaethau cyn ymgeisio a chyhoeddi gwybodaeth am y mathau o wasanaethau cyn ymgeisio a ddarperir.

Rhan 5 Ceisiadau i Weinidogion Cymru

Adran 19 - Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatâd cynllunio

76.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 62D a 62E i DCGTh 1990.

77.Mae adran 62D yn ei gwneud yn ofynnol bod ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol (“DAC”) yn cael eu gwneud i Weinidogion Cymru. Mae cais DAC yn gais am ganiatâd cynllunio (ac eithrio caniatâd cynllunio amlinellol) ar gyfer datblygu tir yng Nghymru, lle mae’r datblygiad arfaethedig o arwyddocâd cenedlaethol. (Caniatâd a roddir yn ddarostyngedig i gadw materion manwl yn ôl i’w cymeradwyo yn nes ymlaen yw caniatâd cynllunio amlinellol.)

78.Caiff Gweinidogion Cymru roi “arwyddocâd cenedlaethol” i ddatblygiad mewn dwy ffordd.

79.Yn gyntaf, caiff Gweinidogion Cymru nodi meini prawf ar gyfer DAC mewn rheoliadau. Bydd datblygiad yng Nghymru o arwyddocâd cenedlaethol os yw’n bodloni’r meini prawf hynny. Er enghraifft, gallai rheoliadau roi arwyddocâd cenedlaethol i orsafoedd ar y tir sy’n cynhyrchu swm penodol o ynni, neu ddatblygiad ar raddfa benodol sy’n gysylltiedig â maes awyr a rheilffordd.

80.Yn ail, bydd datblygiad yng Nghymru o arwyddocâd cenedlaethol os yw’n cael ei ddisgrifio felly yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

81.Nid yw cais am ganiatâd cynllunio i amrywio’r amodau sy’n atodedig i ganiatâd cynllunio blaenorol (boed ar gyfer DAC neu ddatblygiad arall) i gael ei drin fel cais DAC oni bai ei fod o ddisgrifiad a ragnodir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru.

82.Rhaid i berson sy’n bwriadu gwneud cais DAC hysbysu Gweinidogion Cymru a’r awdurdod cynllunio lleol y byddai’r cais wedi’i gyflwyno iddo fel arall. Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth, mewn gorchymyn datblygu, o ran ffurf a chynnwys hysbysiad, yr wybodaeth sydd i fynd gyda’r hysbysiad, a’r ffordd y mae’n rhaid rhoi’r hysbysiad a’r cyfnod ar gyfer gwneud hynny.

83.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r person sy’n gwneud y cais bod yr hysbysiad wedi dod i law. Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch rhoi hysbysiad o’r fath. Gall hyn gynnwys darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys yr hysbysiad, y ffordd y caiff ei roi, ac o fewn pa gyfnod y caiff ei roi. Nid yw unrhyw gam a gymerir mewn cysylltiad â chais cyn i hysbysiad o’r fath gael ei roi yn cyfrif fel ymgynghoriad ynghylch y cais, sy’n golygu bod rhaid hysbysu Gweinidogion Cymru am geisiadau arfaethedig cyn cynnal ymgynghoriad. Gallai gofyniad i ymgynghori godi pan fo ceisiadau DAC wedi eu rhagnodi mewn gorchymyn datblygu at ddibenion adran 61Z (a fewnosodwyd gan adran 17).

Adran 20 - Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cydsyniadau eilaidd

84.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 62F, 62G a 62H i DCGTh 1990.

85.Mae adran 62F yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau ar gydsyniadau sy’n gysylltiedig, yn eu barn hwy, â chais ar gyfer DAC, yn hytrach na’r awdurdod cydsynio arferol. Mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gydsyniad eilaidd yn derfynol, sy’n golygu nad oes hawl i apelio i Weinidogion Cymru.

86.Mae adran 62G yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i’r awdurdod cydsynio arferol i wneud pethau mewn perthynas â chydsyniad eilaidd. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch sut y mae Gweinidogion Cymru yn ymdrin â chydsyniad eilaidd, gan gynnwys trefniadau ymgynghori. Caiff rheoliadau ddarparu bod deddfiadau neu ofynion eraill mewn cysylltiad â chydsyniadau eilaidd i gael eu cymhwyso gyda newidiadau neu i beidio â chael eu cymhwyso, lle bo penderfyniadau i gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Er enghraifft, efallai bod angen addasu amserlen sy’n gymwys i gydsyniad eilaidd i gyd-fynd â’r amserlen ar gyfer dyfarnu ar gais DAC.

87.Mae adran 62H yn diffinio cydsyniad eilaidd ac yn nodi pryd y mae’n gysylltiedig â chais am DAC. Cydsyniad sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r datblygiad arfaethedig yw cydsyniad eilaidd. Mae’r adran yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi cydsyniadau eilaidd mewn rheoliadau. Gallai cydsyniadau eilaidd gynnwys:

a.

caniatâd cynllunio amlinellol neu lawn ar gyfer datblygiad sy’n gysylltiedig â’r datblygiad DAC, megis ffyrdd mynediad, swyddfeydd neu ganolfannau ymwelwyr;

b.

cymeradwyaeth i faterion wrth gefn ar gyfer datblygiad cysylltiedig;

c.

cydsyniad adeilad rhestredig o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

d.

cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 2 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979;

e.

cyfnewid tir comin o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006;

f.

cydsyniad ar gyfer gwaith ar dir comin o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

Adran 21 - Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: adroddiadau effaith lleol

88.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 62l, 62J a 62K i DCGTh 1990 ac yn gwneud darpariaeth ynghylch adroddiadau ar yr effaith leol. Mae adroddiad ar yr effaith leol yn disgrifio effaith datblygiad arfaethedig ar yr ardal (gweler adran 62K a pharagraff 92 isod).

89.Mae adran 62I yn gwneud darpariaeth ynghylch sut mae cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol mewn perthynas â cheisiadau DAC o dan adran 62D. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod cynllunio lleol perthnasol, yn ei gwneud yn ofynnol darparu adroddiad ar yr effaith leol mewn cysylltiad â’r cais am DAC. Rhaid i awdurdod y rhoddir hysbysiad iddo gyflwyno adroddiad. Mae awdurdod cynllunio lleol yn ‘awdurdod cynllunio lleol perthnasol’ os yw’r darn cyfan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu ran ohono, yn ardal yr awdurdod.

90.Mae adran 62J yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i gynnwys unrhyw adroddiad ar yr effaith leol a gyflwynir iddynt gan awdurdod cynllunio lleol perthnasol.

91.Caiff unrhyw awdurdod cynllunio lleol arall ac unrhyw gyngor cymuned gyflwyno adroddiad gwirfoddol ar yr effaith leol mewn perthynas â chais am DAC. Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw adroddiad o’r fath wrth ymdrin â chais. Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn gorchymyn datblygu ynghylch sut i gyflwyno adroddiadau gwirfoddol ar yr effaith leol. Er enghraifft, gellid gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae adroddiad gwirfoddol ar yr effaith leol i’w gyflwyno i Weinidogion Cymru, neu ynghylch y cyfnodau ar gyfer cyflwyno adroddiad o’r fath.

92.Mae adran 62K yn darparu mai adroddiad ysgrifenedig yw adroddiad ar yr effaith leol sy’n rhoi manylion effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar ardal yr awdurdod neu’r cyngor cymuned, ac sy’n cydymffurfio ag unrhyw ofynion a nodir mewn gorchymyn datblygu. Er enghraifft, gellid gwneud darpariaeth yn pennu ffurf a chynnwys adroddiad o’r fath, megis yr wybodaeth sydd i’w darparu i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r tir o dan sylw.

Adran 22 - Yr amserlen ar gyfer penderfynu ceisiadau

93.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 62L i DCGTh 1990.

94.Mae adran 62L yn pennu bod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i benderfynu ynghylch cais ar gyfer DAC, ac unrhyw gais mewn perthynas â chydsyniad eilaidd sy’n gysylltiedig ag ef, cyn diwedd y “cyfnod penderfynu”. Cyfnod o 36 o wythnosau yw hwn, sy’n dechrau ar y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn derbyn y cais. Rhaid i Weinidogion Cymru roi adroddiad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y modd y maent yn cydymffurfio â’r ddyletswydd hon.

95.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu cyfnod gwahanol fel y cyfnod penderfynu. Cânt hefyd, drwy orchymyn datblygu, bennu beth yw ystyr “derbyn” cais (“acceptance”). Er enghraifft, gallai gorchymyn o’r fath ddarparu bod derbyn cais yn amodol ar Weinidogion Cymru yn cadarnhau eu bod yn fodlon fod cais yn cydymffurfio â’r holl ofynion a ragnodwyd.

96.Mae’r adran hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, i atal dros dro’r cyfnod penderfynu mewn unrhyw achos penodol, ac i derfynu, i leihau neu i ymestyn unrhyw gyfnod atal dros dro. Rhaid rhoi hysbysiad o’r fath i’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol y byddai’r cais wedi ei gyflwyno iddo fel arall, ac i unrhyw bersonau cynrychioliadol y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol. Caiff gorchymyn datblygu ddarparu sut a phryd y rhoddir hysbysiad o’r fath. Rhaid i Weinidogion Cymru roi adroddiad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y modd y maent yn arfer y swyddogaethau hyn.

97.Mae adrannau 24 i 27 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y weithdrefn ar gyfer penderfynu ceisiadau DAC. Disgrifir effaith yr adrannau hyn isod.

Adran 23 - Yr opsiwn o wneud cais i Weinidogion Cymru

98.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 62M, 62N a 62O i DCGTh 1990.

99.Mae adran 62M yn galluogi ceisiadau am ganiatâd cynllunio a cheisiadau am gymeradwyaeth materion a gadwyd yn ôl i gael eu gwneud yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru, lle bo’r awdurdod cynllunio lleol y byddai’r ceisiadau wedi cael eu gwneud iddo fel arall wedi’i ddynodi gan Weinidogion Cymru. Bydd y ceisydd yn gallu dewis gwneud cais i’r awdurdod cynllunio lleol neu i Weinidogion Cymru.

100.Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi mewn rheoliadau’r mathau o ddatblygiadau y mae’r hawl i wneud cais o’r fath yn gymwys iddo. Mae’n debyg y caiff datblygiadau mawr eu rhagnodi. Diffinnir “datblygiad mawr” yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, O.S. 2012 Rhif 801 (Cy. 110), gweler Erthygl 2(1). Yn fyr, datblygiad mawr yw (a) gweithrediadau mwyngloddio; (b) y defnydd o dir ar gyfer dyddodion gweithio mwynau; (c) datblygiad tai sy’n cynnwys 10 tŷ neu ragor ar safle sy’n 0.5 hectar neu’n fwy; (d) adeiladau sydd ag arwynebedd llawr o 1000 metr sgwâr neu fwy; (e) datblygiad ar dir sy’n 1 hectar neu fwy.

101.Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf ar gyfer dynodi awdurdod cynllunio lleol ac ar gyfer dirymu dynodiad. Er enghraifft, gallai meini prawf o’r fath ganolbwyntio ar ba mor gyflym y mae awdurdodau cynllunio lleol yn penderfynu ar geisiadau penodol, a/neu ba mor aml y caiff penderfyniadau o’r fath eu gwrthdroi ar apêl.

102.Mae adran 62N yn nodi’r amodau y mae’n rhaid i’r meini prawf eu bodloni cyn y gall Gweinidogion Cymru eu cymhwyso. Yr amodau yw ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru, nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio yn erbyn y meini prawf, a’u bod yn cael eu cyhoeddi.

103.Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig am y dynodiad neu’r dirymiad i’r awdurdod cynllunio lleol o dan sylw. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi copi o hysbysiad o’r fath.

104.Ni chaniateir dynodi corfforaethau datblygu trefol. (Ar gyfer corfforaethau datblygu trefol, gweler Rhan 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980.)

105.Mae adran 62O yn gymwys pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62M. Pe byddai cais cysylltiedig wedi ei wneud fel arall i’r awdurdod cynllunio lleol neu’r awdurdod sylweddau peryglus, mae’r adran hon yn galluogi’r cais i gael ei wneud yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru. Mae cais yn “gais cysylltiedig”:

a.

os caiff ei wneud o dan y Deddfau Cynllunio (sef DCGTh 1990, Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 at y dibenion hyn),

b.

os yw’n ymwneud â thir yng Nghymru,

c.

os caiff ei ddisgrifio at y diben hwn mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a

d.

os yw’n gysylltiedig â’r prif gais.

106.Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried naill ai nad yw cais yn gysylltiedig â’r prif gais, neu ei fod yn gysylltiedig ond na ddylent hwy fod yn penderfynu arno, rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r cais at yr awdurdod a fyddai fel arfer wedi delio ag ef. Yna, bydd yr awdurdod hwnnw’n penderfynu ar y cais.

Adran 24 - Darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru

107.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 62P a 62Q i DCGTh 1990.

108.Mae adran 62P yn datgan bod penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais a wnaed iddynt hwy o dan adrannau 62D, 62M a 62O yn derfynol (sy’n golygu nad oes hawl i apelio i Weinidogion Cymru). Ond o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i Ran 12 o DCGTh 1990 gan Atodlen 4, gall dilysrwydd penderfyniadau o’r fath gael ei gwestiynu mewn amgylchiadau penodol drwy wneud cais i’r Uchel Lys.

109.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio lleol neu awdurdod sylweddau peryglus i wneud pethau mewn perthynas â chais a wneir o dan yr adrannau hynny.

110.Mae adran 62Q yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hysbysu cyngor cymuned am geisiadau a wneir iddynt hwy o dan adrannau 62D, 62F, 62M neu 62N pan fo’r ceisiadau hynny’n ymwneud â thir yn ardal y cyngor cymuned (a phan fo’r cyngor cymuned wedi gofyn yn flaenorol i’w awdurdod cynllunio lleol ei hysbysu am geisiadau a gyflwynir i’r awdurdod hwnnw). Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol, os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, roi gwybod i Weinidogion Cymru pa gynghorau cymuned sydd wedi gofyn am gael eu hysbysu.

Adran 25 - Pŵer i wneud darpariaeth drwy orchymyn datblygu mewn cysylltiad â cheisiadau i Weinidogion Cymru

111.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 62R i DCGTh 1990.

112.Yr effaith yw y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn gorchymyn datblygu o ran sut y dylid ymdrin â cheisiadau a wneir iddynt. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch ymgynghori gan Weinidogion Cymru ac amrywio ceisiadau.

Adran 26 - Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a cheisiadau a wneir i Weinidogion Cymru: arfer swyddogaethau gan berson penodedig

113.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 62S i DCGTh 1990. Mae adran 62S yn cyflwyno Atodlen 40 newydd i DCGTh 1990, a nodir yn Atodlen 3 i’r Ddeddf hon.

Adran 27 - Ceisiadau i Weinidogion Cymru: diwygiadau pellach

114.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 4. Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â cheisiadau i Weinidogion Cymru.

Rhan 6 Rheoli Datblygu etc.

Adran 28 - Pŵer awdurdod cynllunio lleol i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi gyda chais

115.Mae’r adran hon yn gwneud adran 62(4A) o DCGTh 1990 yn gymwys i Gymru. Mae’r is-adran yn ymwneud â phŵer awdurdodau cynllunio lleol i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chyflwyno gyda cheisiadau cynllunio. Rhaid i geisiadau am wybodaeth fod yn rhesymol ac yn berthnasol.

Adran 29 - Ceisiadau annilys: hysbysu ac apelio

116.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 62ZA, 62ZB, 62ZC a 62ZD i DCGTh 1990, er mwyn rhoi hawl i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol nad yw cais yn ddilys. Mae’r adrannau yn berthnasol i geisiadau am ganiatâd cynllunio ac i unrhyw gydsyniad, gytundeb neu gymeradwyaeth sy’n berthnasol i ganiatâd cynllunio.

117.Mae adran 62ZA yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol roi hysbysiad ffurfiol i geisydd os nad yw cais a gyflwynwyd iddynt yn cydymffurfio, yn eu barn hwy, â rhai gofynion penodol o ran gwybodaeth, ac yr ystyrir ei fod, o ganlyniad, yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad nodi’r gofyniad o dan sylw a nodi rhesymau’r awdurdod dros gredu nad yw’r cais yn cydymffurfio ag ef. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn datblygu, wneud darpariaethau ynghylch sut i roi hysbysiad, gan gynnwys pa wybodaeth sydd i’w chynnwys a sut a phryd y mae i’w roi.

118.Mae adran 62ZB yn rhoi hawl i geisyddion apelio i Weinidogion Cymru pan fo’r awdurdod cynllunio lleol wedi cyflwyno hysbysiad o dan adran 62ZA yr ystyrir bod cais yn annilys, ar un neu ragor o seiliau penodedig. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn datblygu, ragnodi’r gofynion ar gyfer cyflwyno apêl, gan gynnwys sut a phryd y mae hysbysiad o apêl i gael ei wneud a’r wybodaeth sydd i ddod gydag ef. Mae apelau i gael eu penderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

119.Mae adran 62ZC yn darparu mai person penodedig sy’n dyfarnu ar apelau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd fel arall o dan adran 62ZD. (Rhagwelir y bydd personau yn cael eu penodi o Arolygiaeth Gynllunio Cymru.) Mae hefyd yn nodi swyddogaethau’r person penodedig. Mae gan y person hwn yr un pwerau a dyletswyddau mewn perthynas ag apêl â Gweinidogion Cymru.

120.Mae adran 62ZD yn galluogi Gweinidogion Cymru i alw apêl yn ôl o dan adran 62ZB y dyfernid arni fel arall gan berson penodedig er mwyn penderfynu arni eu hunain.

121.Mae adran 28 hefyd yn diwygio adran 79 o DCGTh 1990 i alluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu wrth ddyfarnu ar apêl o dan adran 78, a yw gofyniad awdurdod cynllunio lleol am wybodaeth yn rhesymol ac yn berthnasol.

Adran 30 - Dirymu arbed Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau) 1988

122.Mae’r adran hon yn dirymu arbed Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau) 1988. Yr effaith yw bod y rheoliadau hynny, a wnaed o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref gynharach ac sy’n ymwneud â’r gweithdrefnau ar gyfer ceisiadau cynllunio, wedi eu dirymu yn llwyr. Mae’r gweithdrefnau ar gyfer ceisiadau o dan DCGTh 1990 wedi eu pennu mewn gorchmynion datblygu o dan adran 62 o DCGTh 1990 erbyn hyn.

Adran 31 - Y Gymraeg

123.Mae’r adran hon yn diwygio adran 70 o DCGTh 1990. Mae adran 70 yn gwneud darpariaeth ynghylch y materion y mae’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi sylw iddynt wrth ymdrin â chais am ganiatâd cynllunio. Effaith y diwygiad yw bod rhaid i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru roi sylw i ystyriaethau yn ymwneud â’r defnydd o’r Gymraeg os yw ystyriaethau o’r fath yn berthnasol i’r cais. Nid yw’r diwygiadau i adran 70 yn newid y gyfraith sydd ohoni mewn perthynas ag ystyriaethau perthnasol.

Adran 32 – Pŵer i wrthod penderfynu ar ôl-gais

124.Mae’r adran hon yn diwygio adran 70C o DCGTh 1990. Effaith y diwygiad yw y caiff awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru wrthod penderfynu ar ôl-gais os dyroddwyd hysbysiad gorfodi eisoes mewn perthynas ag unrhyw ran o’r datblygiad.

Adran 33 - Hysbysiadau penderfynu

125.Mae’r adran hon yn mewnosod Adran 71ZA i DCGTh 1990.

126.Mae adran 71ZA yn galluogi Gweinidogion Cymru drwy orchymyn datblygu i bennu ffurf hysbysiadau o benderfyniadau ar geisiadau am ganiatâd cynllunio, y ffordd y maent i’w rhoi, a’r manylion sydd i’w cynnwys ynddynt. Cyfeirir at yr hysbysiadau hyn fel “hysbysiadau penderfynu”.

127.Mae’r adran newydd yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad penderfynu bennu unrhyw blaniau neu ddogfennau eraill sy’n rhan o’r caniatâd cynllunio. Bernir bod y caniatâd cynllunio yn cael ei roi, yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r datblygiad gael ei wneud yn unol â’r planiau a’r dogfennau a bennir yn yr hysbysiad penderfynu.

128.Mae adran 71ZA hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol ddyroddi fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad penderfynu pan fydd cydsyniadau wedi eu rhoi neu amodau wedi eu newid. Rhaid i’r fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad penderfynu gynnwys materion a bennir mewn gorchymyn datblygu, a allai gynnwys gofyniad i ddatgan a yw amod wedi ei ryddhau neu ei gymeradwyo, ac os yw wedi ei gymeradwyo, ddyddiad a chyfeirnod y gymeradwyaeth sy’n ymwneud â’r manylion a gyflwynwyd.

129.Mae’r ddarpariaeth yn gymwys pa un a yw’r caniatâd cynllunio’n cael ei roi gan awdurdodau cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru. Mae’r ddarpariaeth hefyd yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddir o dan adran 90 (datblygiad gydag awdurdodiad llywodraeth), adran 102 (gorchmynion sy’n ei gwneud yn ofynnol i roi’r gorau i ddefnyddio adeiladau neu weithfeydd, eu newid neu eu tynnu) ac adran 141 (gweithredu gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â hysbysiad prynu) o DCGTh 1990.

Adran 34 - Hysbysiad am ddatblygiad

130.Mae’r adran hon yn mewnosod Adran 71ZB i DCGTh 1990.

131.Mae adran 72ZB yn rhoi gofyniad ar ddatblygwyr i hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol am ddyddiad dechrau’r datblygiad, manylion y caniatâd cynllunio sydd i’w weithredu ac unrhyw faterion eraill a bennir mewn gorchymyn datblygu. Mae’r ddarpariaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwr arddangos hysbysiad o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i’r datblygiad, a hynny ar y safle neu gerllaw iddo. Rhaid arddangos yr hysbysiad drwy gydol y cyfnod datblygu.

132.Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru drwy orchymyn datblygu i nodi’r categorïau o ganiatâd cynllunio y mae’r gofyniad yn gymwys iddo (er enghraifft, datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a datblygiadau mawr); ffurf a chynnwys hysbysiadau o’r fath; a sut y mae’n rhaid arddangos copi o’r caniatâd cynllunio.

133.Mae’n ei gwneud yn ofynnol, lle y bo’n briodol, i hysbysiadau penderfynu nodi’r dyletswyddau y mae’r datblygwr i’w cyflawni mewn perthynas â rhoi ac arddangos hysbysiadau. Mae caniatâd cynllunio i’w roi yn ddarostyngedig i’r amod tybiedig bod rhaid cydymffurfio â’r gofynion hyn.

Adran 35 - Cyfnod para caniatâd cynllunio: cyffredinol

134.Mae’r adran hon yn gwneud nifer o ddiwygiadau i adran 91 o DCGTh 1990 (Amod cyffredinol sy’n cyfyngu ar gyfnod para caniatâd cynllunio) ac yn mewnosod is-adrannau newydd (3ZA), (3ZB), (3ZC) a (3ZD).

135.Mae is-adrannau (3ZA) a (3ZB) yn gymwys os rhoddir caniatâd cynllunio o dan adran 73 o DCGTh 1990 sy’n amrywio neu’n diddymu amodau o ganiatâd cynllunio a roddwyd yn flaenorol. Os rhoddir y caniatâd adran 73 heb amod cyfyngu amser, a bod y caniatâd cynllunio blaenorol wedi ei roi yn ddarostyngedig i amod cyfyngu, caiff y caniatâd adran 73 ei roi yn ddarostyngedig i amod terfyn amser tybiedig bod y datblygiad i’w ddechrau yn ddim hwyrach na’r dyddiad yr oedd y caniatâd cynllunio blaenorol yn ei gwneud yn ofynnol i’r datblygiad gael ei ddechrau. Golyga hyn, oni bai bod cyfnod newydd yn cael ei ddatgan, fod caniatâd newydd o dan adran 73 yn para am y cyfnod sy’n weddill o’r caniatâd cyntaf.

136.Mae is-adran (3ZC) a (3ZD) yn diffinio’r termau caniatâd cynllunio blaenorol a chaniatâd adran 73.

Adran 36 - Cyfnod para caniatâd cynllunio amlinellol

137.Mae’r adran hon yn gwneud nifer o ddiwygiadau i adran 92 o DCGTh 1990 (Caniatâd cynllunio amlinellol) ac yn mewnosod is-adrannau newydd (3A), (3B), (3C), (3D) a (3E).

138.Caiff y term ‘caniatâd cynllunio amlinellol’ ei ddiffinio, at ddibenion adrannau 91 a 92 o DCGTh 1990, yn adran 92(1). Mae’n golygu caniatâd cynllunio a roddwyd gan gadw materion yn ôl i’w cymeradwyo’n ddiweddarach gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Weinidogion Cymru.

139.Os rhoddir caniatâd cynllunio amlinellol o dan adran 73 heb amod o ran y cyfnod y mae’n rhaid gwneud cais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl o’i fewn, mae is-adrannau (3A) a (3B) yn darparu bod y caniatâd yn ddarostyngedig i amod tybiedig bod rhaid gwneud cais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn ddim hwyrach nag yr oedd y caniatâd cynllunio blaenorol yn ei gwneud yn ofynnol. Os na chaiff cais ei wneud o fewn y cyfnod hwnnw, daw’r caniatâd i ben.

140.Os rhoddir caniatâd cynllunio amlinellol o dan adran 73 heb amod o ran pryd mae’r datblygiad i ddechrau, mae is-adrannau (3C) a (3D) yn darparu y bydd y caniatâd yn ddarostyngedig i amod tybiedig fod y datblygiad i ddechrau yn ddim hwyrach nag yr oedd y caniatâd cynllunio blaenorol yn ei gwneud yn ofynnol. Os na chaiff y datblygiad ei ddechrau o fewn y cyfnod hwnnw, daw’r caniatâd i ben. Golyga hyn, oni bai bod cyfnod newydd yn cael ei ddatgan, fod y caniatâd newydd yn para am y cyfnod sy’n weddill o’r caniatâd cyntaf.

141.Mae is-adran (3E) yn diffinio caniatâd cynllunio blaenorol.

Adran 37 - Ymgynghori etc. mewn cysylltiad â cheisiadau penodol sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio

142.Mae’r ddarpariaeth yn mewnosod adran 100A i DCGTh 1990. Mae’n darparu ar gyfer ymgynghori o ran:

a.

ceisiadau i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl;

b.

ceisiadau ar gyfer unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth arall y mae ei angen o dan unrhyw amodau neu gyfyngiad y mae’r caniatâd cynllunio wedi ei roi yn ddarostyngedig iddynt; ac

c.

ceisiadau am newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio.

143.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu ymgynghori ag ymgynghorai statudol yr ymgynghorwyd ag ef ynglŷn â’r cais gwreiddiol, na all yr awdurdod ddyfarnu ar y cais hwnnw cyn diwedd y cyfnod a ragnodir mewn gorchymyn datblygu. Mae’n rhaid i’r sawl yr ymgynghorir ag ef roi ymateb o sylwedd o fewn y cyfnod hwnnw ac adrodd i Weinidogion Cymru eu bod wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd hon.

144.Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn datblygu, i bennu:

a.

yr wybodaeth sydd i’w darparu gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad,

b.

y gofyniad am ymateb o sylwedd, a

c.

ffurf a chynnwys yr adroddiad cydymffurfiaeth.

Adran 38 - Cau neu wyro llwybrau cyhoeddus pan wneir cais am ganiatâd cynllunio

145.Mae’r adran hon yn diwygio adrannau 257 o DCGTh 1990 i alluogi dechrau’r broses sy’n arwain at gau neu wyro llwybrau cyhoeddus unwaith y gwnaed cais am ganiatâd cynllunio ond cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi.

146.Ar hyn o bryd mae adran 257 yn galluogi gorchymyn sy’n awdurdodi cau neu wyro llwybrau cyhoeddus (a llwybrau penodol eraill) pan fo angen hyn er mwyn gallu cwblhau datblygiad yn unol â chaniatâd cynllunio (neu gan adran o’r llywodraeth). Mae’r diwygiad yn galluogi gorchymyn sy’n cau neu’n gwyro llwybr cyhoeddus i gael ei wneud cyn rhoi caniatâd cynllunio.

147.Mae’r adran hefyd yn diwygio adran 259 o DCGTh 1990 fel na chaiff yr awdurdod cymwys na Gweinidogion Cymru gadarnhau gorchymyn cau neu orchymyn gwyro hyd nes bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn gwirionedd. Mae’n diwygio adran 259 ymhellach fel na all yr awdurdod cymwys na Gweinidogion Cymru gadarnhau gorchymyn oni bai ei fod yn fodlon bod ei angen er mwyn gallu cwblhau’r datblygiad.

Adran 39 - Arfer swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â cheisiadau

148.Mae Adran 39(1) o’r Ddeddf yn mewnosod adrannau 319ZA, 319ZB, 319ZC a 319ZD i  DCGTh 1990.

149.Mae adran 319ZA yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol ddirprwyo swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau cynllunio. Caiff telerau’r ddirprwyaeth eu rhagnodi yn y rheoliadau. Er enghraifft, gallai rheoliadau ddarparu ar gyfer cynllun dirprwyo cenedlaethol yn ymwneud â cheisiadau cynllunio o dan Ran 3 o DCGTh 1990. Gallai’r cynllun wneud darpariaeth i bob cais gael ei ddirprwyo i swyddogion penodedig i’w penderfynu, ar wahân i rai eithriadau.

150.Mae adran 319ZB yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ragnodi maint unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor y dirprwyir swyddogaeth gynllunio iddo, a phwy sydd ar y pwyllgor hwnnw. Mae’n datgymhwyso darpariaeth o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n nodi nad yw’r hyn a wneir gan bwyllgor neu is-bwyllgor yn annilys os oes sedd wag ar bwyllgor neu is-bwyllgor.

151.Mae’r adran hon hefyd yn atal awdurdod cynllunio rhag dirprwyo swyddogaeth berthnasol i bwyllgor neu is-bwyllgor nad yw’n bodloni’r gofynion gweithdrefnol.

152.Mae adran 319ZC yn ategu adrannau 319ZA a 319ZB. Mae’n darparu bod adrannau 101 a 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn ddarostyngedig i adrannau 319ZA a 319ZB ac unrhyw reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny. (Mae adran 101 yn caniatáu i awdurdodau lleol wneud trefniadau i bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, neu awdurdod lleol arall, gyflawni eu swyddogaethau. Mae adran 102 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau gan awdurdodau lleol.) Bydd cyfeiriadau at drefniadau o dan adrannau 101 a 102 o Ddeddf 1972 mewn deddfwriaeth arall yn gymwys i’r trefniadau sy’n ofynnol gan yr adrannau 319ZA a 319ZB newydd. Mae hyn yn cynnwys adrannau 13 a 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (gweler isod).

153.Mae’r adran 319ZC newydd yn galluogi rheoliadau i wneud darpariaeth benodol ar gyfer achosion pan fo awdurdodau cynllunio lleol yn arfer swyddogaethau ar y cyd neu pan fo un awdurdod cynllunio lleol yn arfer swyddogaethau ar gyfer awdurdod cynllunio lleol arall.

154.Mae Adran 319ZD yn rhoi dehongliadau at ddibenion yr adrannau uchod.

155.Mae adran 39(2) o’r Ddeddf yn gwneud diwygiad cysylltiedig i adran 316(3) o DCGTh 1990. Mae adran 316 o DCGTh 1990 yn ymdrin â dirprwyaethau mewn math penodol o achos. Mae’r adran yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cymhwyso amrywiol Rannau o DCGTh 1990 i’r tir sy’n eiddo i awdurdodau cynllunio lleol. O dan adran 316(3) caiff rheoliadau reoleiddio trefniadau awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau pan fydd yn penderfynu ceisiadau yn ymwneud â’i dir ei hun, “notwithstanding anything in section 101 of the Local Government Act 1972”. Mae adran 39(2) o’r Ddeddf yn mewnosod cyfeiriad at adrannau 319ZA i 319ZC, fel y bydd rheoliadau o dan adran 316(3) yn drech nag adrannau 319ZA i 319ZC yn yr un ffordd.

156.Mae adran 39(3) a (4) o’r Ddeddf yn mewnosod cyfeiriadau at adrannau 319ZA a 319ZC newydd yn y rhestrau o ddarpariaethau cyffredinol DCGTh 1990 a gymhwysir i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.

157.Caiff rheoliadau o dan yr adrannau newydd nodi’r swyddogaethau y mae eu gofynion i fod yn gymwys iddynt a gellir cymhwyso’r darpariaethau newydd i’r Deddfau Adeiladau Rhestredig a Sylweddau Peryglus.

158.Mae adran 39(5) o’r Ddeddf yn diwygio adrannau 13 a 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 fel bod yr adrannau hynny yn gymwys i fwrdd cydgynllunio sy’n cael ei greu ar gyfer ardal yng Nghymru gan orchymyn o dan adran 2(1B) o DCGTh 1990. Mae adran 13 o Ddeddf 1989 yn gwneud darpariaeth ynghylch hawliau pleidleisio pobl benodol y mae awdurdodau lleol yn eu penodi i bwyllgorau. Mae adran 20 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu darpariaethau gweithdrefnol y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu cynnwys yn eu rheolau sefydlog. Mae’r naill adran a’r llall eisoes yn gymwys i’r awdurdodau eraill yng Nghymru a all fod yn awdurdodau cynllunio lleol, ac mae’r diwygiadau yn rhoi byrddau cydgynllunio yn yr un sefyllfa.

Adran 40 - Byrddau Cydgynllunio i fod yn awdurdodau sylweddau peryglus

159.At ei gilydd, mae angen cydsyniad awdurdod sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus ar dir neu o dan dir. Mae’r adran hon yn mewnosod is-adran newydd yn adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 i bennu bod bwrdd cydgynllunio, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, yn awdurdod sylweddau peryglus ac y bydd felly’n arfer swyddogaethau cyfatebol o dan y Ddeddf honno.

Adran 41 - Pŵer i wneud darpariaeth sy’n galluogi byrddau cydgynllunio i arfer swyddogaethau rheoli datblygu mewn Parciau Cenedlaethol

160.Mae gan Weinidogion Cymru bŵer o dan adran 2(1B) o DCGTh 1990 i sefydlu bwrdd cydgynllunio i fod yn awdurdod cynllunio lleol ar gyfer dosbarth unedig sy’n cynnwys dwy ardal neu ragor, pob un ohonynt yn sir gyfan neu’n fwrdeistref sirol gyfan neu’n rhan o sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru. Yn rhinwedd adran 2(1D) o DCGTh 1990, ni all dosbarth unedig bwrdd cydgynllunio gynnwys unrhyw ran o Barc Cenedlaethol; ac mae adran 4A yn cadarnhau mai Awdurdod Parc Cenedlaethol yw’r unig awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ei Barc Cenedlaethol.

161.Mae adran 41 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud i ffwrdd â’r cyfyngiad hwn ac ymestyn y darpariaethau ar gyfer byrddau cydgynllunio yn adran 2 o DCGTh 1990 i gynnwys ardaloedd Parciau Cenedlaethol. Mae rheoliadau o dan adran 41 o’r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru sefydlu dosbarth unedig sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol i gyd neu ran ohono, a sefydlu bwrdd cydgynllunio i fod yn awdurdod cynllunio lleol yn lle’r Awdurdod Parc Cenedlaethol at ddibenion penodol.

162.Mae adran 41 yn galluogi sefydlu bwrdd cydgynllunio i fod yn awdurdod cynllunio lleol ar gyfer unrhyw ran o’i ardal sy’n cael ei ffurfio gan Barc Cenedlaethol at ddibenion DCGTh 1990 (sy’n darparu ar gyfer materion gan gynnwys penderfynu ceisiadau cynllunio), Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 ond nid at ddibenion DCPhG 2004 (sy’n darparu ar gyfer materion gan gynnwys paratoi cynlluniau datblygu lleol). Effaith hyn yw, os yw rhan o Barc Cenedlaethol yn ardal bwrdd cydgynllunio neu os yw’r Parc cyfan yn yr ardal honno, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, nid y bwrdd cydgynllunio, sy’n paratoi’r cynllun datblygu lleol ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol.

163.Mae’r pwerau i wneud rheoliadau yn yr adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu, ar gyfer unrhyw ran o ardal bwrdd cydgynllunio gan gynnwys Parc Cenedlaethol, pa un ai’r bwrdd cydgynllunio neu’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yw’r awdurdod sylweddau peryglus. Mae’r adran hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth o ddisgrifiadau penodol wrth arfer eu pwerau i wneud rheoliadau.

Adran 42 – Byrddau cydgynllunio – pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol ac atodol

164.Mae’r adran hon yn ad-drefnu ac yn mewnosod is-adran newydd yn adran 9 (Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol ac atodol ynghylch awdurdodau) o DCGTh 1990.

165.Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru, wrth wneud rheoliadau sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ganlyniadol neu’n atodol i sefydlu bwrdd cydgynllunio, i ddiwygio deddfwriaeth o ddisgrifiadau penodol.

RHAN 7 Gorfodi, Apelau etc.

Adran 43 - Torri rheolaeth gynllunio: Hysbysiad rhybudd gorfodi

166.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 173ZA i DCGTh 1990.

167.Mae adran 173ZA yn cyflwyno hysbysiadau rhybudd gorfodi. Gall awdurdodau cynllunio lleol gyflwyno hysbysiad rhybudd gorfodi os ymddengys iddynt fod rheolaeth gynllunio wedi ei thorri a’i bod yn weddol debygol y byddai caniatâd cynllunio’n cael ei roi pe bai cais yn cael ei gyflwyno. Rhaid i gopïau o’r hysbysiad gael eu cyflwyno i berchennog y tir, preswylydd y tir ac unrhyw berson arall sydd â buddiant yn y tir. Rhaid i hysbysiadau nodi sut y torrwyd y rheolaeth gynllunio a datgan y gallai camau gorfodi pellach gael eu cymryd os na chaiff cais cynllunio ar gyfer y toriad ei gyflwyno o fewn cyfnod penodol.

168.Mae hysbysiadau yn cyfrif fel cymryd camau gorfodi ac felly maent yn cael yr effaith o roi cyfnod o 4 blynedd i awdurdodau cynllunio lleol gymryd camau gorfodi pellach mewn cysylltiad â’r toriad, yn rhinwedd adran 171B(4) o DCGTh 1990.

Adran 44 - Apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi: cais tybiedig am ganiatâd cynllunio

169.Pan wneir apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiad gorfodi, mae adran 177(1) o DCGTh 1990 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi caniatâd cynllunio yn hytrach na chadarnhau’r hysbysiad gorfodi, ac mae adran 177(5) yn darparu y tybir bod y ceisydd wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

170.Mae adran 44 o’r Ddeddf yn diwygio adran 177 i ddarparu na chaiff Gweinidogion Cymru roi caniatâd cynllunio yn dilyn apêl gorfodi oni wnaed yr apêl ar sail (a) a nodir yn adran 174(2), hy ar y sail y dylid bod wedi rhoi caniatâd cynllunio. Caiff adran 177(5) ei diwygio hefyd fel mai dim ond apelau ar sail (a) sy’n arwain at gais tybiedig am ganiatâd cynllunio.

Adran 45 - Cyfyngiadau ar hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio

171.Mae adran 45 yn diwygio adran 78 o DCGTh 1990 drwy fewnosod is-adrannau newydd (4AA) a (4AB).

172.Yr effaith yw atal apelau olynol mewn cysylltiad â datblygiad heb awdurdod. Mae is-adran (4AA) yn atal apêl yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad os yw’r datblygiad hwnnw wedi bod yn destun hysbysiad gorfodi, a chaniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwnnw heb ei roi mewn apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi. Mae i is-adran (4AB) effaith debyg drwy atal apelau yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau, pan na roddwyd rhyddhad o amod mewn apêl.

Adran 46 - Cyfyngiadau ar hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi

173.Mae’r adran hon yn diwygio adran 174 o DCGTh 1990. Mae’n ymdrin â’r sefyllfa gyferbyniol i’r hyn y mae adran 45 yn ei thrafod. Mae’r diwygiad yn atal dwyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi ar y sail y dylai caniatâd cynllunio fod wedi ei roi, pan ddyroddir yr hysbysiad gorfodi pan fo Gweinidogion Cymru eisoes wedi cadarnhau penderfyniad ar apêl i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer materion a bennir yn yr hysbysiad gorfodi fel rhai sy’n cyfateb i dorri rheolaeth gynllunio. Yn yr un modd, ni ellir dwyn apêl gorfodi ar y sail y dylai amod fod wedi ei ryddhau os cadarnhawyd penderfyniad i roi caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i’r amod mewn apêl flaenorol.

Adran 47 - Dim amrywio ar gais ar ôl cyflwyno hysbysiad am apêl yn erbyn penderfyniad cynllunio etc.

174.Mae’r adran hon yn mewnosod darpariaethau newydd i’r adrannau o’r Deddfau cynllunio sy’n ymdrin ag apelau yn erbyn gwrthodiad neu fethiant i gymeradwyo ceisiadau cynllunio a cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad sylweddau peryglus.

175.Effaith y mewnosodiadau hyn yw na chaniateir amrywio cais ar ôl i hysbysiadau am apêl gael eu cyflwyno o dan amrywiol adrannau’r Deddfau hynny, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a ragnodir mewn gorchymyn datblygu neu reoliadau. Os yw gorchymyn neu reoliadau yn rhagnodi amgylchiadau, rhaid iddo ddarparu bod cais wedi ei amrywio yn destun unrhyw ymgynghori pellach sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Adran 48 - Apelio yn erbyn hysbysiad mewn cysylltiad â thir sy’n cael effaith andwyol ar amwynder

176.Mae’r adran hon yn diwygio adran 217 o DCGTh 1990.

177.Effaith y diwygiad yw trosglwyddo cyfrifoldeb am ddyfarnu ar apelau yn erbyn hysbysiadau a gyflwynwyd o dan adran 215 (tir sy’n cael effaith andwyol ar amwynder) o Lysoedd yr Ynadon i Weinidogion Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer y gweithdrefnau i wneud apêl o’r fath a’r wybodaeth sydd i’w darparu. (Bydd Ynadon yn parhau i ymdrin â methiant i gydymffurfio â hysbysiad adran 215 a throseddau eraill o dan adran 216.) Caiff apelau yn erbyn penderfyniadau Gweinidogion Cymru eu gwneud i’r Uchel Lys.

Adran 49 - Costau ceisiadau, apelau a chyfeiriadau

178.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 322C i DCGTh 1990. Mae adran 322C yn disodli amryw o ddarpariaethau presennol yn ymwneud â chostau ceisiadau ac apelau cynllunio a ystyrir gan Weinidogion Cymru, yn enwedig darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 320, 322 a 322A o DCGTh 1990 a pharagraff 6 o Atodlen 6. Mae’r darpariaethau hynny yn cymhwyso adrannau 250(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy’n ymwneud â chostau ymchwiliadau lleol, i achosion cynllunio at ddibenion penodol. Mae adran 250(4) a (5) yn ymdrin â phwerau Gweinidogion i’w gwneud yn ofynnol i’r partïon yn yr achos dalu costau Gweinidogion, a’i gwneud yn ofynnol i un parti dalu’r costau yr aed iddynt gan y llall.

179.Mae adran 322C yn dod â’r holl ddarpariaethau sy’n ymwneud â chostau gweithdrefnau cynllunio at ei gilydd mewn un lle ac mae’n gymwys pa un a yw materion yn symud ymlaen ar ffurf sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad. Mae’r adran yn caniatáu i Weinidogion Cymru adennill yr holl gostau gweinyddol yr aed iddynt, gan gynnwys costau staff cyffredinol a gorbenion. Mae’r adran hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi swm dyddiol safonol.

180.Darpariaeth annibynnol yw hon ar gyfer dyfarnu costau sy’n deillio o gais, apêl neu gyfeiriad at Weinidogion Cymru. Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod eu costau hwy eu hunain yn cael eu hadennill gan yr awdurdod cynllunio lleol neu barti mewn apêl. Mae is-adran (3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru adfer costau gweinyddol yr eir iddynt. Mae is-adran (4) yn caniatáu i Weinidogion Cymru adfer costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n cael ei gynnal a chostau yr eir iddynt wrth adolygu ymrwymiadau cynllunio. Mae is-adran (5) yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi swm dyddiol safonol ar gyfer costau. Mae is-adran (6) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion ar gyfer costau. Golyga hyn y gellir gorchymyn bod un parti yn talu costau parti arall.

Adran 50 - Y weithdrefn ar gyfer achosion penodol

181.Mae’r adran hon yn mewnosod Adran 323A i DCGTh 1990. Mae adran 323A yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’r gweithdrefnau ar gyfer dyfarniadau cynllunio, pa un a ydynt yn digwydd ar ffurf sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad.

182.Mae adran 323A yn disodli adran 323 o DCGTh 1990 mewn perthynas â Chymru. Roedd adran 323 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer y weithdrefn i’w dilyn pan gâi materion eu dyfarnu ar sail sylwadau ysgrifenedig, rheolau ar gyfer y weithdrefn i’w dilyn mewn gwrandawiadau ac ymchwiliadau gan yr Arglwydd Ganghellor o dan adran 9 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992. Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 323A yn disodli pŵer yr Arglwydd Ganghellor i wneud rheolau ar gyfer achosion cynllunio yng Nghymru.

183.Mae adran 323A yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi, drwy reoliadau, y weithdrefn i’w dilyn mewn cysylltiad ag apelau, ceisiadau neu gyfeiriadau y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried ac yn ymdrin â hwy’n ysgrifenedig, mewn gwrandawiad neu mewn ymchwiliad. Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn mewn cysylltiad â materion cyn neu ar ôl ymchwiliad, gwrandawiad neu wneud sylwadau ysgrifenedig. Caiff y rheoliadau ragnodi amserlenni ar gyfer cyflwyno dogfennau a sylwadau a rhoi cyfarwyddydau. Caiff y rheoliadau atal materion newydd y gellid bod wedi eu cyflwyno yn ystod y cam ymgeisio rhag cael eu cyflwyno mewn apêl.

Adran 51 - Costau a’r weithdrefn wrth apelio etc.: diwygiadau pellach

184.Mae adran 51 yn cyflwyno Atodlen 5. Mae Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol, technegol.

Rhan 8 Meysydd tref a phentref

Adran 52 - Datganiad gan berchennog i ddod â diwedd i ddefnyddio tir drwy hawl

185.Mae’r adran hon yn gwneud diwygiadau i adran 15A o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 er mwyn gwneud yr adran honno’n gymwys i Gymru.

186.Gellir gwneud ceisiadau i gofrestru tir yn faes tref neu bentref o dan adran 15 o Ddeddf 2006, yn gyffredinol, pan fo’r tir wedi ei ddefnyddio “drwy hawl” ar gyfer chwaraeon a hamddena cyfreithlon gan nifer sylweddol o bobl yn y gymuned leol am o leiaf ugain mlynedd. Mae defnyddio drwy hawl yn golygu heb ddefnyddio grym, heb wneud hynny’n gyfrinachol a heb ganiatâd, ar y sail resymegol bod rhaid i dirfeddiannwr wybod a derbyn bod y tir yn cael ei ddefnyddio yn y fath fodd.

187.O dan adran 15A o Ddeddf 2006, caiff perchennog tir adneuo datganiad a map gyda’r awdurdod cofrestru tir comin; effaith hyn fydd dwyn i ben unrhyw gyfnod pan fo personau wedi ymgymryd drwy hawl â chwaraeon neu weithgareddau hamdden ar y tir o dan sylw.

Adran 53 - Eithrio o’r hawl i wneud cais am gofrestru

188.Mae’r adran hon yn gwneud diwygiadau i adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 er mwyn gwneud yr adran honno yn gymwys i Gymru.

189.Mae adran 15C yn eithrio person o’r hawl i wneud cais am gofrestriad maes tref neu bentref o dan adran 15(1) o dan amgylchiadau penodol. Nodir yr amgylchiadau pan eithrir o’r hawl yng Nghymru mewn Atodlen 1B newydd i Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Nodir y testun yn Atodlen 6.

Adran 54 - Ceisiadau i ddiwygio cofrestrau: pŵer i wneud darpariaeth ynghylch ffioedd

190.Mae’r adran hon yn diwygio adran 24 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau am geisiadau i ddiwygio’r gofrestr tiroedd comin a meysydd tref neu bentref.

191.Effaith y diwygiad yw y gall ffioedd fod yn daladwy nid yn unig i’r person y gwneir y cais iddo, ond hefyd i’r person sy’n dyfarnu ar y cais (os yw hwnnw’n wahanol), er enghraifft, pan wneir cais i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin ond ei fod yn cael ei gyfeirio at yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer dyfarniad. Nod yr adran hon yw rhoi mwy o hyblygrwydd a thargedu ffioedd yn well, yn ddarostyngedig i is-ddeddfwriaeth a chraffu gan y Cynulliad.

Rhan 9 Darpariaethau Cyffredinol

Adran 55 - Rheoliadau a gorchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru

192.Mae adran 55 yn cyflwyno Atodlen 7. Mae Atodlen 7 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i DCGTh 1990 er mwyn dod â’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud gorchmynion a rheoliadau ynghyd. Gwneir diwygiadau tebyg i DCPhG 2004 a Deddf Tiroedd Comin 2006.

Adran 56 - Dehongli

193.Mae adran 56 yn diffinio “DCPhG 2004” a “DCGTh 1990”.

Adran 57 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

194.Mae adran 57 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau mewn rheoliadau y gall fod eu hangen er mwyn rhoi effaith i’r Ddeddf, neu o ganlyniad iddi. Mae hyn yn cynnwys pŵer i ddiwygio Deddfau Seneddol neu Ddeddfau neu Fesurau’r Cynulliad. Os yw rheoliadau yn cynnig diwygio Deddfau Seneddol neu Ddeddfau neu Fesurau’r Cynulliad, ni ellir eu gwneud oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron y Cynulliad a’i gymeradwyo ganddo. Mewn amgylchiadau eraill, gellir gwneud rheoliadau heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Cynulliad, ond gall y Cynulliad eu diddymu.

Adran 58 - Dod i rym

195.Mae’r adran hon yn nodi’r darpariaethau sy’n dod i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol; a’r rheini sy’n dod i rym drwy orchmynion cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru. Daw darpariaethau yn Rhannau 2 i 7 i rym ddau fis wedi’r Cydsyniad Brenhinol i’r graddau sy’n angenrheidiol fel y gall Gweinidogion Cymru arfer y swyddogaeth o wneud rheoliadau a gorchmynion.

Atodlen 1

196.Mae’r Atodlen hon yn mewnosod Atodlen 2A i DCPhG 2004. Mae’n darparu ar gyfer trefniadau cyfansoddiadol, ariannol a gweinyddol paneli cynllunio strategol.

197.Mae paneli yn gyrff corfforaethol. Mae paragraff 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer aelodaeth y panel. Mae cyfanswm yr aelodau i gael ei ragnodi mewn rheoliadau. Ni chaiff unrhyw aelod o’r panel gael ei gyflogi gan y panel.

198.Penodir dwy ran o dair o aelodau panel gan aelodau’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n ei ffurfio o blith eu haelodau cymwys. Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau’r awdurdodau cynllunio lleol i’r panel. Bydd rheoliadau yn pennu’r nifer sydd i gael eu penodi o bob awdurdod, ond bydd o leiaf un aelod o bob awdurdod.

199.Bydd un rhan o dair o aelodau panel yn aelodau enwebedig a benodir gan y panel. Mae paragraff 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi’r aelodau enwebedig.

200.Caiff panel wneud cais i unrhyw berson, sefydliad neu gorff enwebu person priodol i ddod yn aelod enwebedig o’r panel. Rhaid i’r panel benodi’r person a enwebir gan y corff enwebu. Mae paragraff 4 hefyd yn nodi’r weithdrefn pan fydd corff enwebu yn methu ag enwebu. Mewn amgylchiadau o’r fath mae’n ofynnol i’r panel wneud cais pellach neu wneud cais i gorff enwebu arall. Rhaid i’r person enwebu’r person a enwebir gan y corff enwebu.

201.Mae paragraff 5 yn galluogi Gweinidogion Cymru i nodi mewn rheoliadau ofynion ynghylch cyfansoddiad paneli cynllunio strategol gan gynnwys y cydbwysedd rhwng y rhywiau. Caiff y rheoliadau nodi sut y mae’r gofynion i’w bodloni, a oes unrhyw eithriadau i’r gofynion, a’r hyn a ddylai ddigwydd os na fodlonir y gofynion o ran cyfansoddiad. Maent hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ymyrryd os na chaiff y gofyniad ei fodloni.

202.Mae paragraff 6 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gyhoeddi (a diwygio) telerau penodi safonol ar gyfer y panel ac i Weinidogion Cymru gael eu hysbysu am bob aelod a benodir i’r panel.

203.Mae paragraff 7 yn pennu’r math o lwfansau y caiff aelodau’r panel eu derbyn. Gellir ond eu had-dalu am dreuliau yr eir iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau, er enghraifft mewn perthynas â’r gwaith y mae’n rhaid i’r panel ei wneud i baratoi’r cynllun datblygu strategol a’i adolygu’n barhaus, yn ogystal ag unrhyw waith cysylltiedig megis rhoi sylwadau ar gynlluniau datblygu lleol yn eu hardal. Ar hyn o bryd, Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy’n gosod ystod a lefelau’r taliadau a’r lwfansau sy’n daladwy i aelodau awdurdod lleol ac aelodau cyrff eraill yn unol â Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn diwygio’r Mesur i gwmpasu gosod taliadau i aelodau’r panel (gweler isod).

204.Mae paragraff 8 yn darparu y caiff aelodau’r panel ymddiswyddo ac y caiff y panel derfynu aelodaeth aelodau unigol. Mae’r paragraff hwn hefyd yn nodi’r seiliau ar gyfer tynnu aelod oddi ar y panel. Os bydd y panel yn penderfynu terfynu aelodaeth rhywun, rhaid i’r panel roi’r rhesymau dros y penderfyniad i’r aelod. Rhaid i’r panel hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol os bydd aelod o awdurdod cynllunio lleol yn cael ei dynnu oddi ar y panel.

205.Mae paragraff 9 yn darparu i awdurdodau cynllunio lleol perthnasol allu tynnu eu haelodau oddi ar y panel. Os bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu tynnu’r aelod oddi ar y panel rhaid iddo hysbysu’r panel a Gweinidogion Cymru. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth bod aelodaeth person o’r panel yn dod i ben yn awtomatig os yw person yn peidio â bod yn aelod cymwys o awdurdod cynllunio lleol; ond gall aelodau a ailetholir aros ar y panel.

206.Mae paragraff 10 yn darparu bod rhaid i’r panel benodi cadeirydd a dirprwy gadeirydd o blith aelodau awdurdod cynllunio lleol y panel. Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd am fwy na blwyddyn ar y tro, ond caniateir ei ailbenodi. Os nad yw’r aelod o’r awdurdod cynllunio lleol yn aelod o’r panel mwyach, bydd yr aelod hwnnw yn peidio â bod yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd.

207.Mae paragraff 11 yn galluogi’r panel i gyflogi staff a phenderfynu ar eu telerau a’u hamodau.

208.Mae paragraff 12 yn darparu bod y panel yn gallu dirprwyo rhai swyddogaethau penodol. Ni all y panel ddirprwyo ei gyfrifoldeb statudol dros benderfynu pa un a yw cynllun datblygu strategol yn barod am archwiliad annibynnol neu’n barod i gael ei fabwysiadu. Ni chaiff, ychwaith, ddirprwyo’r swyddogaeth o benodi aelodau enwebedig i’r panel. Gall y panel ddirprwyo swyddogaethau i bwyllgor o’r panel neu aelod o’r panel neu staff y panel. Fodd bynnag, gall unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei dirprwyo gael ei chyflawni o hyd gan y panel. Mae’r panel yn parhau i fod yn gyfrifol am unrhyw swyddogaeth a ddirprwywyd ganddo.

209.Mae paragraff 13 yn darparu nad oes gan aelodau enwebedig y panel hawl i bleidleisio.

210.Mae paragraff 14 yn darparu bod y panel i lunio a chyhoeddi rheolau sefydlog, y gellir eu diwygio. Mae’r rheolau sefydlog i nodi’r gweithdrefnau y bydd y panel yn eu dilyn. Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf hanner aelodau’r awdurdod cynllunio lleol yn bresennol er mwyn pleidleisio ar faterion mewn cyfarfodydd.

211.Mae paragraff 15 yn darparu y dylai cyfarfodydd fod yn agored i’r cyhoedd. Os nad yw unrhyw gyfarfod yn agored i’r cyhoedd, rhaid i’r rheolau sefydlog esbonio o dan ba amgylchiadau y gellir gwahardd y cyhoedd. Mae amser, dyddiad, lleoliad ac agenda cyfarfod i gael eu hysbysebu cyn y cyfarfod. Bydd yr holl wybodaeth a ystyrir gan y panel, gan gynnwys cofnodion ei gyfarfodydd, hefyd ar gael oni bai eu bod yn ymwneud ag unrhyw gyfarfodydd sy’n gwahardd y cyhoedd.

212.Mae paragraff 16 yn darparu mai’r awdurdodau cynllunio lleol o fewn yr ardal cynllunio strategol sydd i fod yn gyfrifol am ariannu’r panel. Caiff disgrifiad o’r gwariant cymwys y mae’r awdurdodau cynllunio lleol perthnasol yn gyfrifol amdano ei nodi mewn rheoliadau.

213.Mae paragraff 17 yn darparu ar gyfer y broses y bydd y panel yn ei dilyn i benderfynu ar y gyfran o’i wariant cymwys y bydd rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol ei thalu. Bydd y panel yn gyfrifol am ddrafftio’r cynigion ac ymgynghori arnynt gyda’r awdurdodau cynllunio lleol perthnasol a Gweinidogion Cymru. Caiff y panel ddiwygio ei gynnig o fewn blwyddyn ariannol ac os yw’n gwneud hynny, bydd angen iddo hefyd ymgynghori â’r awdurdodau cynllunio lleol perthnasol a Gweinidogion Cymru. Os yw’r awdurdodau cynllunio lleol wedi cytuno ar ddosbarthiad yna rhaid i ddyfarniad y panel adlewyrchu’r dosbarthiad a gytunwyd.

214.Mae paragraff 18 yn darparu bod rhaid i’r panel baratoi a chyhoeddi rhaglen waith flynyddol, gan gynnwys disgrifiad o’r gweithgareddau y mae’r panel yn bwriadu eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd angen i’r panel nodi rhagolwg o’i wariant mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau a’r gwariant cymwys. Rhaid i’r panel baratoi drafft a chyhoeddi’r rhaglen waith erbyn dyddiadau penodol yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Rhaid i’r drafft gael ei ystyried gan bob awdurdod cynllunio lleol perthnasol a Gweinidogion Cymru a rhaid i’r panel ystyried eu hymatebion. Rhaid dilyn yr un broses o ran diwygio’r rhaglen. Caiff y panel ddiwygio ei raglen waith ac os yw’n gwneud hynny, bydd angen iddo ymgynghori â’r awdurdod cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru.

215.Mae paragraff 19 yn darparu bod rhaid i banel, ar gyfer pob blwyddyn heblaw ei flwyddyn ariannol gyntaf, roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n rhan ohono am y symiau y mae pob awdurdod i’w cyfrannu ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod a rhaid i bob awdurdod dalu’r swm. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygio’r cyfrannau o wariant cymwys a diwygio’r gwariant cymwys a amcangyfrifwyd yn y rhaglen waith. Os bydd y swm diwygiedig yn fwy na’r swm a dalwyd i’r panel eisoes, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol dalu’r gwahaniaeth erbyn diwedd y mis sy’n dilyn yr hysbysiad i’r awdurdod am y swm newydd. Os bydd y swm diwygiedig yn llai na’r swm a dalwyd i’r panel eisoes, rhaid i’r panel dalu’r gwahaniaeth i’r awdurdod cynllunio lleol.

216.Mae paragraff 20 yn darparu y caiff y panel dderbyn cyllid grant neu fenthyg arian neu dderbyn taliadau eraill gan Weinidogion Cymru. Ni chaiff y panel fenthyg arian gan unrhyw berson arall. Gall unrhyw daliadau fod yn destun amodau.

217.Mae paragraff 21 yn darparu bod rhaid i’r panel gadw cyfrifon. Rhaid i ffurf a chynnwys datganiadau o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i’r datganiadau hyn gael eu paratoi erbyn 30 Tachwedd yn dilyn diwedd pob blwyddyn ariannol. Rhaid i’r panel gyflwyno datganiadau i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yr awdurdodau cynllunio lleol perthnasol a Gweinidogion Cymru. Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru wirio cynnwys pob datganiad o gyfrifon ac anfon ei adroddiadau ymlaen at yr awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru o fewn 4 mis i’r datganiad gael ei gyflwyno.

218.Mae paragraff 22 yn darparu bod y panel i baratoi adroddiad blynyddol a fydd yn manylu ar y gwaith a gyflawnwyd ganddo yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae hwn i gael ei gyhoeddi erbyn yr un dyddiad â’r datganiad o gyfrifon. Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru dderbyn copi o’r adroddiad.

219.Mae paragraff 23 yn diffinio’r flwyddyn ariannol ar gyfer y panel (1 Ebrill i 31 Mawrth) ac yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â blwyddyn ariannol gyntaf y panel.

220.Mae paragraff 24 yn darparu bod rhaid i’r panel ac unrhyw awdurdod cynllunio lleol roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

221.Mae paragraff 25 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyfarwyddo panel neu awdurdod lleol sy’n rhan ohono i gymryd y camau y maent hwy’n eu hystyried yn briodol pan fyddant o’r farn bod panel neu awdurdod yn methu â gwneud rhywbeth y mae’n ofynnol iddo ei wneud mewn perthynas â “gofynion perthnasol”. Y gofynion perthnasol yw’r gofynion a nodir yn yr Atodlen ar gyfer penodi aelodau panel, penodi cadeirydd a dirprwy gadeirydd, gwneud rheolau sefydlog a threfniadau mewn perthynas â gwariant cymwys panel. Rhoddir y pŵer i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth yn lle’r panel i gydymffurfio ag unrhyw ofynion perthnasol, a chodi tâl ar y panel am unrhyw waith a wneir ar ei ran.

222.Mae paragraff 26 yn darparu y caiff rheoliadau alluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio sy’n rhan o banel ddarparu staff a gwasanaethau eraill i banel er mwyn i’r panel allu arfer swyddogaethau yn ei flwyddyn ariannol gyntaf ac i bennu telerau’r gwasanaethau a ddarperir os na all y panel ac awdurdod ddod i gytundeb. Mae hefyd yn caniatáu i reoliadau a wneir o dan adran 60D o DCPhG 2004 ddarparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau.

223.Mae paragraff 27 yn rhoi dehongliad o’r termau a ddefnyddir yn yr Atodlen.

224.Mae paragraff 28 yn galluogi Gweinidogion Cymru i newid yr Atodlen drwy reoliadau. Mae’r rheoliadau yn destun y weithdrefn gadarnhaol, sy’n golygu na ellir eu gwneud oni bai iddynt gael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad (gweler diwygiadau i adran 122 o DCPhG 2004 ym mharagraff 1 o Atodlen 7).

225.Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau a Mesurau eraill.

226.Mae adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (awdurdodau lleol yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i gyrff cyhoeddus) wedi ei diwygio i gynnwys panel cynllunio strategol yn y rhestr o gyrff. Golyga hyn y caiff awdurdod lleol a phanel cynllunio strategol ymrwymo i gytundeb o ran awdurdod lleol yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i banel.

227.Mae adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (anghymwyso rhag cael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol) wedi ei diwygio er mwyn i gyflogai panel cynllunio strategol fod wedi ei anghymwyso o gael ei ethol neu fod yn aelod o awdurdod lleol sy’n awdurdod cynllunio lleol sy’n rhan o’r panel hwnnw.

228.Mae adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ymddygiad aelodau a chyflogeion awdurdodau lleol yng Nghymru: dehongli) wedi ei diwygio. Effaith y diwygiad yw, os caiff person ei wahardd rhag bod yn aelod o awdurdod sy’n rhan o banel am gamymddwyn o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno, bydd y person hwnnw hefyd wedi ei wahardd rhag bod yn aelod o banel cynllunio strategol.

229.Mae Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus: llywodraeth leol) wedi ei diwygio i gynnwys panel cynllunio strategol fel bod hawl mynediad cyffredinol o ran gwybodaeth a ddelir gan banel yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

230.Mae Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ymchwilio i gwynion etc.: awdurdodau rhestredig) wedi ei diwygio i gynnwys panel cynllunio strategol fel corff o fewn cylch gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

231.Mae Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wedi ei diwygio i gynnwys panel cynllunio strategol fel corff sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan y Ddeddf honno.

232.Mae Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi ei diwygio i gynnwys panel cynllunio strategol fel corff sy’n agored i gael ei orfodi i gydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu, safonau hybu a safonau cadw cofnodion yn unol â’r Mesur.

233.Mae adran 144 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi ei diwygio i gynnwys panel cynllunio strategol fel corff y gall Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol osod treuliau mewn cysylltiad â’i aelodau.

Atodlen 2

234.Mae’r Atodlen hon yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau eraill gyda’r effaith gyffredinol o’i gwneud yn ofynnol ymgynghori â’r panel cynllunio strategol, neu ei hysbysu, mewn perthynas ag arfer rhai swyddogaethau penodol o dan y Deddfau a bennir yn yr Atodlen.

235.Mae’r Atodlen hon hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau eraill. Mae’r diwygiadau hyn yn digwydd o ganlyniad i’r ddarpariaeth a wneir gan Ran 3 o’r Ddeddf mewn perthynas â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, paneli cynllunio strategol, cynlluniau datblygu strategol a chynlluniau datblygu lleol.

Atodlen 3

236.Mae’r Atodlen hon yn mewnosod Atodlen 4D i DCGTh 1990.

237.Mae Atodlen 4D yn debyg iawn i’r darpariaethau presennol (yn Atodlen 6 o DCGTh) ynghylch dyfarnu ar apelau a wneir i Weinidogion Cymru. Mae swyddogaethau penodol mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (DAC) i gael eu harfer gan berson a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru. Pan gaiff person o’r fath ei benodi, dylid ystyried ei benderfyniad fel penderfyniad Gweinidogion Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r penodiad hwnnw a naill ai benodi person arall i gyflawni’r swyddogaethau hynny neu gyflawni’r swyddogaethau hynny eu hunain. Caiff Gweinidogion Cymru benodi asesydd i gynorthwyo’r person sy’n cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol i gais a wnaed yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru.

Atodlen 4

238.Mae’r Atodlen hon yn gwneud diwygiadau pellach amrywiol (o ganlyniad i ddarpariaeth arall a wneir gan y Ddeddf neu fel arall) i DCGTh 1990. Ymhlith y diwygiadau hyn, mae rhai sy’n gwneud y canlynol:

a.

galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn datblygu, i gymhwyso, gyda diwygiadau neu hebddynt, unrhyw ddeddfiad neu ofynion cymwys a osodir gan ddeddfwriaeth, i geisiadau y gellir eu gwneud i Weinidogion Cymru o dan adrannau 62D, 62M neu 62O. Gall deddfiadau cymwys y gellir eu haddasu gynnwys, er enghraifft, adran 62 o DCGTh 1990, sy’n caniatáu i orchymyn datblygu wneud darpariaeth mewn perthynas â cheisiadau a wneir i awdurdodau cynllunio lleol;

b.

darparu nad yw parth cynllunio syml na chynllun menter yn cael yr effaith o roi caniatâd cynllunio i ddatblygiad sy’n DAC;

c.

diddymu unrhyw hawl i apelio yn erbyn penderfyniad ar gydsyniad eilaidd neu gais cysylltiedig, oni bai y caiff yr apêl honno ei gwneud i berson heblaw Gweinidogion Cymru;

d.

darparu bod cais sy’n DAC ac yn ddatblygiad brys y Goron yn dilyn y weithdrefn a ddefnyddir ar gyfer dyfarnu ceisiadau ar gyfer datblygiadau brys y Goron;

e.

caniatáu codi tâl am geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru (gan gynnwys am unrhyw wasanaethau cyn ymgeisio a ddarperir);

f.

ymestyn adran 319B o DCGTh 1990 i geisiadau a wneir o dan adrannau 62D, 62M a 62O i Weinidogion Cymru a’i gwneud yn ofynnol, felly, i Weinidogion Cymru bennu pa weithdrefn yw’r un briodol ar gyfer penderfynu ar unrhyw gais o’r fath;

g.

darparu hawliau mynediad i Weinidogion Cymru i dir sy’n destun cais DAC neu gais cysylltiedig.

Atodlen 5

239.Mae Atodlen 5 yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddfau mewn perthynas â chostau a gweithdrefnau mewn apêl. Mae angen y diwygiadau oherwydd y newidiadau y mae Rhan 7 wedi eu gwneud. Effaith y diwygiad ym mharagraff 27 i Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 yw tynnu gwrandawiadau ac ymchwiliadau yng Nghymru o dan y Ddeddf Cynllunio o’r ymchwiliadau y caiff yr Arglwydd Ganghellor lunio rheolau gweithdrefn mewn perthynas â hwy o dan adran 9 o’r Ddeddf honno.

Atodlen 6

240.Mae Atodlen 6, fel y’i cyflwynir gan adran 53(3), yn mewnosod Atodlen 1B i Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

241.Mae Atodlen 1B yn gwneud darpariaeth ar gyfer nifer o “ddigwyddiadau cychwyn” (“trigger events”), sy’n dod â hawl person i wneud cais am gofrestru tir fel maes tref neu bentref o dan adran 15(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i ben. Rhoi caniatâd cynllunio o dan CDGTh 1990 neu gydsyniad datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yw’r rhain. Mae pob un o’r digwyddiadau cychwyn hynny yn cyd-fynd â “digwyddiadau terfynu” (“terminating events”) cyfatebol, sy’n gwneud yr hawl o dan 15(1) yn arferadwy eto. Mae’r rhain yn cynnwys caniatâd neu gydsyniad perthnasol yn dod i ben, yn cael ei ddirymu neu’n cael ei ddileu.

Atodlen 7

242.Mae Atodlen 7 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i DCPhG 2004, DCGTh 1990 a Deddf Tiroedd Comin 2006. Mae’r diwygiadau yn ymwneud â phwerau Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion a rheoliadau o dan y Deddfau hynny. Maent yn dod â’r darpariaethau perthnasol ym mhob Deddf at ei gilydd mewn un lle, yn diweddaru rhywfaint o’r derminoleg, ac yn cymhwyso gweithdrefnau priodol i bwerau newydd i wneud gorchmynion a rheoliadau a fewnosodir ym mhob Deddf.

243.Mewn perthynas â DCPhG 2004, mae paragraff 1 yn darparu bod angen cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn i reoliadau neu orchmynion sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Ym mhob achos arall, caiff rheoliadau a gorchmynion gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru heb ganiatâd y Cynulliad. Bydd gan y Cynulliad y pŵer i ddirymu unrhyw reoliadau neu orchmynion a wneir yn y modd hwn.

244.Mewn perthynas â DCGTh 1990, mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â rheoliadau. Mae paragraff 3 yn diwygio adran 333 i ddarparu na ellir gwneud rhai rheoliadau penodol heb gymeradwyaeth y Cynulliad; rhestrir y rhain mewn is-adran newydd, sef is-adran (3F). Gall y lleill i gyd gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru heb sicrhau caniatâd y Cynulliad yn gyntaf, ond gall y Cynulliad eu dirymu yn y rhan fwyaf o achosion.

245.Mae paragraff 5 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â gorchmynion a wneir o dan DCGTh 1990. Gellir gwneud y rhan fwyaf o orchmynion heb i Weinidogion Cymru sicrhau caniatâd y Cynulliad yn gyntaf, ond gall y Cynulliad eu dirymu. Yr unig orchmynion y mae angen cymeradwyaeth y Cynulliad ar eu cyfer cyn eu gwneud yw gorchmynion o dan adrannau 62L(9), 293(1)(c) a 319B(9). (Mae gorchymyn o dan adran 62L(9) yn caniatáu i Weinidogion Cymru newid y cyfnod dyfarnu, gweler paragraff 95 uchod. Mae gorchymyn o dan adran 293(1)(c) yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu “buddiannau’r Goron” (“Crown interests”) at ddibenion Rhan 13 o’r ddeddf honno. Mae gorchymyn o dan adran 319B(9) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu neu ddiddymu achos y mae’r adran honno yn berthnasol iddo.)

246.Mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â gorchmynion a rheoliadau o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Mae is-adran newydd 59(5) yn nodi’r rheoliadau a’r gorchmynion hynny y mae angen cymeradwyaeth y Cynulliad cyn eu gwneud. Gall y lleill i gyd gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru heb sicrhau caniatâd y Cynulliad yn gyntaf, ond gall y Cynulliad eu dirymu.

247.Mae’r Atodlen yn gwneud diwygiadau pellach sydd eu hangen yn sgil y newidiadau hynny.