Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

2Datblygu cynaliadwy

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i arfer gan Weinidogion Cymru, awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru neu unrhyw gorff cyhoeddus arall—

(a)swyddogaeth o dan Ran 6 o DCPhG 2004 mewn perthynas â Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru, cynllun datblygu strategol neu gynllun datblygu lleol;

(b)swyddogaeth o dan Ran 3 o DCGTh 1990 mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir (neu y bwriedir ei wneud) i Weinidogion Cymru neu i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.

(2)Rhaid arfer y swyddogaeth, fel rhan o ymgymryd â datblygu cynaliadwy yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2), at ddiben sicrhau bod datblygu a defnyddio tir yn cyfrannu at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

(3)Wrth gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i gorff cyhoeddus ystyried canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys canllawiau perthnasol a ddyroddir o dan adran 14 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015).

(4)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr ystyr a roddir gan adran 6 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon, fel y mae’n gymwys mewn perthynas â swyddogaethau o dan Ran 3 o DCGTh 1990, yn addasu—

(a)pa un ai a yw sylw i’w roi i unrhyw ystyriaeth benodol o dan is-adran (2) o adran 70 o’r Ddeddf honno (penderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio), neu

(b)y pwysau sydd i’w roi i unrhyw ystyriaeth y rhoddir sylw iddi o dan yr is-adran honno.

(6)Yn adran 39 o DCPhG 2004 (datblygu cynaliadwy)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer paragraff (c);

(b)yn is-adran (3), hepgorer paragraff (b).