1Trosolwg o’r Ddeddf hon
(1)Mae’r Rhan hon yn darparu trosolwg o’r Ddeddf hon.
(2)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch datblygu cynaliadwy wrth arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio datblygu a cheisiadau am ganiatâd cynllunio.
(3)Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hon yn ymwneud â chynllunio datblygu yng Nghymru. Mae’n gwneud darpariaeth—
(a)ar gyfer llunio ac adolygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru;
(b)ar gyfer dynodi ardaloedd cynllunio strategol, sefydlu paneli cynllunio strategol a llunio cynlluniau datblygu strategol;
(c)ynghylch statws Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru a chynlluniau datblygu strategol;
(d)ynghylch cynlluniau datblygu lleol (gan gynnwys darpariaeth ynghylch cyfnod para cynlluniau, tynnu cynlluniau yn ôl a chyfarwyddydau i lunio cynlluniau ar y cyd);
(e)i fyrddau cydgynllunio arfer swyddogaethau cynllunio datblygu.
(4)Mae Rhan 3 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a threfniadau ariannol paneli cynllunio strategol.
(5)Mae Rhan 4 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth—
(a)ynghylch ymgynghoriad i’w gynnal gan ddarpar ymgeisydd ar gyfer caniatâd cynllunio;
(b)ynghylch gwasanaethau cyn ymgeisio sydd i’w darparu gan awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru.
(6)Mae Rhan 5 o’r Ddeddf hon yn ymwneud â gwneud ceisiadau penodol i Weinidogion Cymru. Mae’n gwneud darpariaeth—
(a)i geisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol yng Nghymru gael eu gwneud i Weinidogion Cymru yn hytrach nag i awdurdod cynllunio lleol;
(b)i geisiadau penodol eraill gael eu gwneud naill ai i Weinidogion Cymru neu i awdurdod cynllunio lleol.
(7)Mae Rhan 5 hefyd yn gwneud darpariaeth—
(a)i rai o swyddogaethau penodol Gweinidogion Cymru, o ran ceisiadau a wneir iddynt, gael eu harfer gan berson penodedig;
(b)ar gyfer diwygiadau pellach i ddeddfwriaeth bresennol o ran gwneud ceisiadau i Weinidogion Cymru.
(8)Mae Rhan 6 o’r Ddeddf hon yn ymwneud â rheoli datblygu a materion cysylltiedig. Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)gofynion sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer apelau pan fo awdurdod cynllunio lleol yn rhoi hysbysiad nad yw cais yn ddilys;
(b)hysbysiadau am benderfyniadau i roi caniatâd cynllunio;
(c)hysbysiadau am ddechrau datblygiad y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer;
(d)cyfnod para’r caniatâd cynllunio;
(e)ymgynghori yng nghyswllt ceisiadau ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl a cheisiadau penodol eraill;
(f)trefniadau i’w gwneud gan awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer cyflawni eu swyddogaethau sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio.
(9)Mae Rhan 6 hefyd—
(a)yn cymhwyso i Gymru ddarpariaeth statudol bresennol ynghylch o dan ba amgylchiadau y caiff awdurdod cynllunio lleol wrthod penderfynu ar ôl-gais;
(b)yn gwneud darpariaeth ynghylch cau llwybrau cyhoeddus;
(c)yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau byrddau cydgynllunio ac ynghylch pŵer Gweinidogion Cymru i sefydlu byrddau cydgynllunio.
(10)Mae Rhan 7 o’r Ddeddf hon yn ymwneud â gorfodi, apelau a gweithdrefnau cynllunio penodol eraill. Mae’n gwneud darpariaeth—
(a)o ran galluogi awdurdodau cynllunio lleol i ddyroddi hysbysiadau rhybudd gorfodi;
(b)ynghylch yr amgylchiadau pan ystyrir bod person sy’n apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio;
(c)ynghylch yr amgylchiadau pan na chaiff person apelio yn erbyn gwrthod cais am ganiatâd cynllunio neu yn erbyn hysbysiad gorfodi;
(d)o ran atal amrywio ceisiadau penodol unwaith y mae hysbysiad am apêl wedi ei gyflwyno;
(e)i apelau yn erbyn hysbysiadau mewn cysylltiad â thir sy’n cael effaith andwyol ar amwynder gael eu gwneud i Weinidogion Cymru;
(f)ynghylch y weithdrefn ar gyfer achosion penodol a thalu costau a’u dyfarnu.
(11)Mae Rhan 8 yn ymwneud â meysydd tref a phentref. Mae’n gwneud darpariaeth—
(a)o ran cyfyngu’r amgylchiadau pan ganiateir gwneud ceisiadau i gofrestru tir yn faes tref neu bentref;
(b)ynghylch penderfynu ar ffioedd mewn perthynas â cheisiadau.
(12)Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch gwneud is-ddeddfwriaeth gan Weinidogion Cymru ac ynghylch dehongli’r Ddeddf a’r Ddeddf yn dod i rym).