Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

45Newid ardal heddlu

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd o dan adran 23.

(2)Yn ogystal â’r newidiadau y caniateir eu hargymell o dan adran 23(3) caiff y Comisiwn, mewn cysylltiad ag unrhyw newid i ffin prif ardal, argymell unrhyw newidiadau i ardal neu ardaloedd heddlu (gan gynnwys newidiadau sy’n arwain at leihad neu gynnydd yn nifer ardaloedd heddlu) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 23—

(a)drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, weithredu unrhyw argymhellion i newid ardal heddlu, gydag addasiadau neu hebddynt,

(b)os yw’n bwriadu gweithredu’r argymhellion gydag addasiadau, gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad pellach o dan adran 23 o’r prif ardaloedd hynny y mae’r argymhellion yn effeithio arnynt a bennir yn y cyfarwyddyd, neu

(c)penderfynu peidio â gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b).

(5)Caniateir i orchymyn a wneir o dan yr adran hon gynnwys—

(a)darpariaeth i gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu y mae’r gorchymyn yn effeithio arni ddod yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,

(b)darpariaeth i gynnal etholiad am gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,

(c)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol.

(6)Caiff gorchymyn sy’n cynnwys darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5)(b) ei gwneud yn ofynnol i’r etholiad dan sylw gael ei gynnal cyn i’r newid i ardaloedd heddlu gael effaith.

(7)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.

(8)Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon ddarparu i brif ardal gael ei rhannu rhwng 2 neu ragor o ardaloedd heddlu.

(9)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan y adran hon nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr argymhellion wedi dod i ben.