44Cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid
(1)Caniateir i unrhyw gorff cyhoeddus y mae newid ardal, diddymu neu gyfansoddi ardal neu ward etholiadol drwy orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu drwy orchymyn o dan adran 162 o Fesur 2011 (pŵer i wneud gorchymyn cyfuno) yn effeithio arno, ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus arall yr effeithir arno ynghylch—
(a)unrhyw eiddo, incwm, hawliau neu rwymedigaethau y mae’r newid yn effeithio arnynt;
(b)unrhyw berthynas ariannol rhwng y partïon i’r cytundeb;
(c)unrhyw dreuliau y mae’r partïon yn mynd iddynt sy’n codi o ganlyniad i’r newid.
(2)Caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu—
(a)ar gyfer trosglwyddo neu gadw unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, gydag amodau neu hebddynt, ac ar gyfer defnyddio unrhyw eiddo ar y cyd;
(b)ar gyfer gwneud taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir neu a gedwir, neu ar gyfer y defnydd hwnnw ar y cyd, ac mewn cysylltiad â’r tâl neu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson;
(c)ar gyfer gwneud unrhyw daliad o’r fath drwy swm cyfalaf neu flwydd-dal terfynadwy.
(3)Pan na fo partïon yn gallu dod i gytundeb ar unrhyw fater, rhaid cyfeirio’r mater i gael ei gymrodeddu gan un cymrodeddwr y cytunir arno gan y partïon neu, os na cheir y cyfryw gytundeb, a benodir gan Weinidogion Cymru.
(4)Caiff dyfarniad y cymrodeddwr ddarparu ar gyfer unrhyw fater y caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu ar ei gyfer.
(5)Caniateir i unrhyw swm y mae’n ofynnol i gorff cyhoeddus ei dalu gael ei dalu—
(a)o’r gronfa neu’r ardreth y telir treuliau cyffredinol y corff cyhoeddus ohoni, neu
(b)o unrhyw gronfa neu ardreth arall y caiff y corff cyhoeddus benderfynu arni.
(6)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).