5Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydlafurio
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.
(2)Caiff yr awdurdod lleol, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—
(a)ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;
(b)arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.
(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—
(a)corff llywodraethu’r ysgol, a
(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—
(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.