Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

6Pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwêl yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).

(3)Caiff yr awdurdod lleol enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.

(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan yr awdurdod lleol.

(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan yr awdurdod lleol i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan yr awdurdod lleol.

(7)Caiff yr awdurdod lleol dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.